Daeth yr ymgynghoriad i ben 4 Mehefin 2021.
Crynodeb o’r canlyniad
Mae'r crynodeb o ymatebion bellach ar gael ar GOV.UK
Ymgynghoriad gwreiddiol
Hoffem glywed eich barn ynghylch cynigion i gyflwyno cynllun ar draws y DU ynghylch cyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr o ran deunyddiau pacio.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Nod y cynigion yw:
- Cynyddu faint o ddeunyddiau pacio sy’n cael eu casglu a’u hailgylchu
- Cyflwyno cymhellion i ddylunwyr deunyddiau pacio er mwyn eu gwneud yn haws i’w hailgylchu
- Ein helpu i sefydlu economi sy’n fwy cylchol a bod yn wlad ddiwastraff erbyn 2050 fel y nodir yn ein strategaeth Mwy nag Ailgylchu.
- Gorfodi busnesau i dalu’r holl gostau net sydd ynghlwm wrth reoli eu deunyddiau pacio ar ôl iddynt gyrraedd diwedd eu hoes.
Mae ymgynghoriad yn cael ei gynnal ar yr un pryd ynghylch cyflwyno cynllun dychwelyd ernes ar gyfer cynwysyddion diodydd yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.
Mae'r ymgynghoriad hwn yn cael ei gynnal ar GOV.UK