Mae’r canllaw hwn yn adlewyrchu’r darpariaethau ym Mhenodau 1 i 4, Rhan 8 o Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 (‘DCRhT’).
Cynnwys
Mae’r canllaw yn nodi pa benderfyniadau ACC mae modd eu hadolygu ac apelio yn eu herbyn a hawliau trethdalwyr i wneud cais am adolygiad gan ACC neu i apelio i'r tribiwnlys yn erbyn penderfyniad apeliadwy. Mae hefyd yn nodi’r trefniadau ar gyfer cynnal adolygiadau ACC a datrys anghydfodau.
DCRhT/5000 Ein dull o ymdrin ag anghydfodau treth
Mae ein dull o ymdrin ag anghydfodau treth yn nodi sut y byddwn yn rheoli anghydfodau gyda threthdalwyr.
Mae anghydfod yn codi pan fod trethdalwr yn anghytuno â phenderfyniad ACC. Ac mae'n bwriadu ei herio gan ddefnyddio ei hawliau statudol i adolygiad neu apelio i'r tribiwnlys.
Amcanion ein strategaeth
Wrth wraidd ein dull mae 5 amcan allweddol:
- Sicrhau tegwch system dreth Cymru.
- Sicrhau bod y swm cywir o dreth yn cael ei dalu.
- Datrys anghydfodau mewn ffordd gost-effeithiol.
- Diogelu a phrofi'r ddeddfwriaeth.
- Dylanwadu ar ymddygiad cwsmeriaid.
Sut y byddwn yn cyflawni'r amcanion hyn
Rydym am leihau'r risg o anghydfod yn codi yn y lle cyntaf. Mae hyn yn golygu nad pan fyddwn yn cyhoeddi penderfyniad apeladwy y mae ein strategaeth anghydfod yn dechrau. Mae'n dechrau pan fydd y trethdalwr yn dechrau rhyngweithio â ni.
Byddwn yn lleihau'r risg o anghydfod yn codi drwy:
- deilwra’n dull ar gyfer trethdalwyr
- manteisio i'r eithaf ar gyfleoedd i gyfathrebu â threthdalwyr yn glir ac yn eu dewis iaith
- cyfathrebu drwy gydol ein hymgysylltiad â threthdalwr
- egluro ein penderfyniadau'n glir ac yn llawn
Weithiau, bydd y trethdalwr yn dewis anghytuno â phenderfyniad ac yn ei herio. Byddwn yn gweithredu'n gyflym er mwyn datrys yr anghydfod:
- byddwn yn cytuno â’r trethdalwr ynglŷn â’r hyn nad yw’n destun anghydfod (megis ffeithiau neu ddehongliad o'r gyfraith)
- byddwn yn parhau i gyfathrebu drwy gydol yr anghydfod
Lle bynnag y bo modd, byddwn yn setlo achosion drwy gytundeb. Ond mae angen i ni gydnabod nad oes modd gwneud hynny bob amser. Bydd adegau lle mae angen i ni ymgyfreitha er mwyn diogelu ein sefyllfa.
Unwaith y bydd anghydfod wedi cau, byddwn yn dysgu ohono.
Beth mae hyn yn ei olygu i drethdalwyr
- Byddwn yn buddsoddi mwy o amser ymlaen llaw er mwyn atal anghydfodau.
- Byddwn yn ceisio datrys materion drwy gytundeb lle bynnag y bo modd.
- Fyddwn ni byth yn "rhannu'r gwahaniaeth".
- Byddwn yn trin pob mater unigol yn ôl ei rinweddau. Felly, ni fyddwn yn penderfynu peidio â mynd ymlaen ag un anghydfod os bydd y trethdalwr yn setlo un arall.
- Efallai y byddwn yn ymgyfreitha anghydfod, hyd yn oed pan mai swm bach o dreth sydd yn y fantol.
- Byddwn yn cymryd safbwynt digyfaddawd ar efadu/osgoi. Byddwn yn dod i gytundeb lle bynnag y bo modd ond ni fyddwn yn osgoi ymgyfreitha er mwyn sicrhau bod trethi Cymru'n cael eu cymhwyso yn y ffordd a fwriadwyd gan Senedd Cymru.
- Byddwn yn ystyried datrys anghydfod amgen er mwyn setlo anghydfodau lle y bo'n briodol ac yn gost-effeithiol.
DCRhT/5010 Penderfyniadau mae modd eu hadolygu ac apelio yn eu herbyn
Ystyr penderfyniad apeliadwy yw pan fydd y trethdalwr yn gofyn adolygiad o benderfyniad neu'n apelio yn erbyn penderfyniad. Mae penderfyniadau canlynol ACC sydd wedi’u rhestru yn adran 172(2) DCRhT yn rhai mae modd eu hadolygu ac apelio yn eu herbyn (gweler DCRhT/5080):
- penderfyniad sy’n effeithio ar p’un ai a oes treth ddatganoledig i’w chodi ar unigolyn
- penderfyniad sy’n effeithio ar y swm o dreth ddatganoledig sydd i’w godi ar unigolyn
- penderfyniad sy’n effeithio ar y diwrnod erbyn pryd y mae’n rhaid talu swm o dreth ddatganoledig
- penderfyniad ynglŷn â chosb sy’n ymwneud â threth ddatganoledig
- penderfyniad i ddyroddi hysbysiad gwybodaeth neu i gynnwys gofyniad penodol mewn hysbysiad o’r fath
- penderfyniad i ddyroddi hysbysiad o dan baragraff 14 o Atodlen 15 i DTTT (adennill rhyddhad grŵp: hysbysiad yn gwneud taliad yn ofynnol gan un arall o gwmnïau’r grŵp neu gyfarwyddwr â rheolaeth)
- penderfyniad i ddyroddi hysbysiad o dan baragraff 9 o Atodlen 16 i’r Ddeddf honno (adennill rhyddhad ailadeiladu neu gaffael: hysbysiad yn gwneud taliad yn ofynnol gan un arall o gwmnïau’r grŵp neu gyfarwyddwr â rheolaeth)
- penderfyniad sy’n ymwneud â’r dull sydd i’w ddefnyddio gan weithredwr safle tirlenwi awdurdodedig i bennu pwysau deunydd at ddibenion treth gwarediadau tirlenwi
- penderfyniad sy’n ymwneud â chofrestru unigolyn at ddibenion treth gwarediadau tirlenwi
- penderfyniad sy’n ymwneud â dynodi man nad yw at ddibenion gwaredu at ddibenion treth gwarediadau tirlenwi
- penderfyniad sy’n ymwneud â dynodi grŵp o gyrff corfforaethol at ddibenion treth gwarediadau tirlenwi.
Dim ond yn yr amgylchiadau canlynol y gall trethdalwr ofyn am adolygiad neu apelio yn erbyn penderfyniad i ddyroddi hysbysiad gwybodaeth, neu unrhyw ofyniad am hysbysiad o’r fath:
- os yw'n afresymol disgwyl eu bod yn gallu cydymffurfio â’r hysbysiad
- os oes unrhyw un o’r eithriadau a nodir yn adrannau 97 i 102 y DCRhT yn berthnasol, er enghraifft, os yw’r hysbysiad yn ymwneud â gwybodaeth warchodedig neu os nad yw’r wybodaeth o fewn hawliau neu ym meddiant yr unigolyn, neu
- os nad yw Amod 4 yn cael ei fodloni yng nghyswllt hysbysiad i gael gwybodaeth am ddyledwr (adrannau 92 neu 93 DCRhT). Mae Amod 4 yn ei gwneud yn ofynnol i’r unigolyn sy'n cadw’r wybodaeth fod wedi cael manylion y dyledwr yn y broses o redeg busnes.
Os bydd tribiwnlys wedi cymeradwyo dyroddi hysbysiad gwybodaeth, ni chaiff y trethdalwr ofyn am adolygiad o benderfyniad ACC i ddyroddi’r hysbysiad.
DCRhT/5020 Penderfyniadau nad oes modd eu hadolygu nac apelio yn eu herbyn
Nid oes modd adolygu nac apelio yn erbyn penderfyniadau canlynol ACC :
- penderfyniad i ddyroddi hysbysiad ymholiad dan adran 43 DCRhT mewn ffurflen dreth neu ddiwygio ffurflen dreth
- penderfyniad i ddyroddi hysbysiad ymholiad dan adran 74 DCRhT mewn hawliad neu ddiwygio hawliad mae unigolyn wedi'i wneud (gweler DCRhT/2050)
- penderfyniad i ddyroddi rhai hysbysiadau gwybodaeth penodol: hysbysiad trethdalwr (adran 86 DCRhT) neu hysbysiad trydydd parti yng nghyswllt is-ymgymeriadau (adran 90(3) DCRhT
- penderfyniad i gynnwys gofyniad penodol mewn hysbysiad trydydd parti neu hysbysiad trydydd parti yng nghyswllt is-ymgymeriadau.
DCRhT/5030 Adolygiadau
Gall trethdalwr ofyn am adolygiad i benderfyniad apeliadwy sy'n cael ei nodir uchod. Fodd bynnag, ni ellir gwneud cais am adolygiad:
- o benderfyniad i ddiwygio ffurflen dreth hunanasesu pan fydd ymholiad yn mynd rhagddo ac nad yw’r ymholiad wedi ei gwblhau
- pan fydd apêl yn erbyn y penderfyniad wedi'i gyflwyno i’r tribiwnlys ac nad yw’r apêl wedi ei thynnu'n ôl, neu mae’r tribiwnlys eisoes wedi penderfynu ar y mater hwnnw, neu
- pan fydd y trethdalwr wedi ymrwymo i gytundeb setlo ag ACC, oni bai ei fod wedi tynnu'n ôl o’r cytundeb.
DCRhT/5040 Y weithdrefn a’r terfynau amser ar gyfer gwneud cais am adolygiad
Rhaid i’r trethdalwr wneud cais am adolygiad drwy roi gwybod i ACC (‘hysbysiad am gais’), a nodi’r sail ar gyfer yr adolygiad, cyn pen 30 diwrnod i’r dyddiad y caiff y penderfyniad apeliadwy ei ddyroddi gan ACC.
Os oedd y trethdalwr wedi ymrwymo i gytundeb setlo gydag ACC ond ei fod wedi tynnu'n ôl o’r cytundeb wedi hynny, rhaid rhoi hysbysiad am gais i ACC cyn pen 30 diwrnod i'r dyddiad tynnu'n ôl.
Os yw’r cais yn ymwneud â phenderfyniad ACC i ddiwygio ffurflen dreth rhywun tra bydd ymholiad yn mynd rhagddo, rhaid i ACC gael yr hysbysiad am gais cyn pen 30 diwrnod i’r dyddiad y rhoddodd ACC wybod i’r trethdalwr bod yr ymholiad wedi'i gwblhau.
DCRhT/5050 Ceisiadau hwyr am adolygiad
Mae ACC yn fodlon ystyried cais hwyr am adolygiad os yw'n fodlon:
- bod gan y trethdalwr esgus rhesymol dros beidio â rhoi hysbysiad am gais i ACC o fewn y terfyn amser
- bod y trethdalwr wedi cyflwyno’r cais heb oedi afresymol ar ôl i’r esgus rhesymol beidio â bod yn gymwys.
Bydd ACC yn ysgrifennu at y sawl sy'n gofyn am yr adolygiad i gadarnhau p’un ai a yw'n fodlon adolygu’r penderfyniad ai peidio.
Os nad yw ACC yn cytuno i adolygu’r penderfyniad, gall y trethdalwr ofyn i’r tribiwnlys am ganiatâd ar gyfer ei gais. Rhaid i’r cais gynnwys y rheswm pam na chafodd yr hysbysiad am gais ei ddarparu mewn pryd. Dim ond os oedd esgus rhesymol dros gyflwyno’r cais yn hwyr y bydd y tribiwnlys yn mynnu bod ACC yn cwblhau’r adolygiad, neu os cafodd y cais dilynol ei wneud heb oedi afresymol, ac os cafodd yr apêl i’r tribiwnlys ei wneud heb oedi afresymol hefyd.
Os bydd y tribiwnlys yn derbyn yr apêl ac yn mynnu bod ACC yn cynnal adolygiad, rhaid i ACC gynnal yr adolygiad.
DCRhT/5060 Cynnal adolygiad
Wrth gynnal adolygiad, rhaid i ACC ystyried y camau mae wedi’u dilyn i wneud y penderfyniad ac unrhyw gamau dilynol y bydd unrhyw un yn eu cymryd i geisio datrys yr anghydfod ynghylch y mater dan sylw. Bydd yr adolygiad yn cael ei gynnal gan aelod o staff ACC nad yw wedi bod yn gysylltiedig â’r mater cyn hyn. Yn ystod yr adolygiad, efallai bydd y ACC eisiau cysylltu â’r trethdalwr i ddilysu neu esbonio gwybodaeth fel rhan o’r broses adolygu.
Rhaid i ACC sicrhau bod ganddo gyfle rhesymol i ystyried unrhyw sylwadau gan y sawl sy'n gofyn am yr adolygiad.
Wrth ddod i gasgliad ynghylch yr adolygiad, gall ACC gadarnhau, amrywio neu ganslo’r penderfyniad gwreiddiol a oedd yn destun adolygiad.
Rhaid i ganlyniad yr adolygiad gael ei gyfleu i’r sawl a ofynnodd amdano cyn pen 45 diwrnod i ACC gael yr hysbysiad am gais. Mae’n bosibl newid y cyfnod ar yr amod bod ACC a’r sawl a ofynnodd am yr adolygiad yn cytuno ar yr amser newydd.
Pan fydd y tribiwnlys wedi mynnu bod ACC yn cynnal adolygiad, rhaid i ACC roi gwybod i’r unigolyn cyn pen 45 diwrnod i dderbyn cyfarwyddyd y tribiwnlys. Mae modd newid y cyfnod hwn os bydd ACC a’r unigolyn yn cytuno.
Os nad yw ACC yn rhoi gwybod i’r unigolyn cyn pen 45 diwrnod, ystyrir bod yr adolygiad wedi dod i’r casgliad bod penderfyniad ACC i gael ei gadarnhau. Rhaid i ACC roi gwybod i’r sawl wnaeth gyhoeddi’r hysbysiad am gais mai dyma ganlyniad yr adolygiad.
DCRhT/5070 Effaith casgliadau adolygiad
Caiff casgliadau adolygiad eu trin fel petai’r tribiwnlys wedi pennu apêl yn erbyn penderfyniad ACC.
Fodd bynnag, ni fydd casgliadau’r adolygiad yn berthnasol os bydd ACC a’r sawl sy'n gofyn am yr adolygiad yn ymrwymo i gytundeb setlo yng nghyswllt pwnc yr adolygiad, neu os bydd y mater yn cael ei benderfynu drwy apêl i'r tribiwnlys wedi hynny.
Ni ddylid trin casgliadau’r adolygiad fel petaent yn cael eu pennu gan dribiwnlys at ddibenion adrannau 9 a 10 (Adolygiad o benderfyniadau Tribiwnlysoedd Haen Gyntaf ac Uwch Dribiwnlysoedd), 11 (Yr hawl i apelio i Uwch Dribiwnlys), 12 (Achosion wrth apelio i Uwch Dribiwnlys) ac 13 (Yr hawl i apelio i’r Llys Apêl ac ati) Deddf Tribiwnlysoedd, Llysoedd a Gorfodaeth 2007.
DCRhT\5080 Apeliadau
Gall trethdalwr apelio i’r tribiwnlys yn erbyn penderfyniad apeliadwy fel y nodir yn DCRhT/5010. Fodd bynnag, does dim modd apelio:
- yn erbyn penderfyniad ACC i ddiwygio ffurflen dreth rhywun pan fydd ymholiad yn mynd rhagddo ac nad yw’r ymholiad wedi ei gwblhau
- pan fydd cais am adolygiad gan ACC wedi'i gyflwyno ac nad yw’r cyfnod lle mae’n rhaid cwblhau’r adolygiad wedi dod i ben eto, neu
- pan fydd yr unigolyn wedi ymrwymo i gytundeb setlo ag ACC, ac nad yw wedi tynnu'n ôl o’r cytundeb.
DCRhT/5090 Terfyn amser ar gyfer gwneud apêl
Os bydd unigolyn yn dymuno apelio yn erbyn penderfyniad apeliadwy, rhaid iddo wneud hynny i’r tribiwnlys (‘hysbysiad o apêl’) cyn pen 30 diwrnod i'r canlynol:
- os nad yw’r unigolyn wedi gofyn am adolygiad, y dyddiad y rhoddodd ACC wybod iddo am y penderfyniad apeliadwy
- os yw’r unigolyn wedi gofyn am adolygiad, y dyddiad y rhoddodd ACC wybod iddo am gasgliadau’r adolygiad
- os yw’r unigolyn wedi ymrwymo i gytundeb setlo ag ACC ond wedi tynnu’n ôl o’r cytundeb wedi hynny, dyddiad y tynnu'n ôl, neu
- os yw mewn perthynas â phenderfyniad gan ACC i ddiwygio ffurflen dreth unigolyn tra bydd ymholiad yn mynd rhagddo, y dyddiad y cafodd yr unigolyn wybod bod yr ymholiad wedi'i gwblhau.
DCRhT/5100 Gwneud apêl yn hwyr
Gall unigolyn gyflwyno apêl hwyr yn erbyn penderfyniad apeliadwy, gyda chaniatâd y tribiwnlys. Bydd y tribiwnlys yn rhoi gwybod i’r unigolyn am ei benderfyniad o ran p’un ai a yw'n caniatáu’r hysbysiad o apêl hwyr ai peidio.
DCRhT/5110 Penderfynu ar apêl
Pan fydd unigolyn wedi rhoi hysbysiad o apêl bydd y tribiwnlys yn penderfynu ar y mater dan sylw a gall ddod i’r casgliad y bydd y penderfyniad yn cael ei gadarnhau, ei amrywio neu ei ganslo.
DCRhT/5120 Talu ac adennill treth sy'n destun adolygiad neu apêl
Os bydd unigolyn wedi gofyn am adolygiad o benderfyniad neu wedi apelio yn erbyn penderfyniad, nid yw hyn yn effeithio ar unrhyw ofyniad arno i dalu swm o dreth ddatganoledig (neu, yn achos Treth Gwarediadau Tirlenwi, swm o gredyd treth).
Ceisiadau i ohirio
Os yw person wedi gofyn am adolygiad neu wedi apelio yn erbyn penderfyniad ACC, a’u bod yn credu fod gormod o dreth wedi’i chodi o ganlyniad i'r penderfyniad hwnnw, gallant wneud cais i ACC am iddynt ohirio adennill y dreth (a llog ar y swm hwnnw), sef 'cais i ohirio'.
Mae'r canllawiau hyn yn crynhoi'r prif agweddau o ran gwneud cais am gais i ohirio, ond efallai y bydd angen i chi gyfeirio at y darpariaethau deddfwriaethol llawn yn adrannau 181A - 181J o Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 os yw'r pwnc hwn yn berthnasol i chi.
Yr amser ar gyfer gwneud ceisiadau i ohirio
Pan fo cais i ohirio’yn ymwneud â phenderfyniad lle mae adolygiad wedi’i gynnal neu wedi’i ofyn amdano, rhaid gwneud y cais o fewn yr amser a ganiateir ar gyfer gofyn am adolygiad (mae hyn yn aml o fewn 30 diwrnod i benderfyniad gael ei wneud ond gweler DCRhT/5040 am fwy o wybodaeth), neu, os gwneir cais hwyr am adolygiad, rhaid gwneud y cais i ohirio ar yr un pryd.
Pan fo cais i ohirio’n ymwneud â phenderfyniad lle mae apêl wedi'i cheisio neu yn cael ei cheisio, rhaid gwneud y cais o fewn yr amser a ganiateir ar gyfer gofyn am adolygiad (mae hyn yn aml o fewn 30 diwrnod wedi i benderfyniad gael ei wneud neu o fewn 30 diwrnod wedi i ACC gyhoeddi casgliad yr adolygiad ond gweler DCRhT/5090 am fwy o wybodaeth), neu, os yw'r tribiwnlys yn rhoi caniatâd i apelio’n hwyr, rhaid gwneud y cais i ohirio’r un pryd ag y gofynnir am ganiatâd.
Gall ACC hefyd ystyried ceisiadau hwyr i ohirio os oes gan y sawl sy'n gwneud y cais esgus rhesymol dros fethu â gwneud y cais o fewn yr amserlen ofynnol a’u bod wedi gwneud y cais wedi hynny heb oedi afresymol.
Gwybodaeth y dylai cais i ohirio ei chynnwys
Pan anfonir cais i ohirio at ACC, rhaid i’r cais roi'r wybodaeth ganlynol:
- swm y dreth yr ystyrir ei bod yn ormodol
- y rhesymau dros gredu bod y swm yn ormodol
Pan fydd y cais yn ymwneud â’r TGT, mae hefyd angen iddo nodi’r rhesymau pam y byddai adennill y swm (gan gynnwys unrhyw log) yn achosi caledi ariannol.
Rhaid i ACC roi hysbysiad o'i benderfyniad ar gais i ohirio i'r person a wnaeth y cais.
Caniatáu cais i ohirio
Mae gan ACC y pŵer i ganiatáu cais i ohirio os yw'n fodlon bod gan yr unigolyn sail resymol dros feddwl bod swm y dreth ddatganoledig yn ormodol. Yn achos cais i ohirio Treth Gwarediadau Tirlenwi, bydd angen i ACC hefyd fod â rheswm i gredu y byddai adennill y dreth yn achosi caledi ariannol.
Gall ACC ganiatáu cais i ohirio ar ran o swm.
Os caiff ei gymeradwyo, gall rhan o’r gohiriad neu’r gohiriad cyfan ei wneud yn amodol ar ddarparu gwarant ychwanegol.
Os na chaniateir cais i ohirio
Os na fydd ACC yn caniatáu cais i ohirio, gellir apelio yn erbyn y penderfyniad hwn i'r Tribiwnlys. Rhaid gwneud yr apêl o fewn 30 diwrnod ar ôl i ACC gyhoeddi'r penderfyniad. Gall y Tribiwnlys gadarnhau, canslo neu ddisodli penderfyniad ACC.
Amrywio penderfyniad i ohirio
Ar ôl i gais i ohirio gael ei ganiatáu, gellir ei amrywio os bydd newid yn yr amgylchiadau. Gall hyn gynnwys newid faint o dreth a gaiff ei gohirio neu'r amodau sydd ynghlwm wrth y gohirio. Gall naill ai ACC neu'r trethdalwr ofyn am amrywiad a rhaid i'r ddau barti gytuno arno. Os cytunir arno, bydd ACC yn rhoi hysbysiad i'r trethdalwr o’r penderfyniad yma.
Os na ellir dod i gytundeb cyn pen 21 diwrnod ar ôl y cais am amrywiad, gall y trethdalwr neu ACC wneud cais i'r Tribiwnlys am benderfyniad ar yr amrywiad. Gall y Tribiwnlys wrthod neu gytuno ar yr amrywiad neu gynnig ei amrywiad ei hun.
Adennill treth yn ystod y cyfnod gohirio
Unwaith y bydd cais i ohirio wedi’i ganiatáu, ni all ACC geisio adennill unrhyw swm o dreth a ohiriwyd yn ystod y cyfnod gohirio. Bydd y cyfnod gohirio fel arfer yn dechrau ar y diwrnod y bydd y cais i ohirio’n cael ei wneud ac yn gorffen ar y diwrnod y bydd yr adolygiad neu'r apêl perthnasol yn cael ei gwblhau.
Efallai y bydd yn bosibl gwneud rhagor o geisiadau i ohirio os bydd rhagor o apeliadau’n cael eu gwneud i'r Tribiwnlys.
DCRhT/5130 Canlyniadau adolygiadau ac apeliadau
Talu cosbau yn achos adolygiad neu apêl
Pan fydd ACC yn cynnal adolygiad i swm y gosb y mae’r trethdalwr yn anghytuno ag ef a bod yr adolygiad yn dod i’r casgliad bod y trethdalwr yn atebol, mae’n rhaid i’r trethdalwr dalu’r gosb cyn pen 30 diwrnod i ddyddiad yr hysbysiad yn rhoi gwybod iddo am ganlyniad yr adolygiad.
Os bydd y trethdalwr yn apelio yn erbyn y penderfyniad, ond yn tynnu’r apêl yn ôl wedi hynny, rhaid iddo dalu'r gosb cyn pen 30 diwrnod i’r dyddiad tynnu'n ôl.
Os bydd canlyniad yr apêl yn nodi bod y trethdalwr yn atebol, rhaid iddo dalu’r gosb cyn pen 30 diwrnod i’r dyddiad y penderfynwyd ar yr apêl.
Penderfynu ar adolygiadau ac apeliadau yng nghyswllt hysbysiadau gwybodaeth
Pan fydd adolygiad yn dod i’r casgliad y bydd hysbysiad gwybodaeth yn cael ei gadarnhau neu ei amrywio, rhaid i’r sawl sy'n derbyn yr hysbysiad gydymffurfio â’r hysbysiad gwybodaeth o fewn cyfnod fydd yn cael ei bennu gan ACC.
Os bydd y tribiwnlys yn cadarnhau neu'n amrywio hysbysiad gwybodaeth, rhaid i’r sawl sy'n derbyn yr hysbysiad gydymffurfio â’r hysbysiad mewn cyfnod fydd wedi'i bennu gan y tribiwnlys neu ACC.
Atal ad-daliadau pan fo apêl bellach yn yr arfaeth
Os bydd y tribiwnlys yn penderfynu bod angen ad-dalu swm o dreth i’r trethdalwr ar ôl apêl, efallai bydd ACC yn gofyn caniatâd y tribiwnlys i ohirio ad-dalu’r swm nes bydd penderfyniad yn cael ei wneud ynghylch apêl arall, neu os bydd ACC yn gallu cael sicrwydd am y swm. Rhaid i’r tribiwnlys gytuno i’r cais os yw’n caniatáu apêl arall, neu os yw’n meddwl bod angen gohirio er mwyn diogelu’r refeniw.
Os nad yw’r tribiwnlys yn cytuno i gais ACC am apêl arall, efallai bydd ACC yn gofyn am ganiatâd i gyflwyno apêl arall dan adrannau 11(4)(b) (i’r Uwch Dribiwnlys) neu 13(4)(b) (i lys apeliadol arall) Deddf Tribiwnlysoedd, Llysoedd a Gorfodaeth 2007. Fel arall, mae penderfyniad y tribiwnlys yn derfynol.
DCRhT/5140 Cytundebau setlo
Gall ACC a’r trethdalwr ymrwymo i gytundeb setlo, sy'n gallu cadarnhau, amrywio neu ganslo’r penderfyniad gwreiddiol sy'n destun yr adolygiad neu’r apêl.
Mae effaith neu ganlyniadau cytundeb setlo yr un fath â phetai’r tribiwnlys wedi penderfynu ar apêl yng nghyswllt y mater dan sylw drwy gadarnhau, amrywio neu ganslo’r penderfyniad (pa bynnag un sy'n berthnasol). Fodd bynnag, ni ddylid trin cytundeb setlo fel penderfyniad y tribiwnlys at ddibenion adrannau 9 a 10 (Adolygiad o benderfyniadau Tribiwnlysoedd Haen Gyntaf ac Uwch Dribiwnlysoedd), 11 (Yr hawl i apelio i Uwch Dribiwnlys), 12 (Achosion wrth apelio i Uwch Dribiwnlys) ac 13 (Yr hawl i apelio i’r Llys Apêl ac ati) Deddf Tribiwnlysoedd, Llysoedd a Gorfodaeth 2007.)
Nid yw’r paragraff uchod yn berthnasol:
- pan fydd y trethdalwr yn tynnu'n ôl o’r cytundeb setlo drwy roi gwybod i ACC cyn pen 30 diwrnod i’r dyddiad y gwnaeth ymrwymo i’r cytundeb setlo, neu
- pan nad yw’r cytundeb setlo mewn ysgrifen, oni bai bod y ffaith bod y trethdalwr wedi ymrwymo i gytundeb, ac wedi cytuno ar y telerau, wedi’u cadarnhau mewn hysbysiad ysgrifenedig gan ACC i’r trethdalwr neu'r trethdalwr i ACC.
Ni ellir ymrwymo i gytundeb setlo yng nghyswllt penderfyniad apeliadwy, os oes penderfyniad terfynol wedi’i wneud ynghylch apêl.