Mae Llywodraeth Cymru heddiw wedi cyhoeddi bod Plot 9 ym Mharc Cybi wedi cael ei ddewis i fod yn lleoliad ar gyfer y Safle Rheoli ar y Ffin yng Nghaergybi – rhywbeth sy’n ofynnol am nad yw'r DU bellach yn rhan o'r Farchnad Sengl neu'r Undeb Tollau.
Oherwydd diwedd mynediad di-rwystr, a'r cytundeb a wnaed gan Lywodraeth y DU, mae angen archwiliadau ffisegol ar rai nwyddau sy'n dod i mewn i'r DU o'r UE. Disgwylir i Lywodraeth y DU gyflwyno rheolaethau eraill ar gyfer mewnforion fesul cam.
O ganlyniad, mae Safleoedd Rheoli Ffiniau, lle bydd yr archwiliadau ffisegol gofynnol yn cael eu cynnal, yn cael eu sefydlu ledled y DU.
Yng Nghaergybi bydd angen archwiliadau ar nwyddau fel anifeiliaid, planhigion a chynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid sy'n dod i Gymru o Weriniaeth Iwerddon.
Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am y gwiriadau hyn, a byddant ar waith er mwyn sicrhau nad yw nwyddau sy'n dod i mewn i'r DU yn peri risg i iechyd y cyhoedd, nac yn arwain at ledaeniad clefydau anifeiliaid neu blanhigion.
Bydd ymgynghoriad cynllunio o dan Orchymyn Datblygu Arbennig yn dechrau cyn bo hir.
Mae angen bodloni gofyniad tebyg ar borthladdoedd yn ne-orllewin Cymru ac mae gwaith yn mynd rhagddo gyda'r awdurdod lleol i asesu lleoliadau posibl.
Dywedodd Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig:
"Newidiodd ein perthynas â'r UE yn sylweddol ar 1af Ionawr, gydag aelodaeth y DU o’r Farchnad Sengl a’r Undeb Tollau yn dod i ben.
"O ganlyniad, mae angen seilwaith newydd sylweddol i gynnal archwiliadau ar nwyddau. Bydd Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am archwiliadau ar anifeiliaid a phlanhigion sy'n cyrraedd o Weriniaeth Iwerddon, ac rydyn ni’n bwrw ymlaen gyda threfniadau ar gyfer Caergybi wrth barhau i weithio'n gyflym i wneud trefniadau tebyg ar gyfer y De-orllewin.
"Roedden ni’n glir ynghylch canlyniadau gadael y Farchnad Sengl a’r Undeb Tollau, ac mae'n rhaid inni nawr sicrhau bod porthladdoedd Cymru yn barod ar gyfer y newidiadau a fydd yn cael eu cyflwyno.
"Er ein bod yn croesawu’r ffaith i Lywodraeth y DU gydnabod bod yr amserlen wreiddiol ar gyfer cyflwyno archwiliadau ar y ffin yn rhy heriol, rydyn ni’n parhau i weithio gyda nhw i sicrhau y rhoddir digon o amser i addasu i'r amgylchiadau newydd mewn modd effeithiol, gan leihau cymaint ag y bo modd darfu ar fusnesau.
"Hoffwn i ddiolch i Gyngor Ynys Môn am eu cefnogaeth hyd yma ac rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda nhw wrth inni symud ymlaen yn awr drwy'r broses ymgynghori ar gynllunio."
Dywedodd Arweinydd Cyngor Môn, y Cynghorydd Llinos Medi:
"Rydyn ni wedi ymrwymo'n llwyr i sicrhau bod y trefniadau newydd ar y ffin ar gyfer Porthladd Caergybi yn diogelu iechyd y cyhoedd a masnach yn y dyfodol."
"Er ein bod yn cydnabod bod ansicrwydd o hyd, gobeithio y bydd lleoli'r Safle Rheoli ar y Ffin newydd ym Mharc Cybi yn helpu i ddiogelu masnach drwy'r Porthladd a chreu cyfleoedd ar gyfer swyddi newydd y mae eu hangen yn fawr iawn."
"Rydyn ni wir yn gwerthfawrogi ymrwymiad parhaus Llywodraeth Cymru i'r Porthladd ac Ynys Môn.
"Ein gobaith yw y bydd y datblygiad hwn nawr yn gweithredu fel catalydd i ddenu busnesau cysylltiedig eraill i Barc Cybi, o ystyried ei agosrwydd at y Porthladd, i greu canolfan gymorth a fyddai'n hwb mawr i'r economi leol."