Mae cwmni o’r Trallwng, CastAlum, yn ehangu ei gynhyrchiant yn sylweddol ac yn creu hyd at 50 o swyddi gyda chymorth gan Lywodraeth Cymru.
Mae'r cyflenwr cydrannau alwminiwm byd-eang, sydd wedi bod yn y dref ers 20 mlynedd, yn buddsoddi £5 miliwn yn ei gyfleusterau yn yr ardal. Mae rhaglen Arloesedd Smart Llywodraeth Cymru wedi darparu cymorth technegol ar gyfer nifer o brosiectau diweddar gan y cwmni, ac mae cyllid SMART Cymru gwerth £100,000 wedi cael ei gyd-fuddsoddi mewn technoleg newydd. Mae hyn yn adeiladu ar y berthynas hirsefydlog rhwng Llywodraeth Cymru a CastAlum.
Lleolir y cwmni, sy’n arbenigo mewn peirianneg deigastio, ym Mharc Menter Buttington Cross, ac mae’n cyflenwi cydrannau ar gyfer cwmnïau ceir fel Porsche, Mercedes, a BMW. Bydd ei gynlluniau i ehangu’n gweld y cwmni'n adeiladau dwy gell weithgynhyrchu newydd o'r radd flaenaf a fydd yn cynyddu ei allu i gynhyrchu'n sylweddol.
Mae CastAlum eisoes yn gyflogwr pwysig yn y Trallwng gyda 116 o gyflogeion ar y safle.
Dywedodd Peter Radcliffe, cadeirydd CastAlum Ltd:
Er gwaethaf yr holl newyddion anffafriol am y pandemig dros y 12 mis diwethaf, rydyn ni wedi bod yn gweithio'n galed i sicrhau busnes hirdymor yn y dyfodol i CastAlum a'r Trallwng. Mae ein cefnogwyr ariannol wedi gallu rhoi cymorth i’n helpu ni i ddatblygu dyfodol hyderus a blaengar ar gyfer ein safle hirsefydlog yn y Trallwng.
Bydd y contractau newydd a enillwyd yn rhoi sicrwydd inni dros y pum mlynedd nesaf o leiaf wrth inni barhau i ddatblygu cwmpas ein busnes ar gyfer marchnadoedd newydd. Ochr yn ochr â'r busnes newydd rydyn ni hefyd yn datblygu technolegau sy'n arwain y diwydiant i sicrhau ansawdd ein cynhyrchion a diwallu anghenion ein cwsmeriaid.
Dywedodd Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates:
Fel llywodraeth, rydyn ni am weld ein busnesau'n tyfu, yn llwyddo ac yn ffynnu mewn economi sy'n fwy llewyrchus, cyfartal a gwyrddach nag erioed o'r blaen.
Rwyf wrth fy modd bod ein cymorth yn helpu i atgyfnerthu’r dirwedd busnes yn y Trallwng a chreu cynifer o swyddi medrus iawn yn CastAlum. Mae'r newyddion heddiw yn hwb i'w groesawu i'r economi leol ac yn dangos yn glir ymrwymiad y gweithlu a'r ardal.
Rydyn ni wedi ymrwymo i gefnogi busnesau Cymru wrth inni adfer ac ailadeiladu ein heconomi, ac mae ein cefnogaeth i CastAlum yn dangos hynny.