Andrew Scott Ltd
Rownd derfynol
Mae cwmni Andrew Scott Ltd, a oedd yn dathlu ei ben blwydd yn 150 oed yn 2020, yn dal i fuddsoddi yn y genhedlaeth nesaf o weithwyr medrus.
Dechreuodd nifer o’r uwch-reolwyr presennol eu gyrfa fel prentisiaid gyda’r cwmni – y cwmni adeiladu hynaf yng Nghymru sy’n dal i fynd ac un sy’n benderfynol o wneud y defnydd gorau o’r ‘bunt Gymreig’ trwy recriwtio prentisiaid lleol a’u hyfforddi ar gyfer gyrfaoedd maith.
Yn ogystal â Rhaglen Brentisiaethau uniongyrchol y cwmni o Fargam, mae Andrew Scott Ltd yn defnyddio Cynllun Rhannu Prentisiaethau Cyfle ac mae wedi cefnogi dros 50 o bobl trwy’r cynllun. Mae CITB Cymru yn lleoli prentisiaid ar gyrsiau Gosod Brics, Gwaith Saer a Gweithredydd Adeiladu Peirianneg Sifil yng Ngholeg Sir Gâr a Choleg Castell-nedd Port Talbot.
Cynhelir cyfarfodydd rheolaidd gyda’r darparwyr hyfforddiant i gadw golwg ar ddatblygiad y prentisiaid ac i benderfynu ar brentisiaethau newydd ac i rannu ymateb adeiladol am ansawdd yr hyfforddiant a roddir.