Vaughan Gething, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Y penwythnos diwethaf, fe wnes i gadarnhau ein bod wedi rhoi un filiwn o ddosau fel rhan o’n rhaglen frechu. Heddiw, mae’n bleser gennyf gadarnhau bod un filiwn o bobl yn awr wedi cael o leiaf un dos o’r brechlyn sy’n achub bywydau. Cyflawnwyd hyn oll o fewn cwta dri mis i ddechrau ein rhaglen frechu.
Cofnodwyd yn awr bod 1,007,391 o bobl wedi cael dos cyntaf y brechlyn yng Nghymru. Gyda’r 192,030 o ail ddosau a weinyddwyd, mae 1,199,421 o frechlynnau bellach wedi’u rhoi ym mreichiau pobl.
Cyflawnwyd y nodau hyn cyn y dyddiadau targed y gwnaethom eu gosod i ni ein hunain yn ein Diweddariad i’r Strategaeth a gyhoeddwyd yn ddiweddar. Mae hyn yn tystio i ymrwymiad diwyro ein timau brechu ym mhob cwr o’r wlad. Dylai ein GIG a’r holl bobl sydd wedi cefnogi’r ymdrech aruthrol hon ar draws y sectorau fod yn falch o’r hyn a gyflawnwyd. Hoffwn ddiolch i bob un ohonynt.
Hoffwn hefyd ddiolch i bob un o’r filiwn o bobl sydd wedi derbyn y cynnig o’r brechlyn. Maent wedi chwarae eu rhan yn yr ymdrech genedlaethol hon. Mae pob un dos yn cyfrif. Mae pob dos o’r brechlyn yn dod â ni gam yn nes at ddyfodol disglair i bawb. Mae’r brechlynnau’n ddiogel ac yn effeithiol ac rwy’n annog pawb i dderbyn y cynnig o’r brechlyn pan ddaw eu tro.
Rydym wedi cyrraedd y cerrig milltir arwyddocaol hyn mewn cyfnod o ychydig o wythnosau lle bu llai o gyflenwadau ar gael. Roedd hyn i’w ddisgwyl, ac mae ein cynlluniau cyflawni wedi’u trefnu yn unol â hyn. Fodd bynnag, rwy’n falch y gallwn edrych ymlaen yn awr at gynnydd mewn cyflenwadau dros yr wythnosau nesaf. Rwy’n edrych ymlaen at weld nifer cynyddol o bobl yn cael dos cyntaf ac ail ddos y brechlyn wrth inni weithio tuag at ein carreg filltir allweddol nesaf, sef rhoi’r brechlyn i bawb yn y 9 grŵp blaenoriaeth presennol erbyn canol mis Ebrill.