Julie James AS, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol
Ym mis Rhagfyr y llynedd, ysgrifennais at Aelodau'r Senedd i rannu manylion strategaeth gyfathrebu Tlodi Plant - y Cynllun Gweithredu Pwyslais ar Incwm. Roedd y strategaeth hon yn nodi ein cynlluniau i sicrhau bod pobl yn ymwybodol o'r cyfleoedd sydd ar gael iddynt i’w helpu i gynyddu incwm eu haelwyd.
Ar 1 Mawrth 2021, fel rhan o'r strategaeth gyfathrebu honno, lansiwyd yr ymgyrch gyfathrebu integredig genedlaethol gyntaf (#hawliadyarian / #claimwhatsyours) i annog pobl i wirio a hawlio'r budd-daliadau y mae ganddynt hawl iddynt. Mae'r ymgyrch yn targedu teuluoedd incwm isel ledled Cymru yn ogystal â chynulleidfa ehangach o bobl y gall fod angen cymorth arnynt bellach oherwydd effeithiau ariannol y pandemig.
Cynhelir yr ymgyrch o 1 Mawrth hyd at 25 Mawrth gan ddefnyddio negeseuon creadigol a gyflwynir drwy gyfathrebu digidol ar-lein, hysbysebion mewn papurau newydd a dosbarthu taflenni mewn ardaloedd cod post a dargedir. Byddwn yn hysbysebu ar y cyfryngau cymdeithasol ar Facebook, Instagram a YouTube a bydd hysbyseb sain ar Spotify. Yn ogystal, byddwn yn defnyddio hysbysebion chwilio ac arddangos Google i dargedu'r rhai sy'n ceisio cymorth ariannol yng Nghymru pan fyddant yn chwilio am fudd-daliadau penodol, swyddi neu hyd yn oed fenthyciadau diwrnod cyflog.
Bydd yr ymgyrch yn cyfeirio pobl at adran newydd ar wefan Llywodraeth Cymru (https://llyw.cymru/hawliwch-yr-hyn-syn-ddyledus-i-chi).
Mae codi ymwybyddiaeth person ond yn un rhan o'i daith i gael arian ychwanegol. Felly, un o negeseuon cryf yr ymgyrch yw y dylai pobl gysylltu â llinell gymorth Advicelink Cymru am gymorth uniongyrchol ar 0808 250 5700. Fe fyddant yn cael cyngor cyfrinachol o ansawdd da ar y budd-daliadau y mae ganddynt hawl iddynt a mynediad i'r ystod lawn o gyngor a chymorth arall sydd ar gael drwy wasanaethau Cronfa Gynghori Sengl Llywodraeth Cymru.
Rydym hefyd wedi datblygu pecyn cymorth i'n rhanddeiliaid. Dyma ddolen i’r pecyn hwn er gwybodaeth Pecyn Cymorth yr Ymgyrch Genedlaethol Hawlio Budd-daliadau.
Rwy’n annog pob Aelod ar draws y Siambr i gefnogi'r ymgyrch drwy ddosbarthu gwybodaeth yr ymgyrch yn eich etholaethau a'ch cymunedau.
Yn ogystal â'r ymgyrch genedlaethol gyntaf i hawlio budd-daliadau lles, rydym yn cyflwyno nifer o fentrau i roi cymorth pellach i deuluoedd yng Nghymru hawlio'r holl gymorth ariannol y mae ganddynt hawl iddo. Mae hyn yn cynnwys:
Datblygu a chyflwyno pecynnau gwybodaeth a hyfforddiant i weithwyr rheng flaen
Mae rhaglen codi ymwybyddiaeth yn mynd rhagddi ar gyfer gweithwyr rheng flaen i gynyddu eu dealltwriaeth o'r systemau budd-dal lles/cymorth ariannol ehangach a'u gallu i gefnogi pobl i hawlio'r holl incwm y mae ganddynt hawl iddo.
Caiff 150 o sesiynau ymwybyddiaeth ar-lein eu cynnal yn ystod cyfnod y contract.
Dechreuodd y sesiynau hyn ym mis Ionawr ac rwy'n falch o adrodd eu bod yn boblogaidd ac yn hynod lwyddiannus, ac felly rydym yn cynyddu nifer y sesiynau sy'n cael eu cyflwyno er mwyn ateb y galw a welwyd ar draws Cymru.
Darparu mwy o gyngor a chymorth ar fudd-daliadau lles drwy fodelau cymorth i deuluoedd presennol, er mwyn helpu i sicrhau'r incwm mwyaf posibl
Mae carfan fach o weithwyr cymorth awdurdodau lleol yn cael hyfforddiant mwy dwys ar fudd-daliadau, hyd at lefel y cynghorydd budd-daliadau cyffredinol, er mwyn iddynt allu darparu mwy o gyngor a chymorth i'r teuluoedd y maent yn gweithio gyda nhw.
Mae'r gwaith hwn yn ceisio manteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd sy’n deillio o’r berthynas ddibynadwy a ddatblygir rhwng y gweithwyr hyn a'r bobl y maent yn eu helpu.
Bydd y peilot yn cynnwys gwaith monitro a gwerthuso anffurfiol i asesu'r defnydd a wneir o'r wybodaeth/sgiliau ychwanegol hyn gan gyfranogwyr a, lle bo'n bosibl, yr effaith ddilynol ar unigolion/teuluoedd, a bydd yn llywio'r angen i'w gyflwyno'n genedlaethol.
Darparu system o 'basbortau' rhwng budd-daliadau awdurdodau lleol gan ei gwneud yn haws ac yn gyflymach i wneud cais am gymorth yng Nghymru.
Ar y cyd ag awdurdodau lleol a rhanddeiliaid perthnasol eraill, rydym wrthi'n ystyried symleiddio’r prosesau ymgeisio ar gyfer budd-daliadau lles datganoledig.
Rydym yn coladu'r hyn a ddysgwyd o'r gwaith hwn i gynhyrchu Pecyn Cymorth Arfer Gorau ar gyfer Awdurdodau Lleol. Bydd hyn yn cynnwys enghreifftiau o'r arferion y mae gwahanol Awdurdodau Lleol wedi'u cyflwyno i helpu i symleiddio'r broses ymgeisio a chynyddu nifer y bobl sy’n hawlio budd-daliadau.
Gwyddom fod y pandemig wedi gwaethygu anghydraddoldebau a oedd eisoes yn bodoli, a'r rhai mwyaf agored i niwed sydd wedi’u taro galetaf.
Ymrwymodd Llywodraeth Cymru i liniaru effaith yr argyfwng i deuluoedd sy'n byw mewn tlodi ac rydym yn cymryd cyfres o gamau gweithredu i sicrhau bod teuluoedd yng Nghymru yn ymwybodol o'r holl gymorth ariannol y mae ganddynt hawl iddo ac yn gallu cael gafael arno – mae'r rhain yn gamau ymarferol a fydd yn helpu i gynyddu incwm, yn lleihau costau byw hanfodol ac yn cefnogi teuluoedd i ddatblygu gwytnwch ariannol.