Julie James AS, Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol
Yn dilyn y cyhoeddiad heddiw am Gyllideb Derfynol Llywodraeth Cymru, rwy'n cyhoeddi manylion y dyraniadau cyllid craidd i awdurdodau unedol ar gyfer y flwyddyn ariannol sydd i ddod drwy’r Setliadau Refeniw a Chyfalaf Terfynol ar gyfer Llywodraeth Leol yn 2021-22 (y Setliad).
Wrth baratoi'r Setliad terfynol, rwyf wedi ystyried yn ofalus yr ymatebion a gefais i'r ymgynghoriad ar y setliad dros dro, a ddaeth i ben ar 9 Chwefror. Ni nodwyd yn yr ymatebion i’r ymgynghoriad unrhyw faterion y dylid newid y dull gweithredu a ddefnyddir mewn perthynas â hwy ar gyfer y Setliad terfynol. Ar gyfer 2021-22 bydd awdurdodau lleol yn cael £4.65 biliwn gan Lywodraeth Cymru mewn cyllid refeniw craidd ac ardrethi annomestig i'w wario ar ddarparu gwasanaethau allweddol. Ar ôl addasu ar gyfer trosglwyddiadau, bydd cynnydd o 3.8% yn y cyllid refeniw craidd, ar sail tebyg am debyg o'i gymharu â 2020-21, ar gyfer llywodraeth leol yn 2021-22.
Yn ogystal â hyn, rwy'n cyhoeddi gwybodaeth am grantiau refeniw a chyfalaf a gynlluniwyd ar gyfer 2021-22. Mae'r rhain yn dod i fwy na £1 biliwn ar gyfer refeniw a mwy na £760 miliwn ar gyfer cyfalaf, gyda grantiau pellach i gefnogi awdurdodau lleol drwy'r pwysau a wynebir yn sgil pandemig y coronafeirws. Rydym yn darparu'r lefelau hyn o grant i alluogi awdurdodau lleol i gynllunio eu cyllidebau'n effeithlon.
Rwyf wedi dyrannu'r holl gyllid sydd ar gael i'r setliad dros dro i roi cymaint o sicrwydd cynnar ag y gallwn i’r awdurdodau. Nid oes unrhyw gyllid pellach ar gael gennyf ar hyn o bryd. Nid wyf felly'n pennu lefel cyllid gwaelodol oherwydd byddai gwneud hynny yn galw am ailddosbarthu cyllid.
Fel y nodwyd yn y gyllideb heddiw, iechyd a gwasanaethau llywodraeth leol sy’n cael blaenoriaeth gan Lywodraeth Cymru o hyd wrth ddarparu cyllid. Nid oes unrhyw amheuaeth bod hwn yn Setliad da i lywodraeth leol. Fodd bynnag, rwy’n ymwybodol nad yw hwn, yr ail setliad da mewn dwy flynedd, yn gwneud yn iawn am 10 mlynedd o agenda Llywodraeth y DU o gyni cyllidol.
Rwy'n gwybod bod llywodraeth leol wedi bod yn wynebu pwysau sylweddol, yn sgil y pandemig COVID-19 yn arbennig. Fel rhan o'r gyllideb, cyhoeddodd y Gweinidog Cyllid ein bod wedi ymestyn y Gronfa Galedi Llywodraeth Leol am 6 mis, gyda £206m i gefnogi cynghorau gyda chostau ychwanegol parhaus ac incwm a gollwyd oherwydd y pandemig.
Wrth bennu'r Setliad cyffredinol ar y lefel hon mae'r Llywodraeth wedi ymateb i effaith negyddol y pandemig ar gasglu ardrethi annomestig a rhewi’r lluosydd ardrethi annomestig drwy gynyddu’r elfen grant cynnal refeniw o'r Setliad er mwyn digolledu am hyn.
Ynghlwm wrth y datganiad hwn mae tabl cryno sy'n nodi dyraniadau’r Setliad fesul awdurdod. Mae'r dyraniadau yn deillio o'r fformiwla a ddatblygwyd ac y cytunwyd arni mewn partneriaeth â llywodraeth leol. O ganlyniad i'r fformiwla a’r data cysylltiedig, mae'r tabl yn dangos ystod y dyraniadau cyllid, o gynnydd o 2.0% dros setliad 2020-21 i gynnydd o 5.6%.
Bydd y cyllid cyfalaf cyffredinol ar gyfer 2021-22 yn cael ei bennu yn £198 miliwn. Mae hyn yn cynnwys £20 miliwn ar gyfer y grant adnewyddu priffyrdd cyhoeddus a pharhad o £35m ychwanegol y darperir ar ei gyfer yn y gyllideb ar gyfer 2020-2021. Bydd hyn yn helpu awdurdodau i barhau i ymateb i'r blaenoriaethau a rennir gennym o ddatgarboneiddio, yr argyfwng hinsawdd a’r adferiad economaidd yn dilyn COVID-19.
Rwy’n gwybod y bydd awdurdodau eisoes wedi gwneud dewisiadau anodd wrth bennu eu cyllidebau. Cyfrifoldeb pob awdurdod lleol yw pennu cyllidebau, a’r dreth gyngor yn ei thro. Bydd angen i awdurdodau lleol ystyried yr amrediad llawn o ffynonellau cyllid sydd ar gael iddynt, yn ogystal â'r pwysau sy’n eu hwynebu, wrth bennu eu cyllidebau ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod.
Mae dadl ar y cynnig i'r Senedd gymeradwyo Adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol (Rhif 1) 2021-22 wedi cael ei threfnu i’w chynnal ar 9 Mawrth 2021.