Canllawiau ynglŷn â chymhwyso Treth Trafodiadau Tir mewn perthynas ag rhyddhad gwerthu ac adlesu.
Rhowch adborth i ni ar y canllawiau hyn
DTTT/7016 Rhyddhad gwerthu ac adlesu
(atodlen 9)
Mewn trafodion gwerthu ac adlesu, mae prynwr yn cytuno i brynu prif fuddiant (rhydd-ddaliad neu lesddaliad) mewn tir neu adeiladau gan werthwr, ac wedyn mae’r un prynwr yn caniatáu rhoi’r tir neu’r adeiladau, neu ran ohonynt, yn ôl ar les neu is-les i’r gwerthwr a fydd wedyn yn dod yn denant. Bydd y Dreth Trafodiadau Tir yn cael ei chodi ar y trafodiad gwerthu a'r trafodiad adlesu. Ond, o dan amodau penodol, mae rhyddhad gwerthu ac adlesu’n caniatáu i’r trafodiad adlesu gael rhyddhad rhag y Dreth Trafodiadau Tir. Os bydd y rhyddhad hwn yn berthnasol, bydd y Dreth Trafodiadau Tir yn dal yn cael ei chodi ar y trafodiad gwerthu.
Er mwyn i’r rhyddhad gwerthu ac adlesu fod yn berthnasol i’r trafodiad adlesu, rhaid bodloni pob un o’r amodau canlynol:
- yr ymrwymir i’r trafodiad gwerthu yn llwyr neu’n rhannol yn gydnabyddiaeth am y trafodiad adlesu
- os yw’r trafodiad gwerthu yn rhannol yn gydnabyddiaeth am y trafodiad adlesu, bydd unrhyw gydnabyddiaeth arall ar gyfer y trafodiad gwerthu yn daliad ariannol (mewn unrhyw fath o arian) neu ysgwyddo, bodloni neu ollwng dyled
- nad yw’r trafodiad gwerthu yn trosglwyddo hawliau i drydydd parti nac yn drafodiad cyn-gwblhau, a
- pan fydd y ddau barti’n gyrff corfforaethol ar y dyddiad y mae’r trafodiad adlesu yn dod i rym, nad ydynt yn aelodau o’r un grŵp at ddibenion rhyddhad grŵp Treth Trafodiadau Tir.
Mae'r rhyddhad gwerthu ac adlesu ar gael ar gyfer trafodiadau preswyl ac amhreswyl.
Dim ond pan fydd yr un partïon yn rhan o'r ddau drafodiad y mae rhyddhad gwerthu ac adlesu i’w gael. Er enghraifft, lle mae ‘A’ yn trosglwyddo eiddo i ‘B’, yna mae ‘B’ yn rhoi’r eiddo’n ôl ar les i ‘A’, rhaid i ‘A’ aros yr un fath yn y ddau drafodiad. Gall ‘A’ gynnwys mwy nag un person, ond os bydd unrhyw un o’r bobl hyn yn newid rhwng y trafodiadau gwerthu a’r adlesu, nid yw’r rhyddhad yn berthnasol.
Nid oes gofyniad arbennig i drafodiad adlesu fod yn gydnabyddiaeth am un trafodiad gwerthu’n unig, neu fod un trafodiad gwerthu yn gydnabyddiaeth am un trafodiad adlesu’n unig, er mwyn cael y rhyddhad.
Bydd swm y gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad gwerthu yn dibynnu ar a oedd cytundeb ysgrifenedig yn bodoli, adeg y trafodiad gwerthu, er mwyn ymrwymo i’r trafodiad adlesu. Os oedd, dylai’r gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad gwerthu ystyried y llyffethair (encumbrance) hon (gweler enghraifft 3 isod).
Os nad oes cytundeb o’r fath yn bodoli, bydd y gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad gwerthu yn seiliedig ar fuddiant mewn tir nad yw wedi'i lyffetheirio (h.y. byddai’r gwerth yn anwybyddu’r trafodiad lesddaliad). Dylid nodi y gallai llyffethair o’r fath gynyddu, gostwng neu effeithio dim ar y gwerth o’i gymharu â'r gwerth heb ei lyffetheirio ac ystyried bod rhent yn daladwy o bosib ar y trafodiad adlesu. Byddai hyn yn llif incwm i’r lesydd, fel rhan o’r trefniant gwerthu ac adlesu.