Canllawiau ynglŷn â chymhwyso Treth Trafodiadau Tir mewn perthynas ag rhyddhad i elusennau.
Cynnwys
Rhowch adborth i ni ar y canllawiau hyn
Er mwyn ein helpu i wella'r canllawiau hyn, rhowch adborth i ni (mae’n cymryd 30 eiliad).
DTTT/7080 Rhyddhad i elusennau
(atodlen 18)
Mae rhyddhad rhag y Dreth Trafodiadau Tir ar gael pan fydd elusen gymwys, neu ymddiriedolaeth elusennol, yn prynu buddiant mewn tir, yn ddarostyngedig i amodau penodol. Mae rhyddhad elusennau rhannol ar gael hefyd pan fydd elusen gymwys yn prynu eiddo gyda pherson nad yw’n elusen.
Mae rheolau ar gael hefyd sy’n darparu ar gyfer tynnu’r rhyddhad elusennau’n ôl. Bydd hyn yn digwydd os bydd yr elusen gymwys, o fewn tair blynedd i'r trafodiad, yn rhoi’r gorau i fod yn elusen gymwys neu’n defnyddio’r eiddo at ddibenion nad ydynt yn rhai elusennol. Mae’r un rheolau ac amodau sy’n ymwneud â thynnu’r rhyddhad yn ôl yn berthnasol i ymddiriedolaethau elusennol. Bydd y rhyddhad yn cael ei dynnu’n ôl dim ond os yw’r elusen gymwys, neu’r ymddiriedolaeth elusennol, yn dal yn berchen ar y tir adeg y digwyddiad datgymhwyso. Ond, os bydd elusen gymwys neu ymddiriedolaeth elusennol yn cael gwared â thir, sydd wedi bod yn destun cais am ryddhad, o fewn tair blynedd, does dim rhyddhad i'w gael yn ôl.
Mae rhyddhad rhannol ar gael i elusennau ac ymddiriedolaethau elusennol pan nad yw’r amodau ar gyfer hawlio rhyddhad llawn wedi’u diwallu, er enghraifft pan nad yw'r eiddo’n cael ei ddefnyddio at ddibenion elusennol yn llwyr neu lle mae’r prynwyr yn cynnwys elusennau cymwys ac unigolyn nad yw’n elusen.
DTTT/7081 Termau allweddol
(paragraff 2)
Mae 'elusen’ at ddibenion y Dreth Trafodiadau Tir yn defnyddio diffiniadau'r DU a ddarperir yn Rhan 1 o Atodlen 6 i Ddeddf Cyllid 2010. Yn gyffredinol, mae elusen yn un sy’n:
- wedi’i sefydlu a’i chydnabod yn elusen yng Nghymru, Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon
- wedi’i sefydlu a’i chydnabod yn elusen yn un o aelod-wladwriaethau'r Undeb Ewropeaidd, neu
- wedi’i sefydlu a’i chydnabod yn elusen yn Norwy, Gwlad yr Iâ neu Liechtenstein
Mae rhai elusennau, gan gynnwys eglwysi, prifysgolion a cholegau, naill ai ddim yn gallu cofrestru, neu ddim yn gorfod cofrestru, gyda'r Comisiynwyr Elusennau yng Nghymru a Lloegr. Ond, maent yn dal yn elusennau.
Mae 'digwyddiad datgymhwyso’ yn digwydd pan fo elusen, a oedd yn brynwr mewn trafodiad tir a oedd yn destun cais am ryddhad elusennau, yn peidio â bod yn sefydledig at ddibenion elusennol neu bod holl destun neu unrhyw ran o destun y trafodiad neu unrhyw fuddiant sy’n deillio ohono, yn peidio â chael ei ddefnyddio neu ei ddal at ddibenion nad ydynt yn ddibenion elusennol cymwys.
“Elusen gymwys’ yw elusen sy’n bwriadu dal holl destun y trafodiad at ddibenion elusennol cymwys a’r elusen yw’r unig brynwr. Mae elusen yn elusen gymwys hefyd os yw’n un o sawl prynwr, un neu fwy ohonynt heb fod yn elusen, os yw’r elusen yn bwriadu dal ei holl fuddiant yn yr eiddo at ddibenion elusennol cymwys. Pan nad yw elusen yn bwriadu dal holl destun y trafodiad neu ei gyfran lawn yn y testun at ddibenion elusennol, efallai y gall yr elusen hawlio rhyddhad elusennau rhannol. Yn yr achosion hyn, mae’r ddeddfwriaeth yn cyfeirio at yr elusen fel ‘elusen nad yw’n elusen gymwys’.
Mae ‘diben elusennol cymwys’ yn un sy’n:
- hyrwyddo diben yr elusen (neu elusen arall) neu
- yn fuddsoddiad y mae ei elw neu ei enillion yn cael eu defnyddio at ddibenion elusennol yr elusen
Diffinnir diben elusennol yn adran 2 Deddf Elusennau 2011.
DTTT/7082 Rhyddhad i elusennau
(paragraff 3)
Mae rhyddhad rhag y Dreth Trafodiadau Tir ar gael i brynwr sy'n elusen gymwys neu ymddiriedolaeth elusennol. Os bydd mwy nag un elusen gymwys yn prynu neu gaffael eiddo ar y cyd, bydd rhyddhad elusennau yn dal ar gael ar y pryniant. Wrth lenwi'r ffurflen dreth, dylid defnyddio cod 002 pan hawlir y rhyddhad llawn (yr holl gydnabyddiaeth a roddir wedi’i rhyddhau rhag treth) a chod 052 pan hawlir rhyddhad rhannol.
DTTT/7083 Amgylchiadau pan gaiff rhyddhad ei dynnu’n ôl
(paragraff 4)
Os cyn pen tair blynedd o’r trafodiad y cafodd rhyddhad i elusennau ei hawlio ar ei gyfer (y trafodiad a ryddheir), y bydd digwyddiad sy’n anghymwyso’n digwydd, yna bydd y rhyddhad, neu gyfran priodol ohono, yn cael ei dynnu’n ôl. Mae’r un peth yn wir os bydd digwyddiad sy’n anghymwyso’n digwydd yn nes ymlaen ond yn unol â threfniadau a wneir cyn diwedd y cyfnod hwnnw, neu mewn cysylltiad â nhw.
Rhaid i’r elusen gymwys ddal y buddiant trethadwy adeg y digwyddiad datgymhwyso, neu fuddiant sy’n deillio ohono, er mwyn i'r rhyddhad gael ei dynnu’n ôl. Felly, os oedd yr elusen yn dal y buddiant trethadwy at ddibenion elusennol cymwys, mae hyn yn sicrhau na fydd gwerthu’r eiddo hwnnw o fewn tair blynedd i'w gaffael yn arwain at dynnu'r rhyddhad yn ôl.
Pan fydd yr amodau ar gyfer tynnu’r rhyddhad yn ôl yn cael eu bodloni, yna mae’r rhyddhad a gafodd ei roi, neu gyfran briodol o'r rhyddhad, yn cael ei dynnu’n ôl ac mae treth trafodiadau tir i’w thalu. Bydd angen i drethdalwr gyflwyno ffurflen dreth arall i dalu’r dreth trafodiad tir sy’n ddyledus.
Y swm sydd i'w godi yw'r dreth trafodiadau tir a fyddai wedi’i godi parthed y trafodiad a ryddheir pe na fyddai rhyddhad elusennau wedi cael ei hawlio neu, yn ôl y digwydd, gyfran briodol o'r dreth trafodiadau tir honno.
Cyfrifir cyfran briodol gan roi sylw i:
- beth a brynwyd yn y trafodiad sydd wedi’i ryddhau ac sy’n cael ei ddal o hyd gan yr elusen gymwys at ddibenion elusennol, a
- beth sy’n cael ei ddefnyddio neu’n cael ei ddal at ddibenion nad ydynt yn bodloni amodau dibenion elusennol cymwys
DTTT/7084 Elusen sy’n elusen gymwys: yr elusen i ddal y rhan fwyaf o’r tir at ddibenion elusennol
(paragraff 5)
Pan na all elusen neu ymddiriedolaeth elusennol hawlio rhyddhad ar drafodiad tir:
- oherwydd nad yw’n bwriadu dal yr holl dir at ddibenion elusennol cymwys
- ond yn bwriadu dal y rhan fwyaf o’r tir at y cyfryw ddibenion
yna gellir cael rhyddhad ar y trafodiad cyfan. Mae rhyddhad yn cael ei ddarparu yn yr amgylchiadau hyn gan fod yr elusen yn cael ei thrin fel petai’n elusen gymwys.
Mae'r rhan fwyaf yn golygu mwy na 50% o werth ariannol yr eiddo a brynwyd yn y trafodiad. Caiff hyn ei brisio ar sail gyfiawn a rhesymol.
Os bydd yr elusen yn cael gwared â’r rhan honno o'r tir neu’n dal rhan ohono i’w ddefnyddio at rywbeth heblaw dibenion elusennol cymwys, bydd cyfran berthnasol o’r rhyddhad yn cael ei thynnu’n ôl a bydd yn rhaid i'r elusen gyflwyno ffurflen dreth bellach cyn pen 30 diwrnod ar ôl y dyddiad gwaredu neu’r pwynt y caiff y tir ei ddal at ddefnydd ar wahân i’r diben elusennol cymwys.
Mae hyn yn sicrhau bod y rhyddhad sy’n cael ei roi yn gymesur â'r gyfran o’r tir sy’n cael ei chadw a’i dal gan yr elusen i hyrwyddo’i nodau elusennol.
Felly, mae ystyr digwyddiad datgymhwyso yn yr amgylchiadau hyn yn cynnwys unrhyw drosglwyddiad gan yr elusen
- o brif fuddiant yn holl destun y trafodiad a ryddheir neu unrhyw ran ohono, neu
- unrhyw les a roddir am bremiwm gan yr elusen a rhent o lai na £1,000 y flwyddyn am yr holl destun hwnnw neu unrhyw ran ohono
Yn y ddau achos, dyddiad y digwyddiad datgymhwyso yw dyddiad y mae’r trafodiad a ryddheir yn cael effaith.
DTTT/7085 Pryniant ar y cyd gan elusen gymwys a pherson arall; rhyddhad rhannol
(paragraff 6)
Pan fo:
- dau brynwr neu ragor mewn trafodiad tir
- testun y trafodiad hwnnw i’w ddal fel tenant ar y cyd, ac
- un o’r prynwyr yn elusen gymwys ac un o’r prynwyr yn berson nad yw’n elusen gymwys
mae ceisiadau am ryddhad rhannol ar y pryniant hwnnw’n bosibl.
Mae'r dreth trafodiadau tir a fyddai fel arall yn cael ei chodi ar y trafodiad tir yn cael ei lleihau yn unol â chyfran berthnasol y swm hwnnw. Y gyfran berthnasol, mewn perthynas ag elusen gymwys, yw’r isaf o’r rhain:
- y gyfran o destun y trafodiad tir a gaffaelir gan yr holl elusennau cymwys sy’n brynwyr o dan y trafodiad. Gelwir hwn yn C1, a
- y gyfran o’r gydnabyddiaeth drethadwy a roddir gan yr elusennau cymwys o dan y trafodiad. Gelwir hwn yn C2
DTTT/7086 Tynnu rhyddhad rhannol elusennau yn ôl
(paragraff 7)
Os bydd trafodiad tir sydd wedi’i ryddhau dan reolau rhyddhad elusennau rhannol yn dod yn destun digwyddiad datgymhwyso mewn perthynas â'r elusen gymwys, yna bydd y rhyddhad, neu gyfran briodol ohono, yn cael ei dynnu’n ôl a bydd angen talu treth.
Rhaid i’r digwyddiad datgymhwyso ddigwydd o fewn tair blynedd i'r trafodiad sydd wedi’i ryddhau, hynny yw, y trafodiad yr hawliwyd rhyddhad elusennau rhannol arno, neu yn unol â threfniadau a wneir o fewn y cyfnod tair blynedd hwnnw, neu mewn cysylltiad â hwy, bydd y rhyddhad rhannol, neu gyfran briodol ohono, yn cael ei dynnu’n ôl.
Rhaid i’r elusen gymwys ddal y buddiant trethadwy adeg y digwyddiad datgymhwyso, neu fuddiant sy’n deillio ohono, er mwyn i'r rhyddhad gael ei dynnu’n ôl. Felly, os oedd yr elusen yn dal y buddiant trethadwy at ddibenion elusennol cymwys, mae hyn yn sicrhau na fydd gwerthu’r eiddo hwnnw o fewn tair blynedd i'w gaffael yn arwain at dynnu'r rhyddhad yn ôl.
Mewn trafodiadau gyda dim ond un elusen gymwys yn gysylltiedig â'r trafodiad, bydd digwyddiad datgymhwyso’n golygu y bydd yr holl ryddhad rhannol yn cael ei dynnu’n ôl.
Ond, pan fo mwy nag un elusen gymwys yn prynu'r eiddo, bydd y gyfran o’r rhyddhad i'w dynnu’n ôl yn dibynnu ar ba gyfran, C1 neu C2, a ddefnyddiwyd i gyfrifo maint y rhyddhad rhannol adeg prynu’r eiddo. Y fformiwla ar gyfer cyfrifo’r rhyddhad i’w dynnu’n ôl yw un ai:
c1 ÷ C1 x maint y rhyddhad rhannol a hawliwyd
neu
c2 ÷ C2 x maint y rhyddhad rhannol a hawliwyd
Yn yr achos cyntaf, mae c1 yn cynrychioli cyfran testun y trafodiad a brynwyd gan yr elusen sydd wedi sbarduno’r digwyddiad datgymhwyso ac mae C1 yn cynrychioli cyfran testun y trafodiad a brynwyd gan yr holl elusennau cymwys.
Yn yr ail achos, c2 yw cyfran y gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad a roddwyd gan yr elusen a sbardunodd y digwyddiad datgymhwyso ac mae C2 yn cynrychioli cyfran y gydnabyddiaeth drethadwy a roddwyd gan yr holl elusennau cymwys.
DTTT/7087 Pryniant ar y cyd gan elusen nad yw’n elusen gymwys: yr elusen i ddal y rhan fwyaf o’r tir at ddibenion elusennol
(paragraff 8)
Hefyd, gellir hawlio rhyddhad rhannol pan fydd yr elusen a’r bobl nad ydynt yn elusennau’n prynu eiddo gyda’i gilydd ond nid yw'r elusen yn bwriadu defnyddio ei holl fuddiant yn yr eiddo (ond yn bwriadu defnyddio'r mwyafrif ohono) ar gyfer ei ddibenion elusennol cymwys. Pan fo:
- dau neu ragor o brynwyr mewn trafodiad tir sy’n prynu testun y trafodiad hwnnw fel tenant ar y cyd
- pan nad yw’r elusen yn elusen gymwys
- byddai'r elusen, petai’n elusen gymwys, yn gallu hawlio rhyddhad elusennau rhannol dan y rheolau ar gyfer y pryniant ar y cyd gan yr elusen gymwys a pherson arall, a
- nid yw'r elusen yn bwriadu dal y rhan fwyaf at ddibenion elusennol cymwys
Mae’r elusen i’w thrin fel petai’n elusen gymwys a bydd y rheolau sy’n ymwneud â rhyddhad rhannol pan fydd elusen gymwys a pherson arall yn prynu ar y cyd, gan gynnwys tynnu rhyddhad yn ôl, yn berthnasol. Ond, bydd digwyddiad datgymhwyso hefyd yn cynnwys y canlynol, os nad yw’n hybu dibenion elusennol yr elusen:
- unrhyw drosglwyddiad gan yr elusen o brif fuddiant yn holl destun y trafodiadau a ryddheir neu unrhyw ran ohono, neu
- unrhyw les a roddir am bremiwm gan yr elusen a rhent o lai na £1,000 y flwyddyn am yr holl destun hwnnw neu unrhyw ran ohono
DTTT/7088 Rhoi rhyddhad elusennau i ymddiriedolaethau elusennol
(paragraff 9)
Mae rhyddhad a rhyddhad rhannol rhag y dreth trafodiadau tir ar gael i ymddiriedolaethau elusennol pan fydd buddiant trethadwy yn cael ei gaffael. Yn yr un modd, mae rheolau tynnu rhyddhad yn ôl hefyd yn berthnasol i ymddiriedolaethau elusennol.
Mewn ymddiriedolaeth elusennol mae holl fuddiolwyr yr ymddiriedolaeth yn elusennau neu mae holl ddeiliaid unedau ymddiriedolaeth unedau yn elusennau.
Mae'r rheolau sy’n berthnasol i elusennau cymwys yn berthnasol i ymddiriedolaethau elusennol fel bo:
- cyfeiriadau at y dibenion elusennol cymwys neu ddibenion elusennol yr elusen, mewn perthynas â’r ymddiriedolaeth elusennol, yn gyfeiriadau at ddibenion y buddiolwyr neu ddeiliaid yr unedau, ac
- mae unrhyw gyfeiriadau at ddigwyddiad datgymhwyso i gael effaith fel pe baent yn gyfeiriadau at unrhyw rai o’r buddiolwyr neu’r deiliaid unedau