Neidio i'r prif gynnwy

Cadw pellter cymdeithasol

Gostyngodd symudedd yn sylweddol ddiwedd mis Mawrth 2020, ond cynyddodd yn raddol tan yr haf. Ers cyflwyno rhybudd lefel 4, mae symudedd wedi gostwng, ac yn weddol ddigyfnewid yn ystod y rhan fwyaf o Ionawr a Chwefror. Mae symudedd wedi cynyddu ers diwedd mis Chwefror.

Image
Siart yn dangos sut mae symudedd wedi newid o'r llinell sylfaen gan ddefnyddio cyfartaledd awdurdodau lleol Cymru. Gostyngodd symudedd yn sylweddol ddiwedd mis Mawrth 2020, ond cynyddodd yn raddol tan yr haf. Ers cyflwyno rhybudd lefel 4, mae symudedd wedi gostwng, ac yn weddol ddigyfnewid yn ystod y rhan fwyaf o Ionawr a Chwefror. Mae symudedd wedi cynyddu ers diwedd mis Chwefror.

Ffynhonnell: Adroddiadau Symudedd Cymunedol COVID-19 Google

Data ar: 16 Mawrth 2021

Y Gronfa Cymorth Dewisol

Rhwng 18 Mawrth 2020 a 18 Mawrth 2021 gwnaed 177,161 o Daliadau Cymorth mewn Argyfwng yn ymwneud â COVID-19, gwerth cyfanswm o £11.76 miliwn.

Dechreuwyd cofnodi ar 18 Mawrth 2020. Mae’r rhesymau cysylltiedig â COVID-19 y mae ymgeiswyr yn eu rhoi yn cynnwys:

  • gorfod rhoi’r gorau i weithio neu leihau gwaith
  • oedi o ran hawlio budd-dal
  • costau ynni/bwyd uwch (teulu gartref)
Image
Mae’r siart yn dangos y nifer o daliadau wythnosol mewn argyfwng o’r Gronfa Cymorth Dewisol o fis Mawrth hyd heddiw, wedi’u rhannu rhwng taliadau arferol a COVID-19.

Nifer ddyddiol o Daliadau Cymorth mewn Argyfwng (MS Excel)

Yn dilyn cyhoeddiad 1 Mai o fwy o gyllid, bydd ceisiadau'n cael eu trin â mwy o ddisgresiwn a hyblygrwydd, wrth ddelio â hawliadau caledi COVID-19. Cefndir pellach i’r Cronfa Cymorth Dewisol.

Ffynhonnell: Llywodraeth Cymru

Data ar: 19 Mawrth 2021

Cymorth i fusnesau

Ar 16 Mawrth 2021, mae trydydd cam y Gronfa Cadernid Economaidd wedi cynnig 55.1 mil o grantiau sef cyfanswm o £184.0 miliwn. Mae hyn yn cynnwys Grantiau Datblygu Busnes a'r Gronfa i Fusnesau dan Gyfyngiadau.

Ffynhonnell: Llywodraeth Cymru

Data ar: 16 Mawrth 2021

Cronfa Cadernid y Trydydd Sector

Yn darparu cymorth ariannol uniongyrchol i sefydliadau yn y trydydd sector sydd angen help i ymdopi â'r argyfwng hwn er mwyn talu eu biliau a lliniaru problemau llif arian.  

Daeth Cam 1 o'r Gronfa Gwytnwch Trydydd Sector i ben ar gyfer ceisiadau newydd yn haf 2020. Ar 19 Mawrth 2021, mae 114 o geisiadau wedi'u cymeradwyo, ac mae £4.85 miliwn wedi'i dalu drwy Gam 1.

Mae Cam 2 o'r Gronfa Gwytnwch Trydydd Sector ar agor ar gyfer ceisiadau ar hyn o bryd. Ar 19 Mawrth 2021, mae 96 cais wedi'u cymeradwyo, ac mae £5.50 mil wedi'i dalu drwy Gam 2.

Ffynhonnell: Gwirfoddoli Cymru

Data ar: 19 Mawrth 2021

Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg

Cadw pellter cymdeithasol

Mae’r wybodaeth yn cael ei chreu gyda setiau data cyfanredol, dienw oddi wrth ddefnyddwyr sydd wedi galluogi’r gosodiad ar eu dyfeisiau symudol sy’n dangos eu lleoliad. Y gwerth canolrifol yw’r gwaelodlin, ar gyfer y diwrnod cyfatebol o’r wythnos, yn ystod y cyfnod 5 wythnos o 3 Ionawr i 6 Chwefror 2020. Mae’r data yn dangos newidiadau sydd wedi’u dadansoddi yn ôl chwe maes: siopa a hamdden, parciau, archfarchnadoedd a fferyllfeydd, gweithleoedd, preswyl a thrafnidiaeth gyhoeddus. Mae’r data ar gael ar gyfer ardaloedd awdurdodau lleol yng Nghymru. Defnyddir cyfartaledd o’r rhain i ddod o hyd i ffigur ar gyfer Cymru. Nid yw’r data yn cael eu pwysoli gan ystyried maint pob awdurdod lleol, nid yw’r wybodaeth honno ar gael gan Google, yr un beth sy’n cael ei ddangos yw’r newid cymharol.

Adroddiadau symudedd cymunedol COVID-19

Y Gronfa Cymorth Dewisol

Mae data DAF yn cael ei ddarparu i Lywodraeth Cymru gan ein darparwr gwasanaeth Northgate Public Services (NPS). Data gweithredol yw'r data a dynnir o'u system TGCh yn ddyddiol. Nid yw'r data'n mynd drwy unrhyw brosesau dilysu ffurfiol ac felly nid yw'n cael ei gyhoeddi fel Ystadegyn Cenedlaethol.

Cronfa Cadernid y Trydydd Sector

Mae data Cronfa Ymateb Trydydd Sector yn monitro data a gymerwyd o’r gronfa ddata Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru.

Manylion cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 0300 025 5050
E-bost: kas.covid19@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

SFR: 88/2021