Natalie Morgan
Enillydd
Ar ôl bod yn gweithio yn sector y celfyddydau perffornio yn Llundain am sawl blwyddyn, daeth Natalie Morgan yn ôl i Gymru i ddilyn gyrfa ym maes chwaraeon, ac fe gafodd swydd gyda Gymnasteg Cymru.
Aeth ymlaen i gwblhau Prentisiaeth Uwch (Lefel 4) mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth gyda Portal Training o Gaerdydd ac yn awr mae wedi symud ymlaen i Lefel 5.
Diolch i’r sgiliau a ddysgodd yn ystod ei phrentisiaeth, roedd modd i Natalie, 33, o Benarth, arwain prosiect llwyddiannus i gael merched ifanc a menywod o gymunedau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig yng Nghaerdydd i gymryd rhan mewn gymnasteg.
Lansiwyd y clwb gymnasteg gydag 11 o ferched, ond tyfodd i dros 130, gyda chynnydd o 98% yn nifer yr aelodau mewn dim ond 18 mis.
Dywedodd Carys Kizito, rheolwr cydymffurfio gyda Gymnasteg Cymru:
“Mae Natalie wedi defnyddio ei hangerdd a’i hymroddiad i ddysgu er mwyn rhoi cyfleoedd da i bobl eraill.”