Mam newydd mewn byd newydd
Roedd breuddwydio am absenoldeb mamolaeth, cwrdd â’m babi annwyl a’r holl atgofion hyfryd y byddem yn eu creu yn fy nghadw i fynd drwy feichiogrwydd anodd (gadewch i ni ddweud nad oedd golwg iach arna i).
Roeddwn i’n breuddwydio am bicnics yn y parc a diwrnodau yn y sw lle byddwn yn dysgu holl enwau’r anifeiliaid i fy mab a byddem yn chwilota ac yn tynnu llawer gormod o luniau. Breuddwydion am aelodau’r teulu yn cael cwtshys gwerthfawr ac yn gwirioni dros y bysedd traed bach. Byddai’n falch o ddangos ei sgiliau newydd-eistedd, cropian a cherdded-a byddai pawb yn mwynhau’r holl anturiaethau gyda ni.
Gallwch ddyfalu mae’n siŵr, nid felly y bu.
Rydyn ni wedi treulio’r rhan fwyaf o’i fywyd mewn cyfnodau clo a dan gyfyngiadau amrywiol. Mae’r teulu wedi colli amser i fondio a bu’n rhaid i mi ddysgu, addasu ac ymdopi â bod yn fam newydd ar fy mhen fy hun. Dydy fy mab ddim wedi cael cyfle i weld wynebau (dim ond masgiau a dim mynegiant) ac mae hyn wedi bod yn anodd.
Fodd bynnag, nid colledion yn unig ddaeth gyda’r cyfnodau clo – cafwyd bendithion hefyd. Rydyn ni wedi cael blwyddyn o amser un-i-un. Mae gennym ni atgofion dirifedi yn fy nghartref y byddaf yn eu cofio bob tro y byddaf yn edrych ar y marc ar fy ffenest lle roedden ni wedi gwneud cuddfan, neu’r staen paent o’n diwrnod peintio cyrff. Fe ddechreuodd fel peintio arferol ond mae’n debyg nad oedd y papur yn gynfas digon da. Mae’r cyfnod clo wedi gwneud i mi sylweddoli beth sy’n bwysig mewn bywyd a phwy yw’r bobl rydych chi’n wir yn gweld eu heisiau. Rydw i wedi dod o hyd i ffyrdd gwahanol o gyfathrebu ac yn gwneud mwy o ymdrech i siarad â’r rheiny rwy’n gweld eu heisiau bob dydd
Felly, nid dyma’r amser roeddwn i wedi ei gynllunio ac rydyn ni wedi colli cymaint o ddatblygiad cymdeithasol fy mab a chefnogaeth gan y rheiny sy’n agos atom, ond rydyn ni’n iach ac yn gwybod nad yw hyn am byth. Yr hyn rydw i wedi ei ddysgu o’r profiad hwn yw peidio byth â chymryd cwmni pobl eraill yn ganiataol, gwneud amser i’r rheiny sy’n bwysig a pheidio â gadael i dasgau bob dydd achosi i chi golli galwad ffôn neu gyfle i siarad.
Rydw i wedi gwneud ffrindiau newydd ar-lein ac rydw i’n gwneud yn siŵr eu bod yn iawn bob dydd. Rwy’n gwrando, rwy’n cydymdeimlo a dydw i ddim yn beirniadu; bod yn fam newydd, neu’n fam yn gyffredinol, yw’r swydd anoddaf. Ydy hi’n werth chweil? Ydy, wrth gwrs, ond gall hefyd wneud i chi deimlo’n ynysig ac yn unig
Os ydych chi’n fam sy’n ei chael hi’n anodd yn ystod y cyfnod clo, cofiwch estyn allan. Dydy’r cyfnod yma ddim yn un normal ac mae pethau’n anodd, ond mae menywod eraill sy’n gwybod sut rydych chi’n teimlo, ac maen nhw hefyd yn gadael i’r llestri neu’r golch bentyrru er mwyn goroesi’r dydd. Mae aros gartref yn golygu aros yn iach, ond beth am ein hiechyd meddwl? Mae hyn yr un mor bwysig a gall estyn allan a siarad wneud gwahaniaeth enfawr.
Rwyt ti’n gwneud yn dda mam, gallwn ni wneud hyn gyda’n gilydd.