Heddiw, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi £30 miliwn ychwanegol ar gyfer busnesau twristiaeth, lletygarwch a hamdden sydd wedi teimlo effeithiau cyfyngiadau’r coronafeirws.
Cadarnhawyd hefyd, gan ddibynnu ar ganlyniad yr adolygiad nesaf ar 12 Mawrth, y gallai gwerth £150 miliwn o grantiau gael eu neilltuo i fusnesau, gan gynnwys micro-fusnesau, trwy gynllun Ardrethi Annomestig (NDR) Llywodraeth Cymru os caiff cyfyngiadau’r coronafeirws eu estyn.
Yn y rownd ddiweddaraf, bydd £30m o gymorth y Gronfa Cadernid Economaidd yn cael ei dargedu er lles busnesau bach, canolig a mawr yn y sector lletygarwch, hamdden a thwristiaeth ac i fusnesau yn y gadwyn gyflenwi gysylltiedig.
Mae’r arian yn cael ei dargedu at fusnesau sy’n cyflogi deg neu fwy o staff fel cydnabyddiaeth o’r costau gweithredu cymharol uchel y mae’r busnesau hyn yn gorfod eu hysgwyddo.
Ond os caiff y cyfyngiadau eu hestyn yn yr adolygiad ar 12 Mawrth, byddai’r £150m fyddai’n cael ei neilltuo yn golygu y byddai pob busnesau lletygarwch, twristiaeth a hamdden a siopau nad ydyn nhw’n hanfodol yn cael taliad ychwanegol o hyd at £5k, waeth faint o weithwyr a gyflogir ganddynt.
O heddiw ymlaen, bydd busnesau lletygarwch, twristiaeth a hamdden yn cael mynd ar y gwiriwr cymhwysedd a’r gyfrifiannell sydd ar wefan Busnes Cymru i'w helpu i weithio allan pa gymorth y gallent fod yn gymwys iddo yn y rownd ddiweddaraf hon a deall y manylion sydd eu hangen i wneud cais.
Dywedodd Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a’r Gogledd, Ken Skates:
"Mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn un hynod o anodd i bawb ac rydym yn ymwybodol o'r heriau sylweddol sy'n wynebu ein sector lletygarwch, twristiaeth a hamdden.
"Ffocws y rownd ariannu ddiweddaraf hon gyda’i £30m o arian ychwanegol ar gyfer busnesau lletygarwch, hamdden a thwristiaeth yw’r busnesau bach, canolig a mawr yn y sector a’r nod penodol o ddiogelu cymaint o swyddi â phosibl.
"Cefnogaeth Llywodraeth Cymru i fusnesau gan gynnwys i’r sector lletygarwch, hamdden a thwristiaeth drwy gydol y pandemig fu'r un fwyaf hael o holl wledydd y DU, ac rwy'n falch ein bod wedi gallu rhoi dros £1.9bn yn uniongyrchol yng nghyfrifon banc ein busnesau.
"Gyda chyfyngiadau'n debygol o barhau am ychydig amser eto rydym wrthi'n adolygu ein hopsiynau ar gyfer darparu cymorth pellach. Mae’n dda gen i gadarnhau nawr y byddwn yn neilltuo £150m o gymorth ychwanegol i fusnesau sy’n talu ardrethi annomestig os caiff y cyfyngiadau eu hestyn yn adolygiad nesa’r coronafeirws ar 12 Mawrth, gan gynnwys i ficro-fusnesau."
Dywedodd Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid;
"Mae'r pandemig wedi cael effaith anghymesur ar y sector lletygarwch, hamdden a thwristiaeth a'r bobl y mae'n eu cyflogi.
"Mae'r gronfa newydd hon, a’r arian ychwanegol y byddwn yn ei neilltuo pe bai’r cyfyngiadau’n cael eu hestyn, yn ymateb i gam diweddaraf y pandemig ac yn arwydd o’n hymrwymiad di-dor i'r sector, gan eu helpu i oroesi'r cyfnod anoddaf hwn nes eu bod mewn sefyllfa i ailagor eu drysau'n ddiogel eto."
Mawr oedd croeso Kate Nicholls, Prif Weithredwr UKHospitality (UKH) i becyn grantiau diweddaraf Llywodraeth Cymru i’r diwydiant:
“Mae Llywodraeth Cymru wedi gwrando unwaith eto ar ein cynigion adeiladol ar gyfer mwy o gymorth a bydd yr arian newydd yn gwneud cyfraniad amlwg at barhau i arbed swyddi lleol a busnesau lleol tan 31 Mawrth mewn cymunedau ledled Cymru tra phery’r cyfnod clo.”