Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Hoffwn roi gwybod i'r Aelodau am ein cynlluniau ar gyfer profion cymunedol wedi'u targedu ar gyfer pobl asymptomatig yng Nghymru.
Ar ôl cyhoeddi ein strategaeth brofi ddiwygiedig a’r fframwaith profi cymunedol, bydd profion cymunedol wedi'u targedu yn dechrau mewn rhannau o Ben-y-bont ar Ogwr, Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf o ddechrau mis Mawrth o dan ein blaenoriaeth ‘Profi i Ddarganfod’.
Gwyddom nad oes gan hyd at draean o’r unigolion sy’n profi’n bositif am y coronafeirws unrhyw symptomau o gwbl, ac felly gallant ledaenu’r feirws heb yn wybod iddynt. Mae’r dull ‘Profi i Ddarganfod’ yn ein strategaeth brofi yn cydnabod y ffaith fod darganfod achosion o COVID-19 yn y gymuned a’u hynysu yn helpu i leihau trosglwyddiad yr haint, olrhain cysylltiadau, diogelu unigolion agored i niwed ac arafu neu atal lledaeniad y clefyd.
Ein nod wrth gyflwyno profion cymunedol wedi'u targedu yw:
- darparu dull a arweinir yn lleol sy’n seiliedig ar risg i iechyd y cyhoedd gan ddefnyddio dealltwriaeth a gwybodaeth leol i leihau lledaeniad y feirws;
- darparu gallu ychwanegol i brofi unigolion asymptomatig mewn cymunedau;
- dileu’r rhwystrau ac annog pobl i gael prawf a hunanynysu;
- nodi achosion gweithredol ymhlith unigolion nad oes ganddynt unrhyw symptomau ac nad ydynt yn ymwybodol eu bod o bosibl yn heintio pobl eraill;
- gwella goruchwyliaeth leol yn y gymuned er mwyn cefnogi camau gweithredu pellach gan bartneriaid;
- rhoi sicrwydd a chymorth ychwanegol i gymunedau pan fydd y cyfyngiadau’n dechrau cael eu llacio.
Yn unol â’r cynigion y cytunwyd arnynt, bydd y profion cymunedol yn cael eu cyflwyno drwy bartneriaethau cydweithredol rhwng Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a Chynghorau Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf. Mae’r holl bartneriaid dan sylw wedi dangos agwedd bositif iawn ynghyd â menter a chreadigrwydd wrth ddatblygu atebion ar gyfer cyflawni’r rhaglen ar sail asesiad lleol o’r risg a’r angen. Ym mhob un o’r tri awdurdod lleol, bydd y profion yn cael eu targedu at gymunedau lle mae lefelau heintio uchel yn gyson.
Bydd y rhaglen profi cymunedol yn defnyddio dyfeisiau llif unffordd (LFD). Bydd pawb sy'n mynychu yn cael prawf gan ddefnyddio'r dyfeisiau, sy'n gallu dangos canlyniad o fewn tua 20-30 munud. Os bydd unigolyn yn cael canlyniad positif drwy brawf llif unffordd, gofynnir iddo ddychwelyd adref a hunanynysu ar unwaith a gwneir trefniadau ar gyfer prawf PCR dilynol.
Er mai mewn tri awdurdod lleol y bydd profion cymunedol ar gael i ddechrau, mae trafodaethau pellach yn cael ei cynnal gyda phartneriaid yn y Gogledd a gallai’r rhaglen gael ei chyflwyno’n ehangach ar sail yr amgylchiadau a’r anghenion lleol a nodir.