Anelu’n Uchel Blaenau Gwent a Merthyr Tudful
Enillydd
Mae Prentisiaethau Uwch wedi helpu Rhyanne Rowlands i ddatblygu o fod yn wirfoddolwraig i fod yn swyddog llawn amser gyda Chymorth i Fenywod RhCT, gan arwain prosiectau llwyddiannus i gefnogi rhai sydd wedi dioddef cam-drin domestig.
Roedd Rhyanne, 38, o Aberdâr, wedi dioddef cam-drin domestig ei hunan yn y gorffennol ac, ar ôl dechrau gwirfoddoli gyda Chymorth i Fenywod yn 2016, erbyn hyn hi yw swyddog datblygu Safer Rhondda.
I ddechrau, dewisodd Rhyanne wneud prentisiaeth gyda’r darparwr dysgu, Educ8, er mwyn cael mwy o wybodaeth a hunanhyder.
Erbyn hyn, mae wedi cwblhau Prentisiaethau Uwch Lefel 4 mewn Cyngor ac Arweiniad yn ogystal ag Arweinyddiaeth a Rheolaeth ac mae wedi cymhwyso fel arbenigwraig mewn cam-drin domestig a symud ymlaen i Arweinyddiaeth a Rheolaeth ar Lefel 5.
Rhyanne oedd yn gyfrifol am sefydlu a rhedeg prosiect Athena i helpu menywod dros 50 oed. Enillodd y prosiect wobr Tlws Crisial Cwm Taf yn 2018.