Heddiw, mae’r Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, wedi cyhoeddi £72 miliwn arall i gefnogi dysgwyr fel rhan o'r ymateb i adfer a sicrhau cynnydd yn sgil y pandemig.
Bydd y cyllid yn cael ei ddefnyddio i barhau â'r rhaglen Recriwtio, Adfer a Chodi Safonau yn y flwyddyn academaidd nesaf, ac i sicrhau adnoddau dysgu ychwanegol a chymorth i ddysgwyr cyfnod sylfaen mewn ysgolion a lleoliadau gofal plant sy'n darparu addysg gynnar.
Bydd y cyllid hefyd yn targedu dysgwyr ym mlynyddoedd 11, 12 a 13, gan ddarparu cymorth ychwanegol wrth iddynt bontio i’r cam nesaf.
Ers mis Gorffennaf y llynedd, mae’r hyn sy’n gyfwerth â 1,800 o staff ysgol amser llawn ychwanegol wedi'u recriwtio mewn ysgolion ledled Cymru i ddarparu cymorth ychwanegol yn ystod y pandemig, dwbl y targed gwreiddiol o 900.
Bydd y cyllid hefyd yn cael ei ddefnyddio i gefnogi 1,400 o athrawon dan hyfforddiant sydd mewn Addysg Gychwynnol i Athrawon ar hyn o bryd, gan eu galluogi nhw i gwblhau eu profiad ymarferol yn yr hydref, gan ennill eu cymwysterau a symud i ddysgu’n llawn amser.
Wrth gymharu gwledydd y DU ym mis Chwefror, canfu’r Sefydliad Polisi Addysg bod rhaglenni dal i fyny Cymru yn canolbwyntio llawer mwy ar y disgyblion mwyaf difreintiedig. Mae disgwyl i’r cyhoeddiad heddiw gynyddu’r gwariant fesul disgybl i swm sy’n gyfwerth â £239 – yr uchaf yn y DU.
Dywedodd Kirsty Williams AS, y Gweinidog Addysg:
Mae pob un ohonom yn gwybod bod hwn wedi bod yn gyfnod anodd i ddysgwyr a staff. Mae ysgolion a cholegau wedi gwneud gwaith gwych i sicrhau bod y dysgu wedi parhau, gan roi paratoadau ar waith fel y gall dysgwyr ddychwelyd i’r ysgol heb drafferth.
Rwy'n gwybod bod angen cymorth ychwanegol, yn enwedig i ddysgwyr sydd mewn cyfnodau allweddol yn eu gyrfaoedd academaidd ac yn eu bywydau. Wrth i ddysgwyr barhau i ddychwelyd i ddysgu wyneb yn wyneb, rydym yn darparu'r cyllid ychwanegol hwn i sicrhau bod cymorth ar gael fel y gall ein pobl ifanc ddychwelyd i'r ystafell ddosbarth.
Mae hi’n wythnos bwysig o ran diwygio addysg yng Nghymru, a chyfeiriodd y Gweinidog hefyd at gam olaf y Bil Cwricwlwm ac Asesu yn y Senedd ddydd Mawrth, gan nodi mai hwn yw’r cwricwlwm cenedlaethol cyntaf i gael ei wneud yng Nghymru:
Mae’n garreg filltir bwysig yn ein cenhadaeth genedlaethol wrth i’r Bil Cwricwlwm ac Asesu gyrraedd ei gam olaf cyn cael ei basio’n gyfraith.
Rwy’n cyfeirio at hyn fel cenhadaeth genedlaethol gan fod pawb wedi gweithio gyda’i gilydd – athrawon, rhieni, academyddion, busnesau, sefydliadau cenedlaethol, a fy adran i wrth gwrs – i godi safonau, mynd i’r afael â’r bwlch cyrhaeddiad a chael system addysg sy’n destun balchder inni i gyd.
Diolch yn fawr i bawb sydd wedi bod yn rhan o’r daith hanesyddol hon mewn perthynas ag addysg yng Nghymru.