Mae gwaith medrus dros y misoedd diwethaf i osod trawstiau pontydd i adeiladu dwy draphont fel rhan o ffordd osgoi Caernarfon a Bontnewydd bellach wedi'i gwblhau.
Mae fideo treigl amser o draphont Afon Seiont wedi'i ryddhau sy'n dangos sut y cafodd y gwaith ei wneud gan Gyd-fenter Balfour Beatty Jones Bros sy'n adeiladu'r ffordd osgoi £135m sy'n un o'r prosiectau seilwaith mwyaf sydd ar y gweill yng Ngogledd Cymru.
Bydd y ffordd osgoi 9.8km yn rhedeg o gylchfan y Goat ar gyffordd yr A499/A487 i gylchfan Plas Menai o amgylch Llanwnda, Dinas, Bontnewydd a Chaernarfon.
Bydd y cynllun yn sicrhau gwell amseroedd teithio, yn lleihau tagfeydd ac yn gwella ansawdd aer ar ffyrdd lleol, ac yn arwain at fwy o gyfleoedd ar gyfer teithio llesol.
Cyrhaeddwyd carreg filltir allweddol arall gan fod gwaith gosod wyneb bellach yn dechrau ar y ffordd osgoi ger Ystâd Ddiwydiannol Cibyn yng Nghaernarfon.
Mae tîm y safle o Balfour Beatty a Jones Bros wedi parhau i weithio drwy gydol pandemig COVID-19 gyda mesurau rheoli llym ar waith i ddiogelu'r gweithlu.
Dywedodd Ken Skates, y Gweinidog Trafnidiaeth a Gogledd Cymru:
"Mae ffordd osgoi Caernarfon a Bontnewydd yn brosiect seilwaith mawr yng Ngogledd Cymru ac mae'n wych gweld sut mae'r gwaith yn mynd rhagddo'n dda.
"Mae angen sgiliau arbennig i osod trawstiau'r bont ac mae hyn yn amlwg o'r fideo treigl amser sydd newydd ei ryddhau sy'n dangos sut y cyflawnwyd y gamp hon o beirianneg.
"Bydd y llwybr newydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i'r cymunedau lleol yn y Bontnewydd a'r cyffiniau unwaith y bydd wedi'i chwblhau, drwy wella ansawdd aer a chael gwared ar dagfeydd. Rwy'n falch o weld y cynnydd rhagorol ar y cynllun mawr hwn a'r manteision y mae wedi'u rhoi i'r economi leol."
Dywedodd Jon Muff, arweinydd strwythurau Cyd-fenter Peirianneg Sifil Balfour Beatty Jones Bros:
"Roedd darparu a gosod trawstiau'r bont ddur ar gyfer y ddwy bont yn gofyn am gryn gydlynu a sgil gan bawb.
"Mae codi'r gwaith dur yn ei le yn garreg filltir bwysig sy'n nodi dechrau cyfnod allweddol nesaf y prosiect: bwrw deciau'r bont goncrit.
"Mae'n gyffrous gweld y cynllun yn parhau i fynd rhagddo, ac edrychwn ymlaen at orffen ar amser."