Bydd angen rhif daliad (CPH) arnoch os ydych yn cadw un neu fwy o'r anifeiliaid hyn:
- gwartheg (gan gynnwys beison a byfflo)
- ceirw
- defaid
- geifr
- moch
- dofednod, gan gynnwys ysguthod rasio
- ceffylau ar gyfer allforio.
Gyda CPH, gallwch roi gwybod am symudiadau da byw.
I gael rhif CPH, defnyddiwch rheoli fy CPH ar RPW ar-lein. Os nad ydych yn gwsmer eisoes gydag RPW ar-lein, gallwch gofrestru trwy glicio ar y ddolen ‘Cofrestru’ ar yr un dudalen.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â'r Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid ar 0300 062 5004.
Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
Ceidwaid ceffylau
Dim ond os yw am gael ei allforio o Brydain Fawr y mae'n ofynnol i chi gael rhif CPH ar gyfer eich ceffyl. Os oes gennych rif CPH eisoes ar gyfer da byw eraill, nid oes angen CPH newydd arnoch ar yr amod bod eich ceffylau'n cael eu cadw ar yr un lleoliad.
Mae angen y CPH ar gyfer y Dystysgrif Iechyd Allforio, gweler y canllawiau ceffylau yn adran perthnasol y dudalen hon am ragor o wybodaeth.