Jamie Hopkins
Rownd derfynol
![Jamie Hopkins](/sites/default/files/campaign-case-studies/2021-02/Jamie%20Hopkins%20960%20x%20640.jpg)
Cafodd Jamie Hopkins ei fwlio’n ddrwg yn yr ysgol a gadawodd heb gymwysterau. Cymerodd bedair blynedd iddo ailddarganfod ei gariad at ddysgu, a hynny diolch i hyfforddeiaeth gydag Itec.
Dywed Jamie, 20, o Beachley, ger Cas-gwent, mai’r gefnogaeth un-i-un a gafodd gan oruchwyliwr y gweithdy, John Smith yng Nghanolfan Itec, Casnewydd a newidiodd ei fywyd. Yno, cwblhaodd Hyfforddeiaeth Lefel 1 mewn Sgiliau Cyflogadwyedd.
Mae Jamie, sy’n gobeithio cael prentisiaeth gyda busnes lleol a gyrfa’n gwneud gwaith saer cywrain, yn gweithio tuag at Ddiploma Lefel 1 Gwaith Coed yng Ngholeg Gwent, Casnewydd.
Dywedodd John fod Jamie’n “ddysgwr ardderchog gyda dyfodol disglair o’i flaen.”