Neidio i'r prif gynnwy

Am fod y cyfyngiadau coronafeirws (COVID-19) diweddaraf yn gofyn i bobl yng Nghymru aros yn lleol, bydd Croeso Cymru yn ail-lansio ei ymgyrch Addo, gan ofyn i bobl Cymru wneud adduned wrth iddyn nhw ddechrau mentro yn eu cymunedau lleol unwaith eto i ofalu am ei gilydd, am ein tir ac am ein cymunedau.

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Mawrth 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Addo yn ymwneud â phobl yn gweithio gyda'i gilydd, gan wneud adduned ar y cyd i ofalu am ei gilydd a'n gwlad. Mae gofyn i bobl wneud adduned yn ffordd ddiddorol i bobl fuddsoddi'n emosiynol yng Nghymru a dangos eu bod yn cymryd pethau o ddifri hefyd. Drwy ymuno â ni, a gwneud adduned, byddwn ni i gyd yn chwarae ein rhan — drwy ofalu amdanon ni ein hunain ac eraill. Gellir llofnodi'r adduned rhithwir ar Busnes Cymru.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, yr Arglwydd Elis-Thomas:

"Wrth inni i gyd baratoi i fentro ychydig ymhellach unwaith eto, mae'n bwysig ein bod yn aros yn lleol, a'n bod ni i gyd yn chwarae ein rhan wrth gadw Cymru'n ddiogel drwy beidio â mynd yn rhy bell. Dyma'r amser i wneud adduned gyda'n gilydd, i wneud y pethau bach a fydd yn gwneud gwahaniaeth mawr ac i ddiogelu'r harddwch sydd o'n cwmpas ac i barchu ein cymunedau.

"Mae angen i bob un ohonon ni gadw'n ddiogel er mwyn i Gymru aros ar agor a chaniatáu inni symud gyda'n gilydd tuag at fywyd mwy normal. Gallwn ni i gyd wneud hyn. Nid oes neb am inni weld cyfyngiadau’n cael eu cyflwyno unwaith eto, gan golli’r cynnydd rydyn ni wedi'i wneud. Dim ond drwy weithio gyda’n gilydd y gallwn ni helpu i gadw Cymru'n ddiogel.

Bydd y gweithgaredd yn cael ei gyflwyno yng Nghymru i ddechrau, a bydd yn cynnwys cyfuniad o hysbysebion digidol, cysylltiadau cyhoeddus a hysbysebu y tu allan i'r cartref. Bydd yr ail gam yn cynnwys hysbysebion teledu a radio, ac yn cael ei ehangu i dargedu ymwelwyr mewn marchnadoedd allweddol ar ôl i’r cyfyngiadau gael eu codi ymhellach.

Dyma un o'r ffyrdd mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'r diwydiant a phartneriaid i reoli cyrchfannau lleol, a bydd yr ymgyrch yn cael ei hehangu i hyrwyddo negeseuon ynghylch pwysigrwydd parchu'r Cod Cefn Gwlad, gan ganolbwyntio ar fanteision treulio amser yn yr awyr agored a helpu i leihau'r pwysau ar ein mannau agored a'n tirweddau.  Bydd asedau'r ymgyrch yn cael eu rhannu â phartneriaid dros yr wythnosau nesaf i sicrhau bod negeseuon cyson am ymddygiad cyfrifol yn cael eu hyrwyddo ledled Cymru.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cynnig cymorth ariannol i helpu Awdurdodau Lleol i baratoi ar gyfer ailagor yr economi ymwelwyr, er mwyn rheoli'r economi ymwelwyr mewn modd gweithredol a rhoi ymyriadau ar waith ar sail ein profiadau y llynedd.

Dywedodd Julie James, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol:

"Rwy'n falch iawn ein bod wedi gallu cynnig cyllid i'r Awdurdodau Lleol a'r Parciau Cenedlaethol drwy'r Gronfa Galedi, i helpu i gadw Cymru'n ddiogel wrth inni wneud cynlluniau i ailagor yr economi ymwelwyr – pan fydd sefyllfa iechyd y cyhoedd yn caniatáu hynny.  Bydd yr arian hwn yn galluogi Awdurdodau Lleol i roi mesurau ar waith i liniaru pwysau a gosod cyfleusterau ychwanegol a fydd yn helpu i roi profiad cadarnhaol i bawb wrth ddarganfod Cymru.

Dywedodd Llefarydd CLlLC ar Dwristiaeth, y Cynghorydd Huw Thomas:

"Mae'r economi ymwelwyr yn hanfodol i economi Cymru. Mae awdurdodau lleol yn cefnogi ei ailagor yn ddiogel fesul cam ac yn ofalus. Mae croeso cynnes i gyllid y Llywodraeth ar gyfer Cynghorau a Pharciau Cenedlaethol. Bydd yn ein galluogi i gynllunio a rheoli'r economi ymwelwyr i fod yn ddiogel dros haf prysur. Byddwn yn gallu rhoi sicrwydd i gymunedau lleol a bod o fudd i'r economi, a thrwy gydweithio gallwn gynnal iechyd y cyhoedd ac ailagor yr economi.

Mae Croeso Cymru hefyd yn gweithio mewn partneriaeth â'r diwydiant ar gynllun cryfhau ac ailadeiladu ar gyfer dyfodol yr economi ymwelwyr yng Nghymru.
                                                
Gellir llofnodi'r adduned ar y wefan Gwna addewid i Gymru.