Mae’r arolwg yn darparu gwybodaeth allweddol ynghylch y galw am lafur ymhlith cyflogwyr, diffygion sgiliau, a'r lefelau buddsoddi mewn hyfforddiant a datblygu’r gweithlu ar gyfer 2019.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Arolwg Sgiliau Cyflogwyr
Mae’r Arolwg Sgiliau Cyflogwyr (ESS) yn ffynhonnell ddiffiniol o wybodaeth i ddeall yr heriau o ran sgiliau y mae cyflogwyr yn eu hwynebu, mewn perthynas â’u gweithlu presennol ac wrth recriwtio, a sut maen nhw’n ymateb i’r heriau hyn drwy fuddsoddi mewn hyfforddi a datblygu’r gweithlu.
Gyda 6,773 o weithwyr yn cymryd rhan yn arolwg 2019 ledled Cymru (a gyda 81,013 o gyfweliadau ledled Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon ar y cyd), mae’n un o arolygon busnes mwyaf y byd.
Gwnaethpwyd gwaith maes yr arolwg ar gyfer y don ddiweddaraf rhwng misoedd Mehefin a Rhagfyr 2019. Er bod y canfyddiadau’n dal i fod yn ffynhonnell bwysig o wybodaeth am y farchnad lafur, mae cyrhaeddiad Covid-19 yn fuan yn 2020 yn golygu bod y dirwedd economaidd wedi newid yn sylweddol ers gwneud gwaith maes yr arolwg.
Prif ganfyddiadau
- Roedd gan un ymhob ugain o gyflogwyr yng Nghymru o leiaf un swydd wag lle’r oedd prinder sgiliau ar amser yr arolwg (5%), oedd yn cyfateb â’r 6% yn 2017.
- Yn gyffredinol, roedd 13% o gyflogwyr wedi dweud bod bwlch sgiliau o fewn eu gweithlu, oedd heb newid ers 2017.
- Roedd oddeutu dwy ran o dair o sefydliadau yng Nghymru’n disgwyl y byddai angen iddynt uwchsgilio eu gweithlu dros y 12 mis nesaf (68%).
- Dywedodd oddeutu traean o gyflogwyr yng Nghymru bod ganddynt weithwyr gyda chymwysterau a sgiliau oedd yn fwy datblygedig nag oedd ei angen ar gyfer rôl eu swydd gyfredol (34%).
- Roedd ychydig dros dair rhan o bump o gyflogwyr yng Nghymru (62%) wedi ariannu neu drefnu hyfforddiant i’w staff dros y 12 mis blaenorol, yn debyg i lefelau a welwyd drwy’r gyfres Arolwg Sgiliau Cyflogwyr gyfan a gychwynnodd yn 2011 (62% i 63%).
- Roedd gan un mewn deg (10%) o gyflogwyr brentisiaid ar eu safleoedd ar adeg y cyfweliad ac roedd 6% pellach wedi cynnig prentisiaethau ond heb fod â rhai ar y pryd, gan gynrychioli cyfran debyg oedd yn cynnig prentisiaethau â 2016 (15%) ond cynnydd ers 2014 (13%).
Adroddiadau
Adroddiad Cymru , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 4 MB
Canlyniadau craidd: pecyn sleidiau Cymru , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB
Y canlyniadau am brentisiaethau: Pecyn sleidiau Cymru , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB
Y canlyniadau am anghenion sgiliau: pecyn sleidiau Cymru , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB
Y sgiliau ar y gweill: pecyn sleidiau Cymru , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB
Canlyniadau hyfforddi: pecyn sleidiau Cymru , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 3 MB
Adroddiad canolbarth Cymru , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 624 KB
Canlyniadau craidd: pecyn sleidiau canolbarth Cymru , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB
Adroddiad canolbarth a de orllewin Cymru , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 640 KB
Canlyniadau craidd: pecyn sleidiau canolbarth a de orllewin Cymru , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB
Adroddiad de ddwyrain Cymru , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 623 KB
Canlyniadau craidd: pecyn sleidiau de ddwyrain Cymru , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB
Adroddiad de orllewin Cymru , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 623 KB
Canlyniadau craidd: pecyn sleidiau de orllewin Cymru , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB
Adroddiad gogledd Cymru , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 620 KB
Canlyniadau craidd: pecyn sleidiau gogledd Cymru , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB
Data
Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol
Tablau data Cymru , math o ffeil: ODS, maint ffeil: 4 MB
Tablau data canolbarth Cymru , math o ffeil: ODS, maint ffeil: 3 MB
Tablau data canolbarth a de orllewin Cymru , math o ffeil: ODS, maint ffeil: 3 MB
Tablau data de-ddwyrain Cymru , math o ffeil: ODS, maint ffeil: 4 MB
Tablau data de orllewin Cymru , math o ffeil: ODS, maint ffeil: 3 MB
Tablau data gogledd Cymru , math o ffeil: ODS, maint ffeil: 3 MB
Cyswllt
James Carey
Rhif ffôn: 0300 025 3811
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.