Neidio i'r prif gynnwy

Julie James AS, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Mawrth 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Rwyf yn falch o hysbysu'r aelodau fy mod wedi gwneud Rheoliadau Absenoldeb Teuluol ar gyfer Aelodau Awdurdodau Lleol (Cymru) (Diwygio) 2021 heddiw.   Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2021.

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Absenoldeb Teuluol ar gyfer Aelodau Awdurdodau Lleol (Cymru) 2013 i gynyddu hawl absenoldeb mabwysiadwr yn achos aelodau awdurdod lleol o 2 wythnos i 26 wythnos.

Mae absenoldeb teuluol yn sbardun sylfaenol i gynyddu amrywiaeth y rhai sy'n cymryd rhan mewn democratiaeth leol drwy alluogi unigolion i gydbwyso gofynion eu rôl fel aelod o'r awdurdod lleol ag anghenion eu teulu. Bydd y newidiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn yn golygu y bydd yr un cyfnodau o absenoldeb mamolaeth a mabwysiadwr ar gael i aelodau prif gynghorau ac yn darparu ar gyfer trefniadau tebyg ar gyfer absenoldeb mabwysiadwr, fel sydd eisoes ar waith ar gyfer absenoldeb mamolaeth. 

Rwyf hefyd wedi gwneud Gorchymyn Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (Cychwyn Rhif 1 a darpariaeth arbed) 2021, y gorchymyn cychwyn cyntaf mewn perthynas â Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (“Deddf 2021”). 

Fel y cyntaf o dri Gorchymyn Cychwyn yr wyf yn bwriadu  eu gwneud yn ystod mis Mawrth, mae'r Gorchymyn hwn yn dod â nifer o ddarpariaethau allweddol Deddf 2021 i rym ar gyfres o ddyddiadau hyd at 5 Mai 2022.  Bydd hyn yn rhoi sicrwydd i'r awdurdodau lleol ynghylch pa newidiadau deddfwriaethol sy'n cael eu rhoi ar waith a phryd, ac yn sicrhau y gellir gwneud y paratoadau gofynnol.

Ar 1 Ebrill 2021, bydd adran 163, sy'n darparu ar gyfer penodi, gan y Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol, ei brif weithredwr, ac adran 164, sy'n galluogi Gweinidogion Cymru i roi cyfarwyddydau i'r Comisiwn ac i brif gynghorau, yn ymwneud ag arfer eu swyddogaethau o dan Ran 3 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013, yn dod i rym.

Daw'r pŵer cymhwysedd cyffredinol i rym ar gyfer prif gynghorau ar 1 Tachwedd 2021 a chynghorau cymuned cymwys ar 5 Mai 2022.  Bydd cychwyn y darpariaethau hyn ar y dyddiadau hyn yn caniatáu i'r is-ddeddfwriaeth angenrheidiol gael ei gwneud ac i ganllawiau gael eu cyhoeddi i gefnogi'r gwaith o roi'r darpariaethau hyn ar waith.

O 1 Ebrill 2022 bydd yn ofynnol i gynghorau cymuned a thref baratoi a chyhoeddi adroddiad am flaenoriaethau, gweithgareddau a chyflawniadau'r cyngor yn ystod pob blwyddyn ariannol.  Bydd yn ofynnol i gynghorau gyhoeddi eu hadroddiad cyntaf, a fydd yn ymwneud â blwyddyn ariannol 2021-22, cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl diwedd y flwyddyn ariannol honno.

Yng ngoleuni'r pandemig, estynnwyd yr amserlen ar gyfer craffu ar y Ddeddf gan y Senedd.  O ganlyniad rwyf wedi dewis gohirio cychwyn nifer o ddarpariaethau'r Ddeddf hyd at 5 Mai 2022 i gyfateb i ddyddiad etholiadau cyffredin llywodraeth leol nesaf. 

Credaf fod y dull hwn yn fwy priodol ac yn peri llai o aflonyddwch i'r awdurdodau lleol, yn enwedig yng ngoleuni'r pandemig parhaus, yn hytrach na gorfodi'r sector i nifer o ofynion newydd o fewn y flwyddyn cyn yr etholiadau.    

O'r herwydd, bydd nifer o ddarpariaethau'n dod i rym ar 5 Mai 2022, gan gynnwys mewn perthynas â:

  • Diwygiadau i annog y cyhoedd i gymryd mwy o ran mewn democratiaeth leol, a gwella tryloywder gan gynnwys:
  1. ei gwneud yn ofynnol i brif gynghorau:
  • annog pobl leol i gymryd rhan mewn llywodraeth leol drwy baratoi strategaeth cyfranogiad y cyhoedd; sefydlu cynllun deisebau a chyhoeddi eu cyfansoddiad a chanllaw i'r cyfansoddiad;
  • cyhoeddi cyfeiriadau swyddogol ar gyfer aelodau;
  • gwneud trefniadau i ddarlledu cyfarfodydd o'u cyngor llawn sy'n agored i'r cyhoedd yn electronig a sicrhau bod y darllediad ar gael yn electronig am gyfnod rhesymol ar ôl y cyfarfod;
  1. darpariaethau sy'n galluogi'r cyhoedd i gymryd rhan yng nghyfarfodydd cynghorau cymuned a thref.  
    •  
  • Darpariaeth sy'n ymwneud ag arweinyddiaeth cynghorau, gan gynnwys hwyluso mwy o amrywiaeth ymhlith aelodau gan gynnwys:
  • sefydlu swydd statudol prif weithredwr o fewn prif gynghorau;
  • penodi cynorthwywyr i weithredwyr prif gynghorau;  
  • rhannu swyddi - ei gwneud yn ofynnol i brif gynghorau gynnwys darpariaeth yn eu trefniadau gweithrediaeth sy'n galluogi dau neu fwy o aelodau i rannu swydd ar weithrediaeth;
  • dyletswydd arweinwyr grwpiau gwleidyddol o fewn prif gynghorau i gynnal safonau ymddygiad uchel;  
  • ddyletswydd ar gynghorau cymuned a thref i baratoi cynllun hyfforddi ar gyfer aelodau'r cyngor.

Er mwyn sicrhau bod awdurdodau lleol yn cael y cymorth a'r cymorth angenrheidiol wrth weithredu'r darpariaethau hyn, rwyf yn  bwriadu cyhoeddi canllawiau.  Yn hytrach na chreu nifer o ddarnau o ganllawiau ar wahân y mae'n rhaid eu darllen gyda'i gilydd, bydd set gyfunol o ganllawiau'n cael ei pharatoi.    

Gan edrych at y dyfodol bydd yr ail Orchymyn Cychwyn yn dod â darpariaethau amrywiol i rym ar draws Rhannau 6, 7 a 9 o'r Ddeddf, gan gynnwys y drefn perfformiad a llywodraethiant newydd ar gyfer prif gynghorau a darpariaethau mewn perthynas ag ailstrwythuro prif ardaloedd.    

Yna bydd y trydydd Gorchymyn Cychwyn yn dod â darpariaethau i rym mewn perthynas â phresenoldeb, gan gynnwys presenoldeb o bell, yng nghyfarfodydd awdurdodau lleol a'r trefniadau ar gyfer cyfarfodydd a dogfennau awdurdodau lleol, gan gynnwys ei gwneud yn ofynnol i ddogfennau cyfarfodydd penodol gael eu cyhoeddi'n electronig.

Mae gwneud yr ail a'r trydydd Gorchymyn Cychwyn yn ddarostyngedig i gymeradwyaeth y Senedd ar gyfer is-ddeddfwriaeth sy'n darparu i'r diwygiadau canlyniadol angenrheidiol gefnogi dod â'r darpariaethau perthnasol i rym. Byddaf yn rhoi rhagor o fanylion i'r Aelodau pan wneir y Gorchmynion Cychwyn hyn.