Sut i drefnu brechlyn COVID-19 os ydych yn ofalwr ar gyfer person sy’n agored i niwed yn glinigol.
Cynnwys
Trosolwg
Os ydych dros 16 oed, ac chi yw'r unig ofalwr neu brif ofalwr person hŷn neu berson anabl sy’n agored i niwed yn glinigol, rydych bellach yn gymwys i gael y brechlyn.
Mae’r rheini sy’n agored i niwed yn glinigol i COVID-19 yn cynnwys:
- plant sydd â niwroanableddau difrifol
- pobl sydd wedi’u dynodi yn Eithriadol o Agored i Niwed yn Glinigol, oedolion sydd â chyflyrau iechyd isorweddol
- y rheini sydd angen gofal oherwydd henaint
Sut i drefnu eich brechlyn
Ar ôl i chi lenwi’r ffurflen, cewch eich gwahodd i gael y brechlyn COVID-19.
Mae ffurflenni ar gael ar dudalennau gwe byrddau iechyd y GIG. Mae angen i chi ddewis eich bwrdd iechyd lleol (neu’r bwrdd iechyd lle mae eich practis meddyg teulu wedi’i leoli):
Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro
Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg
Sut mae diffinio 'agored i niwed yn glinigol'
Wrth benderfynu pa ofalwyr y dylid eu blaenoriaethu ar gyfer brechu, mae tri ffactor pwysig i'w hystyried:
1) Pa mor agored i niwed yw'r person sy'n derbyn gofal
Mae'r person yma yn:
- yn 65 oed ac yn hŷn (grŵp 5)
- yn cael ei ystyried yn hynod o agored i niwed yn glinigol (grŵp 4)
- â chyflwr iechyd isorweddol diffiniedig gan gynnwys salwch meddwl (yn gymwys o dan grŵp 6)
- yn blentyn o dan 16 oed sydd ag anghenion meddygol cymhleth/niwro-anableddau difrifol
2) Mae natur y gofal a ddarperir i'r rhai 16 oed ac yn hŷn:
yn cynnwys helpu gyda:
- bwyta
- ymdrochi
- eillio
- rheoli ymataliaeth
- gwisgo a cherdded
- heb fod yn gyfyngedig i'r uchod
Gall gynnwys ymyrryd mewn
- ymddygiad heriol neu ymddygiad sy'n peri risg
- gall gynnwys darparu lefelau sylweddol o gymorth a goruchwyliaeth gartref neu yn y gymuned a lle nad yw cadw pellter cymdeithasol yn bosibl.
Mae natur y gofal a ddarperir i blant o dan 16 oed sydd ag anghenion meddygol cymhleth/niwro-anableddau difrifol:
- y tu hwnt i'r gofal a'r cymorth y mae rhieni fel arfer yn eu darparu ar gyfer plentyn. Mae'n debygol o gynnwys tasgau fel gofal tiwb traceostomi, sugnedd llwybr anadlu, adleoli i reoli mannau pwyso ac ymyriadau gofal megis ffisiotherapi anadlol. Gall gynnwys gofal personol dwys megis ymolchi dyddiol a gofal ymataliaeth a/neu reoli ymddygiadau heriol.
3) Y gofalwr yw'r unig ofalwr neu'r prif ofalwr:
Rydym yn cydnabod y gall gofalu am rai pobl ei gwneud yn ofynnol i ddau berson gynorthwyo gyda thasgau fel :
- lleoli
- codi
- ymdrochi
- newid
Efallai y bydd trefniadau lle mae dau berson yn rhannu'r cyfrifoldebau gofalu'n gyfartal. Mewn achosion o'r fath, gellir ystyried y ddau ofalwr fel y prif ofalwyr.
Nid yw cymhwysedd ar gyfer blaenoriaeth yn dibynnu ar dderbyn lwfans gofalwr, aelodaeth o sefydliad gofalwyr neu fod yn hysbys i'r gwasanaethau cymdeithasol.
Y Byrddau Iechyd Lleol, gan weithio gyda'u priod Gyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol, sy'n gyfrifol yn y pen draw am nodi gofalwyr di-dâl. Cydnabyddir yr angen am ddisgresiwn, ond dylid cyflawni'r disgresiwn hwnnw o fewn y ffiniau a nodir yn y canllawiau hyn.