Julie James, Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol
Cefndir
Disgwylir i'r etholiad cyffredinol ar gyfer aelodaeth o'r Senedd gael ei gynnal ar 6 Mai 2021, ynghyd ag etholiadau Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu ac unrhyw is-etholiadau llywodraeth leol a ohiriwyd ac a bennwyd ar gyfer y dyddiad hwnnw gan Swyddogion Canlyniadau.
Cynhelir yr etholiadau yng nghysgod pandemig y coronafeirws. Er bod y rhan fwyaf o ddangosyddion yn symud i'r cyfeiriad cywir a bod y rhaglen frechu yn gwneud cynnydd sylweddol iawn, mae'n anodd bod yn sicr beth fydd y sefyllfa ddechrau mis Mai.
Bwriad cadarn Llywodraeth Cymru yw y bydd yr etholiad yn mynd rhagddo ar 6 Mai 2021 ac mai dim ond pan fetho popeth arall, a phe bai'r sefyllfa iechyd y cyhoedd yn ei gwneud yn ofynnol, y byddai'r etholiad yn cael ei ohirio. Rydym yn cefnogi Swyddogion Canlyniadau a gweinyddwyr etholiadol i gymryd camau i liniaru'r risgiau sy'n gysylltiedig â chynnal yr etholiad yn ystod y pandemig. Bydd mesurau cadw pellter cymdeithasol a hylendid ar waith mewn gorsafoedd pleidleisio a lleoliadau cyfrif, a bydd pleidleiswyr yn cael eu hannog i ystyried pleidleisio drwy'r post a phleidleisio drwy ddirprwy. Bydd pleidleisiau procsi brys ar gael i'r rhai y mae angen iddynt hunanynysu yn agos at y diwrnod pleidleisio.
Diben Bil Etholiadau Cymru (Coronafeirws) yw gwneud darpariaeth i ymateb i'r risgiau posibl i’r etholiad sy'n deillio o bandemig y coronafeirws gyda'r nod o sicrhau y gellir gweinyddu a chynnal yr etholiad yn ddiogel, ac y gall yr etholwyr gymryd rhan a phleidleisio, neu, mewn cyfyngder, y gellir gohirio'r etholiad os bydd angen.
Nid yw'r penderfyniad i ohirio etholiad yn un y dylid ei gymryd yn ysgafn, ac wrth wneud cynnig i ohirio'r etholiad, rhaid i Lywodraeth Cymru ystyried y sefyllfa iechyd y cyhoedd a sut y gallai etholiad gael effaith negyddol ar y rhai sy'n cymryd rhan a sut y gallai gyfrannu at gynnydd mewn cyfraddau heintio. Ynghyd ag unrhyw bryderon ynghylch iechyd y cyhoedd, rhaid inni hefyd ystyried yr effaith y mae hyn yn ei chael ar allu gweinyddwyr etholiadol i gynnal y bleidlais yn effeithiol. Rhaid gwerthuso hyn i gyd yn erbyn effaith gohirio etholiad ar ddemocratiaeth Cymru a chanlyniadau gohirio hawl sylfaenol y rhai a freiniwyd i bleidleisio.
Bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio'r meini prawf canlynol wrth ddod i benderfyniad ynghylch a oes angen gohirio'r etholiad. Mae'r meini prawf yn nodi’r egwyddorion cyffredinol a ddefnyddir i lywio barn gytbwys ac fe'u cynlluniwyd i ganiatáu ar gyfer yr hyblygrwydd sydd ei angen mewn ymateb i’r pandemig.
Maen Prawf 1: Sefyllfa Iechyd y Cyhoedd
Bydd nifer yr achosion o'r feirws a gallu'r GIG i ddelio â’r achosion yn allweddol i unrhyw benderfyniad i ohirio'r etholiad. Nid yn unig y bydd y feirws yn cael effaith ar y gallu i gynnal etholiad yn ddiogel ac yn deg, ond gallai cynnal pleidlais arwain at fwy o ryngweithio ag eraill mewn amgylcheddau dan do, er gwaethaf yr ymdrechion gorau i leihau cyswllt, a gall hynny yn ei dro arwain at gynnydd yn lledaeniad y feirws.
Defnyddir y dangosyddion canlynol i asesu a yw’r sefyllfa iechyd y cyhoedd yn ddigon bregus, a'r risg i iechyd y cyhoedd yn ddigon uchel, i gyfiawnhau cymryd camau eithafol, megis gohirio’r etholiad, er mwyn atal lledaeniad pellach y feirws.
Dangosyddion allweddol:
- Cyfraddau achosion wedi'u cadarnhau.
- Capasiti ysbytai.
- Adborth gan weithwyr iechyd proffesiynol lleol (gan gynnwys timau rheoli digwyddiadau neu dimau rheoli achosion).
- Adborth gan arweinwyr awdurdodau lleol a phartneriaid lleol eraill.
- Cyfraddau newid yn y Dangosyddion Lefel Rhybudd.
- Cynnydd y rhaglen frechu.
- Achosion o amrywiolion sy'n peri pryder.
Cyhoeddwyd rhagor o fanylion am y dangosyddion allweddol nad ydynt yn fecanyddol a ystyriwyd gan Lywodraeth Cymru wrth symud rhwng lefelau rhybudd yng Nghymru yn ein Cynllun Rheoli’r Coronafeirws[1] ym mis Ionawr 2021.
Maen Prawf 2: Statws y Paratoadau ar gyfer yr Etholiad
Yn ogystal â'r dangosyddion iechyd y cyhoedd, bydd angen inni hefyd ystyried a yw nifer yr achosion o'r feirws yn golygu ei bod yn annhebygol y gellir cynnal pleidlais deg a diogel. Ein nod yw ceisio etholiad lle mae gan bleidleiswyr yr hyder i gymryd rhan a thrwy hynny sicrhau bod digon o bobl yn pleidleisio i sicrhau hygrededd y bleidlais. Byddai etholiad lle mae pleidleiswyr yn teimlo'n anniogel ac yn wynebu risg sylweddol o gael eu heintio o ganlyniad i bleidleisio yn annerbyniol. Gallai nifer yr achosion o'r feirws gael effaith uniongyrchol ar y paratoadau ymarferol y mae gweinyddwyr etholiadol yn ymgymryd â hwy, er gwaethaf eu hymdrechion gorau i liniaru'r risgiau y mae'n eu hachosi.
Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio'n agos gyda Swyddogion Canlyniadau a rhanddeiliaid eraill i fonitro statws y paratoadau. Fel y nodir ym Mil Etholiadau Cymru (Coronafeirws), mae gan y Comisiwn Etholiadol ddyletswydd i roi cyngor i Lywodraeth Cymru ar y mater hwn pan ofynnir amdano.
Defnyddir y dangosyddion canlynol i asesu a yw'r pandemig yn fygythiad sylweddol i'r trefniadau ymarferol ar gyfer cynnal etholiad y Senedd yn ddiogel ac yn deg.
Dangosydd Allweddol:
- Cyngor gan Brif Swyddog Meddygol Llywodraeth Cymru ynghylch effaith lledaeniad y feirws ar hyn o bryd ar y gallu i gynnal y bleidlais yn ddiogel.
- Adborth gan Swyddogion Canlyniadau, y Comisiwn Etholiadol a rhanddeiliaid eraill ar effaith y pandemig ar logisteg cynnal yr etholiad, er enghraifft mewn perthynas ag argaeledd staff a lleoliadau neu'r gallu i brosesu pleidleisiau absennol.
- Amseru etholiadau Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu.
Nid yw'r meini prawf a nodir uchod yn rhestr gynhwysfawr a bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn ystyried unrhyw ffactorau perthnasol eraill sy'n berthnasol pan fydd angen gwneud penderfyniad, gan gynnwys ffactorau a allai ddod i'r amlwg yn nes at yr etholiad.
[1] Cynllun Rheoli’r Coronafeirws: Lefelau Rhybudd yng Nghymru