Mae’r allbwn hwn yn cymharu plant oed ysgol sy’n aelodau o deuluoedd sy’n troi at dîm tai Dinas a Sir Abertawe, â’r teuluoedd nad ydynt yn gwneud hynny neu’r rhai sydd â chartref ‘sefydlog’.
Y cyhoeddiad diweddaraf
Canfyddiadau
- Mewn unrhyw flwyddyn academaidd benodol, roedd ychydig dros 1% o ddisgyblion (rhwng 5 ac 16 oed) yn aelodau o deuluoedd sydd wedi troi at dîm tai Dinas a Sir Abertawe.
- Roedd cyfran y plant a oedd yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim yn uwch ymhlith teuluoedd a oedd yn troi at dîm tai Abertawe.
- Roedd absenoldeb yn amrywio yn ôl blwyddyn academaidd, ond roedd y lefelau yn llawer uwch ymhlith plant o deuluoedd yn troi at dîm tai Abertawe.
- Roedd mynd yn ddigartref neu berygl o fynd yn ddigartref yn gysylltiedig â chynnydd o 7% yng nghyfanswm y sesiynau pan oedd disgybl yn absennol o’r ysgol.
Adroddiadau
Cyswllt
Matthew Davies
Rhif ffôn: 0300 025 5533
E-bost: cydg.cymru@llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.