Gwybodaeth am fyfyrwyr a gafodd eu haddysgu i ryw raddau drwy gyfrwng y Gymraeg a'r staff academaidd sy'n gallu addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg ar gyfer Medi 2019 i Awst 2020.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Yr iaith Gymraeg mewn addysg uwch
Prif bwyntiau
Mae nifer y myfyrwyr sy'n astudio rhywfaint o'u gradd drwy gyfrwng y Gymraeg wedi gostwng yn 2019/20 o 5,940 i 5,635. Mae nifer y rhai sy’n astudio o leiaf 5 credyd hefyd wedi gostwng, tra bo’r nifer sy’n astudio 40 credyd wedi aros yn sefydlog, a’r nifer sy’n astudio 80 a 120 credyd wedi cynyddu. Daw’r gostyngiad cyffredinol yn bennaf o blith myfyrwyr sy’n astudio llai na 5 credyd yn Gymraeg.
Addysg oedd y pwnc mwyaf poblogaidd a addysgwyd drwy gyfrwng y Gymraeg. Roedd 1 ym mhob 5 o fyfyrwyr yr oedd rhywfaint o'u haddysgu yn Gymraeg yn astudio Addysg.
Roedd bron i draean o'r myfyrwyr yng Nghymru sy'n ystyried eu bod yn rhugl yn y Gymraeg yn astudio rhan o'u gradd drwy gyfrwng y Gymraeg. Roedd 7% o siaradwyr Cymraeg rhugl yn astudio drwy gyfrwng y Gymraeg yn bennaf (120 credyd yn Gymraeg).
Mae nifer y staff academaidd sy'n gallu addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg wedi gostwng 3% o gymharu â 2018/19.
Ni welwyd llawer o newid yn y nifer sy’n addysgu mewn gwirionedd. Mae nifer y staff Cymraeg wedi aros yr un peth.
Adroddiadau
Y iaith Gymraeg mewn sefydliadau addysg uwch, Medi 2019 i Awst 2020 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1006 KB
Y iaith Gymraeg mewn sefydliadau addysg uwch, Medi 2019 i Awst 2020: ffeithlun , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 359 KB
Cyswllt
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Rhif ffôn: 0300 025 5050
E-bost: ystadegau.addysgol16@llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.