Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno canfyddiadau gwerthusiad o’r Cynllun Sabothol Iaith Gymraeg ar gyfer ymarferwyr addysg (‘y Cynllun’). Comisiynwyd Arad, mewn partneriaeth ag ymchwilwyr o gwmni Iaith Cyf., i gwblhau’r gwerthusiad, a chasglwyd y dystiolaeth rhwng Mawrth 2019 a Mawrth 2020.

Ynglŷn â’r Cynllun Sabothol

Mae’r Cynllun yn cynnig cyfnodau o astudio dwys, i ffwrdd o’r ystafell ddosbarth, er mwyn i ymarferwyr addysg ddatblygu sgiliau iaith Gymraeg a meithrin hyder mewn methodolegau addysgu dwyieithog a chyfrwng Cymraeg. Mae rhaglen o gyrsiau yn cael eu darparu ledled Cymru o dan gytundeb gyda Llywodraeth Cymru. Yn ystod y cyfnod dan sylw yn y gwerthusiad, sef y blynyddoedd academaidd 2013/14 hyd at 2018/19, gwnaeth 1,299 o ymarferwyr gymryd rhan yn un o’r cyrsiau.

Mae’r cyrsiau ar gael ar wahanol lefelau:

  • Mynediad, sy’n gwrs amser llawn, 5 wythnos, ar gyfer cynorthwywyr dysgu sydd yn gweithio mewn ysgolion cynradd cyfrwng Saesneg
  • Sylfaen, sy’n gwrs amser llawn, 11 wythnos, ar gyfer athrawon mewn ysgolion cynradd cyfrwng Saesneg
  • Uwch, sydd yn gwrs rhan amser neu lawn amser ar gyfer athrawon neu gynorthwywyr dysgu, sydd yn siaradwyr Cymraeg eisoes
  • Canolradd ar gyfer ymarferwyr mewn ysgolion cynradd cyfrwng Saesneg (cyfeirir at y cyrsiau hyn fel ‘cyrsiau bloc’)

Ers Medi 2017 mae cwrs un flwyddyn amser llawn ar gael ar gyfer athrawon mewn ysgolion cynradd cyfrwng Saesneg, sef Cymraeg mewn Blwyddyn. 

Caiff y cyrsiau Sabothol eu darparu gan dri darparwr hyfforddiant trwy gytundeb gyda Llywodraeth Cymru. Y tri darparwr a gytundebwyd i ddarparu yn ystod y cyfnod dan sylw oedd Prifysgol Bangor, Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.

Yn y flwyddyn academaidd 2018/19 roedd cyllideb o £3.38m i weithredu’r Cynllun, ac yn y flwyddyn academaidd honno darparwyd cyrsiau bloc ar ystod o lefelau gyda 143 cyfranogwr, a phum cwrs Cymraeg Mewn Blwyddyn mewn pedwar lleoliad ar draws Cymru gyda 68 cyfranogwr.

Nod y gwerthusiad a’r dulliau ymchwil

Nod y gwerthusiad oedd asesu traweffaith y Cynllun ac archwilio dwy elfen:

  • sut, ac i ba raddau, y mae’r Cynllun yn cyfrannu at newid yn y modd y mae’r Gymraeg yn cael ei haddysgu neu yn cael ei defnyddio fel cyfrwng addysgu mewn ysgolion
  • chyfraniad y Cynllun i ddarpariaeth datblygiad proffesiynol iaith Gymraeg neu gyfrwng Cymraeg i ymarferwyr

Defnyddiodd y gwerthusiad gyfuniad o ddulliau er mwyn archwilio’r cwestiynau ymchwil. Roedd y fethodoleg yn cynnwys:

  • ymchwil ddesg
  • cyfweliadau gyda swyddogion o’r pedwar consortiwm addysg rhanbarthol, Llywodraeth Cymru a’r darparwyr hyfforddiant
  • cyfweliadau ffôn gyda 46 o ymarferwyr oedd wedi cymryd rhan yn y cyrsiau bloc ac wyth o athrawon a fu ar gwrs Cymraeg Mewn Blwyddyn
  • chyfweliadau ffôn gyda sampl o 26 o benaethiaid ac uwch reolwyr lle roedd ymarferwyr o’u hysgol wedi dilyn cwrs Sabothol

Theori newid

Y theori sylfaenol sy’n sail i’r Cynllun yw bod angen gwella sgiliau Cymraeg ymarferwyr a’u defnydd o fethodolegau addysgu, a bod cynnal cyrsiau Sabothol i ffwrdd o’r gweithle yn ffordd briodol o wella’r sgiliau hyn.

Mae’r theori newid a baratowyd fel rhan o’r gwerthusiad yn nodi’r camau sydd yn arwain o gynllunio ar lefel leol, ranbarthol a chenedlaethol at y gweithgareddau cysylltiedig o recriwtio ymarferwyr a darparu hyfforddiant, ac yna at allbynnau disgwyliedig y gweithgareddau hynny: gwelliant mewn sgiliau iaith Gymraeg a sgiliau addysgu Cymraeg yr ymarferwyr sy’n mynychu’r cyrsiau. Mae'r theori yn dangos y dylai gwella’r sgiliau hyn gyfrannu at effeithiau tymor hwy megis gwella addysgu Cymraeg mewn ysgolion, cynyddu nifer yr ymarferwyr sy'n gallu addysgu Cymraeg a thrwy gyfrwng y Gymraeg, a chynyddu nifer siaradwyr Cymraeg. 

Mae’r theori newid yn nodi'r rhagdybiaethau neu’r amodau y mae angen iddynt fod ar waith, er mwyn cyrraedd yr allbynnau a’r canlyniadau hyn. Mae’r theori hefyd yn ystyried y ffactorau allanol, sydd y tu hwnt i reolaeth uniongyrchol y Cynllun (yn cynnwys y  strategaethau a’r polisïau cenedlaethol ehangach) sydd yn gallu dylanwadu ar gynnydd ar hyd y camau hyn.

Canfyddiadau

Cynllunio a defnydd strategol o’r Cynllun Sabothol  

Ar lefel genedlaethol, mae strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer y Gymraeg, Cymraeg 2050: miliwn o siaradwyr, cyflwyno’r cwricwlwm newydd, a’r safonau proffesiynol yn dylanwadu ar yr angen i wella sgiliau Cymraeg y gweithlu ac felly’r angen am yr hyfforddiant sydd ar gael trwy’r Cynllun.

Mae swyddogion rhanbarthol yn defnyddio amryw o ddulliau i gasglu gwybodaeth am yr anghenion a'r galw posibl am gyrsiau hyfforddiant ymhlith ymarferwyr yn eu hardal. Fodd bynnag, daeth yn amlwg o’r dystiolaeth a gasglwyd bod y data sydd ar gael ar lefel lleol a rhanbarthol yn ddibynnol ar y wybodaeth a gesglir gan unigolion o fewn y consortia a'r awdurdodau lleol. Nid yw ansawdd a natur y data hwn yn gyson, ac mewn rhai achosion mae’n anecdotaidd ei natur. Nid oes cofnod cyson o’r wybodaeth hon, ac ni chaiff ei rhannu'n eang.

Recriwtio

Swyddogion y consortia ac athrawon bro'r awdurdodau lleol sydd yn bennaf gyfrifol am ymgysylltu gydag ysgolion a recriwtio’r ymarferwyr i’r cyrsiau. Canfuwyd bod y broses recriwtio, er yn heriol ar adegau, yn cael ei thargedu at yr ysgolion hynny lle mae’r angen mwyaf am hyfforddiant wedi ei adnabod. Mae’r broses recriwtio yn ddibynnol ar sicrhau bod amser ac adnoddau i ymgysylltu â’r ysgolion, a nododd swyddogion consortia fod yr amser a'r adnoddau a oedd ar gael iddynt ganolbwyntio ar y broses recriwtio hon yn brin ar adegau. Nododd rhai rhanddeiliaid bod diffyg cyfathrebu a rhannu gwybodaeth rhwng partneriaid wedi achosi rhwystrau yn y gorffennol.

Er mai dim ond nifer fach o enghreifftiau o heriau yn y broses recriwtio a gafwyd gan y rhanddeiliaid a gyfwelwyd, maent yn tynnu sylw at y dryswch sy’n gallu codi pan fo nifer o sefydliadau yn ymgymryd â phrosesau tebyg o ran marchnata a recriwtio. Ar sail y dystiolaeth a gasglwyd, mae’n ymddangos fod lle i wella’r prosesau cyfathrebu a rhannu gwybodaeth rhwng yr holl sefydliadau sy'n rhan o'r broses recriwtio.

Penderfynu cymryd rhan

Yr angen i ddatblygu sgiliau a fyddai'n cefnogi rhai o nodau strategol iaith Gymraeg yr ysgol (ac yn arbennig i baratoi ar gyfer y cwricwlwm newydd) oedd y prif reswm a nodwyd gan benaethiaid dros annog ymarferwyr i fynychu naill ai'r cyrsiau Mynediad neu Sylfaen. Roedd y rhesymau a nodwyd gan benaethiaid dros gymryd rhan yn y cyrsiau Uwch yn cyfeirio i raddau helaeth at yr angen i wella safon ieithyddol ymarferwyr unigol. Ymysg penaethiaid a oedd wedi cefnogi ymarferydd Cymraeg Mewn Blwyddyn cafwyd mwy o enghreifftiau lle'r oedd y penaethiaid, neu aelodau eraill o’r uwch dim rheoli, wedi bod yn rhagweithiol ac wedi rhoi mwy o bwyslais ar ddewis (neu wrthod caniatáu i) ymarferwyr i fynychu’r cwrs. Mae'r canfyddiadau hyn yn awgrymu bod penaethiaid yn ystyried y cyfleoedd uwchsgilio a gynigir gan y Cynllun fel rhai sy’n cyd-fynd ag anghenion strategol iaith Gymraeg eu hysgol a’u bod yn edrych ar yr hyfforddiant a gynigir trwy’r Cynllun fel ffordd o fynd i'r afael â nhw.

Roedd cymhelliant ymarferwyr i ymgeisio yn amrywio yn ôl lefel y cwrs, ond nododd y rhan fwyaf o ymarferwyr, ar draws bob lefel cwrs, resymau'n ymwneud â'u hawydd i wella sgiliau Cymraeg fel rhan o'u datblygiad proffesiynol eu hunain.

Barn ar y cyrsiau

Roedd consensws cryf ymysg yr ymarferwyr a’r penaethiaid bod strwythur a chynnwys y cyrsiau yn addas ar eu cyfer. Nododd nifer helaeth (yn ddigymell) eu bod o'r farn bod y ddarpariaeth addysgu hefyd o safon uchel iawn. Roedd dros hanner yr ymarferwyr a gyfwelwyd (o bob lefel cwrs) o’r farn bod eu cwrs yn ddwys iawn, ond bron ym mhob achos, nododd yr ymarferwyr hyn eu bod yn teimlo i’r profiad fod yn un gwerth chweil, er yn heriol. Roedd darparwyr hyfforddiant a swyddogion rhanbarthol o’r farn bod cynnwys a strwythur y cyrsiau yn addas i anghenion ymarferwyr, ond codwyd ambell bwynt ganddynt am sut y gellid, yn eu barn hwy, wella’r ddarpariaeth sydd ar gael ar hyn o bryd.

Roedd pob un swyddog rhanbarthol a gyfwelwyd, yn ogystal â rhai darparwyr a phenaethiaid, yn awyddus i ystyried dulliau eraill ac amgen o ddatblygu sgiliau Cymraeg. Mae'r syniadau a gynigiwyd gan rai yn codi cwestiynau am ddealltwriaeth y gwahanol rhanddeiliaid o hyd a lled y Cynllun. Mae’n amlwg bod galw am fwy o hyfforddiant a chymorth iaith Gymraeg i ymarferwyr, yn ychwanegol i'r hyn sydd ar gael ar hyn o bryd. Fodd bynnag, mae rôl eisoes gan gonsortia i ddarparu’r math hwn o hyfforddiant llai dwys i ategu’r Cynllun. Ar sail y dystiolaeth a gasglwyd, mae’n ymddangos y gallai fod angen ystyried ymhellach sut mae ymarferwyr a phenaethiaid yn deall ac yn defnyddio’r Cynllun, yn hytrach na bod angen i’r Cynllun newid.

Cefnogaeth ddilynol wedi’r cyrsiau: y consortia rhanbarthol

Ystyriodd y gwerthusiad faint o gymorth roedd ysgolion ac ymarferwyr yn ei dderbyn fel rhan o’r Cynllun ar ôl iddynt orffen y cwrs, a pha weithgareddau eraill roedd ymarferwyr ac ysgolion yn eu gwneud er mwyn cynnal y sgiliau a ddatblygwyd yn ystod y cwrs. 

Rôl y consortia yw darparu cefnogaeth ddilynol i’r cyrsiau, ac maent yn gwneud hyn trwy gefnogaeth athrawon bro/athrawon ymgynghorol yr ysgolion. Mae ariannu’r ddarpariaeth hon, fodd bynnag, y tu allan i gytundeb y Cynllun, a phenderfyniad i’r consortia unigol yw beth i’w ariannu a sut y gwneir hynny. Gall y consortia rhanbarthol ddefnyddio’r Grant Gwella Ysgolion Consortia Rhanbarthol i ariannu’r ddarpariaeth hon.

Nododd mwyafrif yr ymarferwyr a gyfwelwyd nad oeddent wedi derbyn unrhyw gymorth gan unrhyw un y tu allan i'r ysgol yn dilyn y cyrsiau. Esboniodd rhai ymarferwyr a phenaethiaid, fodd bynnag, eu bod wedi derbyn cefnogaeth i weithredu'r hyn a ddysgwyd ar y cwrs, gan gynnwys ymweliadau ysgol gan athrawon bro neu swyddog consortiwm i arsylwi a chynnig adborth ar wersi, gwersi gloywi a chymorth cynllunio. Nododd 20 o'r 54 o ymarferwyr a gyfwelwyd eu bod wedi cael cymorth gan eu penaethiaid neu gydweithwyr eraill yn eu hysgol i'w cynorthwyo i weithredu'r sgiliau Cymraeg yr oeddent wedi'u dysgu. Roedd enghreifftiau o'r cymorth yn amrywio o gydweithwyr Cymraeg eu hiaith yn gwneud ymdrech benodol i siarad Cymraeg â nhw y tu allan i'r ystafell ddosbarth, i sesiynau penodol gyda'r pennaeth neu yn ystod diwrnodau hyfforddiant mewn swydd.

Nododd rhan fwyaf yr ymarferwyr a phenaethiaid y byddent yn croesawu mwy o gefnogaeth ar ôl y cwrs. Yn achos y cwrs Cymraeg Mewn Blwyddyn yn arbennig, rhannodd ymarferwyr, penaethiaid a darparwyr yr un dyhead o’r angen, yn eu tyb hwy, i ffurfioli ychydig ar yr ôl-ofal sydd ar gael yn y cyfnod ar ôl y cwrs, efallai fel rhan o'u telerau i ymgymryd â'r cwrs. Roedd nifer o'r cyfweleion o’r farn y dylid cynnwys yr elfen ôl-ofal hon fel rhan o'r Cynllun. Awgryma hyn bod rhai ymarferwyr a phenaethiaid yn cam-ddehongli rôl y Cynllun fel un sy'n cefnogi datblygiad parhaus sgiliau ac arferion addysgu ymarferwyr.

Datblygiad proffesiynol parhaus

Nid rôl y Cynllun na chyfrifoldeb y consortia rhanbarthol yn unig yw cefnogi datblygiad parhaus sgiliau Cymraeg ymarferwyr unigol. Mae gan ysgolion ac ymarferwyr unigol gyfrifoldeb dros eu datblygiad proffesiynol parhaus eu hunain. Roedd tystiolaeth glir yn ffurflenni cais y Cynllun o fwriad nifer o ymarferwyr i ddefnyddio'r cyrsiau fel rhan o'u datblygiad proffesiynol personol. Fodd bynnag, prin iawn oedd yr enghreifftiau oedd gan ymarferwyr i'w cynnig yn ystod cyfweliadau, a nifer fechan yn unig a nododd eu bod wedi parhau i chwilio am gyfleoedd i ddatblygu eu sgiliau iaith Gymraeg a'u methodolegau addysgu dwyieithog a chyfrwng Cymraeg ar ôl iddynt gwblhau'r cwrs. 

Rhoddwyd sawl rheswm ymarferol dros beidio â datblygu eu sgiliau ymhellach (e.e. pwysau amser, cyfrifoldebau y tu allan i’r ysgol; wedi newid rôl yn yr ysgol). Er hyn, mae’r dystiolaeth yn awgrymu nad yw cynnal y sgiliau ar y cyfan wedi bod yn flaenoriaeth iddynt hwy fel ymarferwyr nac i’w hysgolion dros y blynyddoedd wedi’r cwrs. Ar sail y dystiolaeth a gasglwyd mae’n ymddangos fod nifer o ymarferwyr a’u penaethiaid yn ystyried eu cyfranogiad yn y Cynllun fel yr uni gam sydd ei angen mewn perthynas â’u sgiliau iaith Gymraeg yn hytrach na un cam yn unig o fewn datblygiad proffesiynol parhaus..

Effaith y cyrsiau a'r Cynllun: effaith ar sgiliau ieithyddol

Casglwyd barn ymarferwyr ar sut ac i ba raddau maent yn rhoi’r sgiliau a’r arferion addysgu a ddatblygwyd ar waith, a’r effaith mae hyn wedi ei gael ar y ffordd maent yn addysgu’r Gymraeg neu yn defnyddio’r Gymraeg fel cyfrwng addysgu. Nododd bob un o'r ymarferwyr a gyfwelwyd fod eu sgiliau iaith Gymraeg, yn eu barn hwy, wedi gwella. Nododd y rhan fwyaf o ymarferwyr bod eu hyder i ddefnyddio'r sgiliau hynny wedi datblygu neu wella, o ganlyniad i gymryd rhan yn y cwrs Sabothol.

Nododd y cynorthwywyr oedd wedi mynychu’r cwrs lefel Mynediad eu bod yn teimlo eu bod wedi datblygu digon o sgiliau Cymraeg i'w galluogi i ddefnyddio'r sgiliau hyn yn effeithiol yn yr ystafell ddosbarth. Nododd rhan fwyaf yr ymarferwyr a fu ar y cwrs Sylfaen hefyd eu bod o’r farn bod eu sgiliau wedi gwella a’u hyder yn y Gymraeg wedi cynyddu yn dilyn y cwrs. Nododd pob un o’r cyfweleion a fu ar gyrsiau Uwch eu bod yn credu bod cynnydd sylweddol wedi bod yng nghywirdeb eu hiaith, yn enwedig eu hiaith ysgrifenedig.

Roedd enghreifftiau o gynnydd mewn sgiliau ieithyddol yn fwy niferus ymhlith y rhai oedd wedi dilyn y cwrs Cymraeg Mewn Blwyddyn. Roedd rhan fwyaf ymarferwyr y cwrs Cymraeg Mewn Blwyddyn yn teimlo eu bod bron yn rhugl yn y Gymraeg wedi cwblhau’r cyfnod sabothol, ac o ganlyniad i’r cwrs. Amlygwyd hyn yn y ffaith bod chwech allan o’r wyth a gyfwelwyd wedi dewis cynnal y cyfweliad yn gyfan gwbl drwy gyfrwng y Gymraeg. Cynigiodd yr ymarferwyr hyn enghreifftiau o sut roedd y cynnydd yn eu sgiliau a'u geirfa Gymraeg wedi eu galluogi i gyflwyno gwersi cyfrwng Cymraeg ar draws nifer o bynciau, ac i fod yn hyderus wrth gywiro gwaith ysgrifenedig a llafar disgyblion yn eu hysgol.

Er bod yr ymarferwyr o’r farn bod eu sgiliau ieithyddol wedi cynyddu ers mynychu’r cwrs, nid yw'n bosibl priodoli gallu ieithyddol ymarferwyr ar ddiwedd y cwrs yn gyfan gwbl i'r hyfforddiant a dderbyniwyd. Mae gallu ieithyddol ymarferwyr ar ddiwedd y cwrs hefyd yn rhannol ddibynnol ar eu gallu ieithyddol ar ddechrau'r cwrs.

Effaith y cyrsiau a'r Cynllun: effaith ar fethodoleg addysgu

Yn ogystal â gwella sgiliau ieithyddol ymarferwyr, mae’r cyrsiau Sabothol yn rhoi hyfforddiant ar fethodolegau addysgu i’r cyfranogwyr. Ymarferwyr fu ar y cwrs Sylfaen a rannodd y rhan fwyaf o enghreifftiau o sut roeddent wedi addasu a newid eu dulliau addysgu ar ôl gorffen y cwrs, a nodwyd ganddynt fod y dulliau a ddatblygwyd o ran sut i addysgu Cymraeg fel ail iaith wedi bod yn arbennig o ddefnyddiol iddynt ac wedi eu galluogi i gyflwyno mwy o Gymraeg mewn pynciau eraill ar draws y cwricwlwm.

Dywedodd pob un o’r cynorthwywyr dysgu a fu ar y cwrs Mynediad eu bod wedi cyflwyno mwy o Gymraeg i'r ystafell ddosbarth o ganlyniad i'r cwrs, a chynigiodd holl gyfranogwyr y cwrs Cymraeg Mewn Blwyddyn enghreifftiau o sut roeddent wedi cyflwyno mwy o Gymraeg ar draws y cwricwlwm yn eu dosbarthiadau. Er bod ymarferwyr y cwrs lefel Uwch eisoes yn defnyddio’r Gymraeg, roeddent yn teimlo bod y cwrs wedi gwella cywirdeb eu hiaith, ac yn eu barn hwy, gwella ansawdd cyflwyniad eu gwersi.

Er bod yr enghreifftiau a nodwyd uchod yn darparu tystiolaeth anecdotaidd sy'n ymwneud â'r sgiliau a ddatblygir a sut y cânt eu defnyddio, nid oes tystiolaeth ehangach o sut y defnyddir y sgiliau a ddatblygwyd gan yr holl ymarferwyr a fynychodd y cyrsiau na'r gwahaniaeth a wnânt. Disgwylir i ysgolion nodi tystiolaeth yn eu cynlluniau datblygu ysgolion o sut mae'r hyfforddiant hwn wedi gwneud gwahaniaeth. Fodd bynnag, nid yw'n ymddangos o’r cyfweliadau a gafwyd gyda swyddogion consortia bod unrhyw dystiolaeth o'r fath yn cael ei chynhyrchu na'i chasglu ar lefel ranbarthol neu genedlaethol.

Effaith ar ddefnydd o’r Gymraeg ar draws yr ysgol

Nododd rhan fwyaf yr ymarferwyr a’r penaethiaid a gyfwelwyd eu bod yn credu bod cynnydd wedi bod yn y defnydd anffurfiol o’r iaith tu allan i’r dosbarth, ac yn ehangach ar draws yr ysgol, ers i ymarferwyr o’u hysgol fod ar un o’r cyrsiau Mynediad, Sylfaen neu Cymraeg Mewn Blwyddyn. Ymhlith yr enghreifftiau a gynigiwyd oedd mwy o ddefnydd o Gymraeg achlysurol wrth siarad gyda chydweithwyr a disgyblion y tu allan i'r dosbarth, mwy o arddangosfeydd gweledol cyfrwng Cymraeg, a mwy o waith cyfrwng Cymraeg yn y dosbarth.

Roedd enghreifftiau niferus o gynyddu defnydd Cymraeg achlysurol gan yr ymarferwyr yn dilyn mynychu’r cyrsiau Sabothol, ond nid oes tystiolaeth glir mai’r Cynllun oedd sbardun y cynnydd. Yn ôl penaethiaid, mae ffactorau eraill megis paratoi ar gyfer y cwricwlwm newydd, ymwneud rhai ysgolion gyda’r rhaglen Siarter Iaith/Cymraeg Campus, neu gymhelliad personol yr ymarferydd wedi dylanwadu ar y cynnydd hwn hefyd. Fodd bynnag, ymddengys bod y Cynllun wedi hwyluso’r cynnydd, er bod ffactorau eraill hefyd wedi dylanwadu ar yr angen i anelu at y cynnydd. Yn hynny o beth, mae’n bosibl dod i’r casgliad fod y ffactorau eraill hyn a’r Cynllun yn atgyfnerthu ei gilydd wrth gyfrannu at newid yn y modd y mae’r Gymraeg yn cael ei haddysgu a’i defnyddio mewn ysgolion.

Gofynnwyd i benaethiaid ac ymarferwyr nodi a oeddent yn teimlo bod cymryd rhan  yn y Cynllun wedi dylanwadu ar agwedd ac ethos eu hysgol tuag at y Gymraeg. Yn nhyb y rhan fwyaf o benaethiaid ac ymarferwyr, roedd gan eu hysgolion agwedd ac ethos cadarnhaol tuag at yr iaith Gymraeg eisoes. Fodd bynnag, adroddodd nifer fechan bod y Cynllun wedi cael dylanwad cadarnhaol ar ethos ag agwedd eu hysgol, ond bod y Gymraeg yn dod yn fwyfwy o flaenoriaeth yn eu hysgol am nifer o resymau gan gynnwys cyflwyno’r cwricwlwm newydd, ymateb i argymhellion yn dilyn arolwg Estyn a chymryd rhan yn y rhaglen Siarter Iaith.

Effaith ar arweinyddiaeth ymarferwyr

Un o'r canlyniadau y mae'r Cynllun yn anelu at ei gyflawni yw bod ymarferwyr yn dangos mwy o arweinyddiaeth mewn perthynas â'r Gymraeg o fewn eu hysgol ar ôl dychwelyd i’r ysgol. Er mwyn ymchwilio a oedd ymarferwyr wedi gwneud hyn, holwyd y penaethiaid a’r ymarferwyr a oedd unigolion wedi derbyn cyfrifoldebau ychwanegol o fewn eu hysgol yn sgil y cwrs. Cyfeiriodd nifer o ymarferwyr at enghreifftiau lle roeddent yn awr yn chwarae rôl fwy blaenllaw yn trefnu a chynnal gweithgareddau Cymraeg ac yn annog brwdfrydedd gan eraill. 

Roedd mwy o enghreifftiau gan y rheiny a fu ar y cwrs Sylfaen o weithgareddau neu drefniannau ar draws eu hysgol lle roeddent wedi cymryd yr awenau ers mynychu’r cwrs. Roedd y rhain yn cynnwys: ymgymryd â rôl cydlynydd iaith Gymraeg yn eu hysgol; cefnogi'r cydlynydd iaith Gymraeg presennol; cychwyn clwb Cymraeg a sefydlu grŵp rhieni.

Ymddengys o'r sampl fach hon o gyfweliadau bod rhai o’r ymarferwyr a gymerodd ran yn y Cynllun wedi ymgymryd â chyfrifoldebau newydd sy'n dylanwadu ar addysgu Cymraeg ar draws eu hysgol. Fodd bynnag, nid yw'n glir o'r dystiolaeth hon a oedd y cyfrifoldebau ychwanegol a gymerwyd gan yr unigolion hyn o ganlyniad uniongyrchol i'w cyfranogiad yn y Cynllun. Roedd rhai ymarferwyr eisoes wedi ymgymryd â'r cyfrifoldebau hyn cyn mynychu'r cwrs, ac roedd eraill wedi mynychu'r cwrs i baratoi ar gyfer y cyfrifoldebau ychwanegol yr oedd disgwyl iddynt ymgymryd â nhw ar ôl cwblhau'r cwrs. Serch hynny, ym mhob achos roedd yr ymarferwyr o'r farn eu bod yn gallu ymgymryd â'r cyfrifoldebau hyn yn well o ganlyniad i fod ar y cwrs.  

Rhannu sgiliau a phrofiadau

Gofynnwyd i benaethiaid a oedd unrhyw drefniadau mewn lle i ymarferwyr rannu eu profiadau a’u sgiliau newydd gyda’u cydweithwyr ar ôl iddynt ddychwelyd i’r ysgol. Cafwyd rhai enghreifftiau lle roedd ymarferwyr wedi rhannu syniadau a phrofiadau gyda chydweithwyr yn ystod cyfarfodydd staff neu yn ystod rhwydweithio dydd i ddydd o fewn yr ysgol.

Fodd bynnag, roedd yr enghreifftiau hyn yn y lleiafrif ac yn gyfyngedig yn bennaf i'r ymarferwyr a oedd wedi cymryd rhan yn y cwrs Cymraeg Mewn Blwyddyn. Nododd rhan fwyaf y penaethiaid a gyfwelwyd nad oedd unrhyw drefniadau penodol mewn lle yn eu hysgol i alluogi cyfranogwyr y Cynllun i rannu eu profiadau ar draws yr ysgol.

Gofynnwyd hefyd i randdeiliaid a oedd gweithdrefnau mewn lle i ymarferwyr rannu eu profiadau yn ehangach y tu hwnt i’w hysgolion eu hunain wedi’r cwrs. Soniodd y swyddogion consortia am gynadleddau a digwyddiadau lle'r oedd rhai o’r rheiny fu’n rhan o’r Cynllun wedi cael y cyfle i siarad am eu profiadau. Dim ond ymarferwyr a oedd wedi mynychu'r cwrs Cymraeg mewn Blwyddyn a nododd enghreifftiau o sut yr oeddent wedi rhannu eu profiad a'u sgiliau addysgu gydag ysgolion eraill.

Casgliadau ac argymhellion

Cwblhawyd adroddiad y gwerthusiad yn ystod pandemig COVID-19, yn seiliedig ar waith maes a gynhaliwyd cyn i’r pandemig gychwyn. Mae’r hinsawdd felly o ran darparu’r Cynllun wedi newid yn ystod y misoedd diwethaf, gyda nifer o gyrsiau yn cael eu gohirio am resymau ymarferol, ac eraill yn cael eu trosi’n gyrsiau ar-lein. Wrth ystyried y casgliadau a’r argymhellion sy’n dilyn, mae’n bwysig cadw mewn cof y bydd y cyd-destun o ran eu gweithredu wedi newid.

Canfyddiadau cyffredinol a defnydd Strategol o’r Cynllun Sabothol

Mae’r cyd-destun polisi yn amlygu’r angen i wella sgiliau Cymraeg athrawon yn unol â gofynion y safonau proffesiynol a'r cwricwlwm newydd. Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi gosod targed uchelgeisiol erbyn 2050 o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg, ac wedi pwysleisio pwysigrwydd y sector addysg er mwyn cyflawni’r nod hwn. O ganlyniad mae angen addysgu Cymraeg i bob disgybl, ac er mwyn cyflawni hyn, mae angen sicrhau bod gan ymarferwyr y sgiliau i wneud hynny. Daw'r gwerthusiad hwn i'r casgliad bod y Cynllun yn gwneud cyfraniad cadarnhaol i sgiliau Cymraeg ymarferwyr, a bod angen o hyd am y Cynllun. 

Argymhelliad 1: dylai Llywodraeth Cymru barhau i ariannu a chefnogi'r gwaith o ddarparu’r Cynllun Sabothol Iaith Gymraeg fel rhan o raglen dysgu proffesiynol i ymarferwyr ysgol.

Argymhelliad 2: wrth hyrwyddo’r Cynllun a recriwtio ymarferwyr, dylai swyddogion consortia addysg rhanbarthol dynnu sylw ysgolion at sut mae’r Cynllun yn cyfrannu at wireddu nodau strategaethau addysg ac iaith Gymraeg Llywodraeth Cymru ac at alluogi ymarferwyr i fodloni’r safonau proffesiynol.

Er bod nifer o ysgolion yn nodi’r angen i wella sgiliau Cymraeg a methodolegau addysgu dwyieithog neu gyfrwng Cymraeg ymarferwyr yn eu cynlluniau datblygu ysgol, nid yw'n ymddangos bod unrhyw ofyniad clir ar ysgolion i ddarparu tystiolaeth bellach ynglŷn â sut, nac i ba raddau, y mae sgiliau a methodolegau wedi eu rhoi ar waith ar ôl i gyfnod sabothol yr ymarferwyr ddod i ben. Er mwyn asesu effaith y Cynllun mewn ffordd fwy systematig, byddai proses fwy penodol o gofnodi defnydd y sgiliau nôl yn yr ysgol a rhannu’r wybodaeth honno gyda’r consortia a Llywodraeth Cymru yn hanfodol.  

Argymhelliad 3: dylai consortia rhanbarthol sicrhau bod ysgolion sy’n rhyddhau ymarferwyr i fynychu cyrsiau yn adrodd yn systematig ar sut mae ymarferwyr yn defnyddio eu sgiliau newydd wedi iddynt ddychwelyd i’r ysgol ar ddiwedd y cwrs. Dylai consortia rhanbarthol gefnogi ysgolion i gynnwys y dystiolaeth hon yn eu cynllun datblygu ysgol ac mewn trafodaethau gyda’r ymgynghorwyr her.

Cyfraniad y Cynllun o ran datblygu sgiliau ymarferwyr

Mae’r dystiolaeth a gasglwyd wrth werthuso yn awgrymu fod sgiliau ieithyddol Cymraeg yr ymarferwyr a gyfwelwyd wedi gwella, yn eu tyb hwy, o ganlyniad i fynychu un o’r cyrsiau Sabothol. Roedd y rhan fwyaf o’r ymarferwyr a phenaethiaid yn cydnabod yr angen i gynnal a datblygu sgiliau Cymraeg a methodolegau addysgu ymhellach ar ôl iddynt gwblhau'r cwrs, a dywedodd llawer ohonynt eu bod eisiau rhagor o gefnogaeth. Ymddengys fod llawer o benaethiaid, ymarferwyr a rhanddeiliaid eraill yn disgwyl i'r cymorth datblygu parhaus hwn gael ei ddarparu drwy'r Cynllun, fel pecyn atodol, er nad yw hyn yn rhan o ddyluniad y Cynllun nac yn rhan o’r cytundebau i ddarparu’r cyrsiau. Y consortia sy’n darparu cefnogaeth ddilynol i’r cyrsiau, a hynny y tu allan i gytundeb y Cynllun.

Argymhelliad 4: dylai consortia rhanbarthol rannu gwybodaeth glir â chyfranogwyr ar natur a ffynhonnell cymorth ddilynol sydd ar gael ar ddiwedd y cyrsiau. Gan ehangu ar waith sydd wedi dechrau ar becyn ôl-ofal, gallai’r dasg hon gynnwys mapio'r cymorth a'r hyfforddiant dilynol sydd ar gael ar draws pob rhanbarth a datblygu dealltwriaeth gliriach o'r anghenion cymorth dilynol.

Argymhelliad 5: dylai consortia rhanbarthol ehangu eu cymorth i ymarferwyr ac ysgolion drwy gynnig mwy o gefnogaeth ar sut i gynllunio i wneud y defnydd gorau o’r sgiliau a ddatblygwyd gan ymarferwyr yn ystod y cyrsiau Sabothol.

Mae'r canfyddiadau'n awgrymu bod angen rhoi sylw pellach i sut mae'r Cynllun yn cyd-fynd â chynlluniau datblygu ysgolion, ac i rôl y Cynllun o fewn ystod o ddarpariaeth dysgu proffesiynol i ymarferwyr. Wrth roi sylw pellach i hyn byddai angen pwysleisio rôl yr ymarferwyr eu hunain, yn ogystal â rôl arweinwyr ysgolion wrth gymryd cyfrifoldeb am gydnabod ac ymdrin ag anghenion datblygiad proffesiynol parhaus eu staff, yn hytrach na disgwyl i fynychu cwrs Cynllun Sabothol ynddo’i hun fod yr unig ateb.

Argymhelliad 6: dylai Llywodraeth Cymru a’r consortia rhanbarthol bwysleisio mai un math o hyfforddiant, ymysg arlwy o bosibiliadau dysgu proffesiynol, yw cyrsiau Cynllun Sabothol. Dylid gwneud hyn er mwyn annog a chefnogi ysgolion ac ymarferwyr i ystyried y Cynllun fel un dull o gefnogi datblygiad sgiliau iaith Gymraeg a methodolegau addysgu dwyieithog a chyfrwng Cymraeg ymarferwyr ac nid yr unig ddull.

Cyfraniad y Cynllun Sabothol i arferion addysgu a darpariaeth gwricwlaidd ysgolion

Nododd ymarferwyr a fynychodd gyrsiau Sylfaen, Uwch a Chymraeg Mewn Blwyddyn eu bod wedi datblygu arferion addysgu newydd o ganlyniad uniongyrchol i'r cwrs. Nododd ymarferwyr a oedd wedi cymryd rhan yn y cwrs Mynediad eu bod hwythau wedi dysgu mwy am reolau ysgrifennu’r iaith a datblygu mwy o hyder. Casglwyd tystiolaeth hefyd gan ymarferwyr a rhai penaethiaid yn dangos sut mae'r sgiliau hyn wedi cael eu rhoi ar waith gan y rhai a fynychodd y cwrs.

Er mwyn i’r Cynllun lwyddo, mae’n rhaid i ymarferwyr fedru rhannu’r arferion addysgu newydd gyda chydweithwyr yn eu hysgolion ar ôl diwedd y cwrs. Cafwyd rhai enghreifftiau o ymarferwyr yn rhannu eu gwybodaeth am yr arferion ac adnoddau addysgu a ddatblygwyd yn ystod y cyfnod sabothol gyda chydweithwyr o fewn a thu hwnt i’w hysgol ond nid oedd y rhannu hwn yn digwydd yn gyson.

Argymhelliad 7: dylai ysgolion, awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol gefnogi ymarferwyr i rannu arferion addysgu ac enghreifftiau o roi eu sgiliau newydd ar waith gyda’u cydweithwyr ac ysgolion eraill er mwyn ymestyn cyrhaeddiad effaith y Cynllun.

Tystiolaeth at ddibenion gwerthuso

Mae’r dystiolaeth a gasglwyd ar gyfer y gwerthusiad yn cynnig gwybodaeth yn ymwneud ag effaith y Cynllun ar ymarferwyr ac ysgolion yn y tymor byr. Nid yw yn ein galluogi i ddod i gasgliadau pendant ar gyfraniad y Cynllun at ganlyniadau tymor hwy. Er mwyn dod i'r casgliadau hyn, byddai angen casglu ac adolygu data meintiol pellach. Amlygodd y broses o ddatblygu theori newid rai meysydd data allweddol y byddai eu hangen, yn ogystal â rhai bylchau yn y data sydd ar gael ar hyn o bryd ar lefel genedlaethol a rhanbarthol.

Argymhelliad 8: dylai Llywodraeth Cymru ystyried cynnal ymchwil meintiol i gasglu gwybodaeth gan fuddiolwyr y Cynllun, yn ymarferwyr ac ysgolion, i gyfrannu at ddarlun llawnach o effaith y Cynllun.

Mae’r dystiolaeth a gasglwyd drwy’r broses werthuso yn awgrymu fod y theori newid yn cynnig adlewyrchiad cywir o’r llif rhesymeg rhwng mewnbynnau, allbynnau a deilliannau’r Cynllun a’i gyfraniad i ganlyniadau tymor hwy. Mae’r broses o ddadansoddi’r theori wedi datgelu rhai bylchau o ran data: mae’r dystiolaeth sy’n sail i ganfyddiadau’r gwerthusiad ar y cyfan wedi eu cyfyngu i arsylwadau ac enghreifftiau a ddarparwyd yn ystod cyfweliadau. Gellid bod wedi cryfhau'r casgliadau pe bai tystiolaeth ddogfennol ar gael, yn cynnwys data yn erbyn dangosyddion o ddefnydd sgiliau'r ymarferwyr ar ôl iddynt ddychwelyd i'r ysgol (gweler Argymhelliad 3 uchod).

Argymhelliad 9: dylai Llywodraeth Cymru roi sylw i fireinio’r theori newid ar gyfer y Cynllun Sabothol drwy (i) gynnwys mwy o fewnbwn gan randdeiliaid; (ii) gwneud y defnydd helaethaf posibl o’r data sydd yn bodoli eisoes ynghylch capasiti sgiliau’r gweithlu (gallu yn y Gymraeg ac i addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg), a (iii) ymdrin â’r bylchau data a thystiolaeth sydd wedi eu hamlygu yn y gwerthusiad hwn er mwyn sicrhau dealltwriaeth lawnach o gyfraniad y Cynllun i ganlyniadau tymor hwy.

Manylion cyswllt

Adroddiad Ymchwil Llawn: Gwerthusiad o’r Cynllun Sabothol Iaith Gymraeg ar gyfer ymarferwyr addysg

Caerdydd: Llywodraeth Cymru, Rhif adroddiad GSR 15/2021

Safbwyntiau’r ymchwilwyr ac nid o reidrwydd rhai Llywodraeth Cymru yw’r safbwyntiau a fynegir yn yr adroddiad hwn.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â ymchwil.cymraeg@llyw.cymru

Image
GSR logo

 ISBN Digidol 978-1-80082-936-7