Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio cynllun newydd gwerth £1.3m i helpu sector pysgota a dyframaethu Cymru yn dilyn y ddau argyfwng i'w busnesau a achoswyd drwy adael yr UE a phandemig Covid-19.
Mae'r sector yng Nghymru - ei bartner masnachu allforion mwyaf oedd yr UE - wedi cael ei daro'n galed gan Gytundeb Masnach a Chydweithredu'r DU/UE a ddaeth i rym ym mis Ionawr eleni.
Mae pysgota yng Nghymru wedi dioddef tarfu difrifol ar fasnachu, ac mae llawer o'n busnesau dyframaethu sy'n gwerthu molysgiaid dwygragenaidd byw - megis chregyn gleision - wedi gweld masnachu yn dod i ben yn llwyr.
Mae'r tarfu hwn wedi gwaethygu'r hyn a oedd eisoes yn sefyllfa dyngedfennol i sector bwyd môr Cymru yn dilyn cau marchnadoedd lletygarwch oherwydd cyfyngiadau Covid-19
Bydd Cynllun Cydnerthedd newydd Sector Bwyd Môr Cymru yn cefnogi busnesau bwyd môr drwy ddwy elfen.
Bydd rhan gyntaf y cynllun yn gweld grant untro wedi'i dargedu ar gael i fusnesau pysgota cymwys sy'n berchen ar longau yng Nghymru, gyda'r grant sy'n cyfateb i gostau llongau am dri mis, wedi'i gapio ar £10,000.
Bydd y taliadau'n seiliedig ar faint y llongau a nifer y categorïau cyfatebol.
Tra'n debyg i Gronfa Ymateb Bwyd Môr Llywodraeth y DU, bydd y cyfnod cyfeirio cymwys ar gyfer cynllun Cymru yn hwy, gan roi cymorth i fwy o fusnesau pysgota yng Nghymru sydd angen cymorth.
Bydd y meini prawf cymhwyso yn debyg i feini prawf Grant Pysgodfeydd Cymru 2020.
Bydd yr ail ran yn gweld cymorth yn cael ei roi i fusnesau dyframaethu, gan gynnwys y rhai sy'n masnachu mewn molysgiaid dwygragenaidd byw.
Bydd busnesau'n gallu gwneud cais am grant ar gyfer tri mis cyntaf 2021, i ddarparu hanner eu refeniw gros misol ar gyfartaledd ar gyfer pob mis, ar uchafswm o £40,500.
Bydd y cynllun ar agor ar gyfer ceisiadau o ddydd Mercher, 17 Mawrth a dydd Mercher, 31 Mawrth.
Cyhoeddwyd yr arian newydd heddiw gan Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig.
Dywedodd y Gweinidog:
"Ers mis Ionawr, mae busnesau bwyd môr yng Nghymru wedi dioddef tarfu difrifol ar eu masnachu – gyda busnesau sy'n cyflenwi molysgiaid deufalf byw o ddyfroedd dosbarth B yn wynebu cael eu cau wrth i farchnadoedd yr UE ddiflannu.
"Mae llawer o fusnesau eraill wedi wynebu ergyd bellach o gau marchnadoedd lletygarwch oherwydd cyfyngiadau Covid-19.
Er fy mod yn croesawu'r gefnogaeth a roddwyd gan Lywodraeth y DU drwy ei Chronfa Ymateb Bwyd Môr, nid yw ond yn rhoi cefnogaeth rannol i fusnesau pysgodfeydd a dyframaethu yng Nghymru. O'r herwydd, teimlwn ei bod yn hanfodol ein bod yn rhoi'r cymorth sydd ei angen ar fusnesau bwyd môr yn ystod y cyfnod anodd hwn.
"Bydd y cymorth a ddarperir yn helpu'r rhai sy'n gymwys i dalu eu costau yn ystod y cyfnod anodd hwn, ac yn sicrhau bod gennym sector bwyd môr cystadleuol unwaith y bydd yr argyfwng hwn wedi mynd heibio.
"Addawyd i ni na fydden ni'n derbyn 'ceiniog yn llai' ar ôl gadael yr UE. Mae'n amlwg bod y fargen hon wedi'i thorri. Byddaf yn parhau i lobïo Llywodraeth y DU i gadw at eu gair ynghylch yr ymrwymiad a wnaethant i'n sector pysgota a dyframaethu."
Yn ogystal â'r cymorth a ddarperir drwy'r cynllun, bydd gweddill Cronfa Forwrol a Physgodfeydd Ewrop yn targedu adferiad Covid-19, gan gynnig cyfle i bysgotwyr ychwanegu gwerth i'w dalfeydd.
Dylai'r dull newydd o ymdrin â'r rhaglen ddechrau ym mis Mehefin, gyda manylion pellach gan Daliadau Gwledig Cymru.
Cynllun Seilwaith Arfordirol Ar Raddfa Fach
Cyhoeddwyd heddiw hefyd y Cynllun Seilwaith Arfordirol Ar Raddfa Fach – cronfa £1m ar gael i bob awdurdod porthladd ac awdurdod lleol arfordirol i wneud gwelliannau i borthladdoedd a harbyrau, gan ddarparu'r seilwaith sydd ei angen wrth i fusnesau drosglwyddo tuag at weithrediadau amgylcheddol gynaliadwy.
Bydd y cynllun yn darparu grantiau o hyd at £100,000 ar gyfer buddsoddi cyfalaf mewn porthladdoedd a harbyrau, gan ganiatáu ar gyfer gwelliannau amgylcheddol, gweithredol, a diogelwch.
Ychwanegodd y Gweinidog:
"Wrth i fusnesau masnachu edrych i'r dyfodol ac adfer, mae seilwaith sy'n cael ei gynnal a'i gadw'n dda yn allweddol i ganiatáu iddynt lwyddo.
"Bydd y Cynllun Seilwaith Arfordirol ar Raddfa Fach yn caniatáu gwelliannau mewn porthladdoedd a harbyrau ledled Cymru."