Heddiw, mae Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg, wedi cyhoeddi cynlluniau i fwy o blant gael y cyfle i ddychwelyd i’r ystafell ddosbarth cyn gwyliau’r Pasg.
Wrth siarad mewn fideo a ryddhawyd ar ei sianel Twitter, cadarnhaodd y Gweinidog y byddai ysgolion yn cael y cyfle i groesawu’n ôl y dysgwyr hynny ym mlynyddoedd 7, 8 a 9.
Y nod fydd rhoi cyfle i ddysgwyr gael sgwrs â’r athrawon, er mwyn rhoi sylw i'r cymorth sydd ar gael ar gyfer eu lles, a gwneud yn siŵr eu bod yn barod i ddychwelyd i'r ysgol yn llawn ar ôl gwyliau'r Pasg.
Byddai'r cynlluniau i ddisgyblion uwchradd iau ddychwelyd yn un sy’n ychwanegol at bob disgybl cynradd – y disgwylir iddynt ddychwelyd o 15 Mawrth – ynghyd â dysgwyr ym mlynyddoedd 10 a 12, y rhai mewn blynyddoedd arholiad a myfyrwyr sy'n gwneud cymwysterau tebyg mewn colegau.
Mae disgyblion cynradd iau wedi gallu dychwelyd i'w hystafelloedd dosbarth ers dydd Llun, 22 Chwefror.
Bydd y cynlluniau'n destun adolygiad tair wythnos rheolaidd o reoliadau'r coronafeirws gan Lywodraeth Cymru ddydd Gwener 12 Mawrth.
Dywedodd y Gweinidog:
Mae agor lleoliadau addysg i bob disgybl yn brif flaenoriaeth i ni yn Llywodraeth Cymru, ac rwy'n falch i allu rhannu rhywfaint o newyddion cadarnhaol o ran hynny heddiw.
Dyma'r ail wythnos i'n disgyblion ieuengaf fod nôl yn yr ysgol ac rwy wedi gweld fy hunan y gwahaniaeth y mae hyn eisoes yn ei wneud – diolch unwaith eto i bawb sy'n gwneud hyn yn bosibl.
Rydyn ni eisoes wedi cyhoeddi, o 15 Mawrth – os yw'r cyngor gwyddonol yn dal i ddweud ei bod yn ddiogel inni wneud hynny – y bydd pob plentyn ysgol gynradd sy'n weddill yn dechrau dychwelyd i'r ysgol, ynghyd â'r rhai mewn blynyddoedd arholiad a myfyrwyr sy'n gwneud cymwysterau tebyg mewn colegau a dysgu seiliedig ar waith. Rydyn ni hefyd yn cynnig hyblygrwydd i'r rheini ym mlynyddoedd 10 a 12.
Rwy hefyd wedi rhannu fy mwriad i gael pob dysgwr yn ôl i ysgolion, colegau a lleoliadau hyfforddiant ar ôl gwyliau'r Pasg.
Heddiw, galla’ i gadarnhau ein bwriad i fynd ymhellach yn gynt, gan roi cyfle i ysgolion groesawu yn ôl eu dysgwyr ym mlynyddoedd 7, 8 a 9 cyn gwyliau'r Pasg.
Byddai hynny'n rhoi cyfle i ddysgwyr gwrdd â'u hathrawon i drafod eu lles a gwneud yn siŵr eu bod yn barod i ddychwelyd i'r ysgol yn llawn ar ôl y Pasg.
Hoffwn i ei gwneud yn hollol glir nad yw hyn golygu y bydd dysgwyr blynyddoedd 7, 8 a 9 yn dychwelyd i'r ysgol yn llawn cyn y Pasg.
Cyn y Pasg, rydyn ni'n canolbwyntio ar ddysgwyr sy'n ymgymryd â chymwysterau, yn enwedig y rheini ym Mlynyddoedd 11 a 13, a'r rhai sy'n astudio cymwysterau galwedigaethol ymarferol.
Byddwn ni'n cyhoeddi canllawiau llawn i ysgolion heddiw, a bydd y rheini'n helpu mewn perthynas â'r holl gynllunio angenrheidiol.
Byddwn ni hefyd yn trefnu mwy o sesiynau rhithwir ar gyfer penaethiaid, gan eich bod wedi rhoi gwybod eu bod yn ddefnyddiol. A byddaf yn rhannu'r manylion ar y cyfryngau cymdeithasol.
Hoffwn i ddiolch i bob un ohonoch chi unwaith eto am ddilyn y rheolau, lleihau trosglwyddo'r feirws, ac am ganiatáu mwy o hyblygrwydd i ni gael dysgwyr yn ôl i'n hysgolion a'n colegau.
Gyda'n gilydd byddwn ni'n cadw Cymru'n ddiogel, a gyda'n gilydd byddwn ni'n sicrhau bod dysgwyr Cymru'n dal ati i ddysgu.