Vaughan Gething AS, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Mae profion yn parhau i chwarae rhan bwysig yn ein dull gweithredu cyffredinol i atal trosglwyddiad COVID-19 ledled Cymru ochr yn ochr â mesurau eraill, gan gynnwys effaith brechlynnau diogel ac effeithiol. Hoffwn fanteisio ar y cyfle i roi gwybod i’r Aelodau am ein cynlluniau o dan y flaenoriaeth ‘Profi i Gynnal’ yn ein Strategaeth Brofi ddiwygiedig i gefnogi profion yn y gweithle.
Mae profi staff yn rheolaidd yn y gweithle yn cynyddu lefel y wyliadwriaeth er mwyn canfod achosion asymptomatig yn gynt. Mae profion yn gallu cefnogi mesurau hanfodol eraill (fel cadw pellter cymdeithasol) i helpu i leihau lledaeniad y feirws a chynnal gwasanaethau. Rydym wedi dechrau cyflwyno profion rheolaidd ymysg y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol a staff sy’n gweithio gyda phobl sy’n fwy agored i niwed gan gynnwys lleoliadau megis ysgolion arbennig. Mae hyn yn golygu bod tua 160,000 o staff yn cael mynediad at brofion llif unffordd ddwywaith yr wythnos. Rydym hefyd, o dan ein blaenoriaeth 'Profi i Gynnal', yn ymestyn profion llif unffordd i staff sy'n gweithio mewn lleoliadau gofal plant, ysgolion ac addysg bellach yn ogystal ag addysg uwch. Mae hyn yn golygu bod 95,000 o staff eraill yn gallu cael profion rheolaidd.
Rydym hefyd yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i ymestyn profion yn y gweithle i sefydliadau cyhoeddus a phreifat eraill sydd â dros 50 o weithwyr drwy eu galluogi i sefydlu safleoedd profi yn y gweithle a darparu mwy o brofion i’r gweithlu.
Heddiw, rwyf yn cyhoeddi fframwaith profion yn y gweithle sy’n nodi’r meini prawf a’r cymorth sydd ar gael. Mae’r fframwaith hefyd yn nodi’r rheolau sylfaenol rydym wedi’u llunio gyda’n Fforwm Iechyd a Diogelwch Cenedlaethol ac rwy’n ddiolchgar am eu mewnbwn. Mae’n hanfodol bod profion yn cael eu defnyddio’n gyfrifol a bod swyddogion iechyd y cyhoedd, undebau llafur a gweithwyr yn cael eu cynnwys yn llawn yn y broses o gyflwyno profion yn y gweithle.
Mae’r fframwaith yn canolbwyntio ar brofi gweithwyr yn rheolaidd i ganfod ac ynysu achosion positif yn gyflym, sydd fel arfer yn cynnwys profi’r gweithlu unwaith neu ddwywaith yr wythnos, a hynny mewn gweithleoedd lle mae’r canlynol yn berthnasol:
- gweithwyr yn dod i fwy o gysylltiad â risg;
- gweithwyr yn gweithio’n agos at bobl eraill;
- dros 50 o weithwyr nad ydynt yn gallu gweithio gartref;
- gweithwyr yn darparu a chynnal gwasanaethau allweddol ar gyfer y cyhoedd.
Rydym yn dal i werthuso ac adolygu’r cynlluniau peilot yn TATA a Heddlu De Cymru lle cynhaliwyd Profion Cyswllt Dyddiol (a oedd yn arfer cael eu galw’n brofion cyfresol). Mae hyn yn golygu profi pobl sydd wedi dod i gyswllt ag achosion positif bob dydd am 7 diwrnod yn lle hunanynysu. Ar ôl i ni gwblhau’r adolygiadau hyn, cael rhagor o ganfyddiadau yn sgil gwerthuso’r cynlluniau peilot sy’n weithredol yn Lloegr, byddwn yn ystyried ein safbwynt o ran cytuno ar ragor o gynlluniau yng Nghymru. Yn y cyfamser, rwyf wedi cytuno y dylai trigolion Cymru sy’n croesi’r ffin ar gyfer gwaith ac yn mynd i sefydliad yn Lloegr lle cynigir profion cyswllt dyddiol allu cymryd rhan mewn unrhyw gynlluniau peilot y cytunwyd arnynt. Bydd hyn yn golygu ein bod yn cymryd mwy o ran yn y broses werthuso ar gyfer y cynlluniau peilot hyn, gan gynnwys materion trawsffiniol.
Rwyf hefyd yn ymwybodol bod cyflogwyr wedi cyflwyno eu rhaglenni profi mewnol eu hunain y tu allan i gynlluniau’r Rhaglen Brofi a gefnogir gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru. Er mai penderfyniad gwirfoddol gan gyflogwyr yw cynnal rhaglenni profi ar gyfer eu staff, mae’n hanfodol bod cyflogwyr yn sicrhau bod y pecyn profi y maent hwy neu eu darparwr yn ei gaffael yn gyfreithlon yn y DU, naill ai drwy fod â'r nod CE neu eithriad.
Mae pecynnau profi yn y DU yn cael eu rheoleiddio gan yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd, sy’n gyfrifol am weinyddu a gorfodi’r gyfraith ar ddyfeisiau meddygol yn y DU. Mae ganddi ystod o bwerau ymchwilio a gorfodi i sicrhau eu diogelwch a’u hansawdd. Er mwyn i wasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu y GIG allu olrhain cysylltiadau, gofynnir i unrhyw un sydd â symptomau covid-19 a/neu sydd wedi cael canlyniad positif i brawf llif unffordd fel rhan o raglen brofi fewnol drefnu prawf yma https://llyw.cymru/cael-prawf-coronafeirws-covid-19 a bydd angen iddynt hunanynysu. Rwyf wedi gofyn i swyddogion ddatblygu canllawiau ymhellach ac ystyried a oes angen newid rheoliadau mewn perthynas ag adrodd ar brofion preifat, yn enwedig yng nghyd-destun datblygu technoleg a phrofion newydd.
Mae’r fframwaith ar gael yma https://llyw.cymru/fframwaith-profi-covid-19-yn-y-gweithle
a gall sefydliadau cyhoeddus preifat sy’n awyddus i gynnal profion yn y gweithle gysylltu â ni yn: Covid19.WorkplaceTesting@gov.wales