Heddiw, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei bod yn rhoi £1.3m i helpu’r Urdd i ailadeiladu a dod ato’i hun ar ôl pandemig y Coronafeirws.
Yr Urdd yw un o’r cyflogwyr trydydd sector mwyaf yng Nghymru, sy’n darparu ystod eang o brofiadau a gweithgareddau cyfrwng Cymraeg i bobl ifanc o 8 i 25 oed, ac yn helpu i gyflawni amcanion ein strategaeth, Cymraeg 2050, a chefnogi rhaglenni ieuenctid, cymunedol a phrentisiaethau.
Bydd yr arian yn help i ddiogelu swyddi allweddol yn yr Urdd, gan ganiatáu i’r sefydliad gychwyn ailadeiladu a chreu cyfleoedd newydd am swyddi. Bydd dros 60 o staff ychwanegol yn cael eu cyflogi i gefnogi’u cymunedau. Mae gan yr Urdd gynlluniau i greu hyd at 300 o brentisiaethau cyfrwng Cymraeg dros y tair blynedd nesaf.
Yn ystod y pandemig bu’r Urdd, gyda nifer fechan o staff, yn parhau i ddarparu gwasanaethau i bobl ifanc, gan gynnwys gwasanaethau i bobl ifanc agored i niwed yn ei ganolfan breswyl enwog yn Llangrannog.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg, Eluned Morgan:
“Mae’r Urdd wedi bod yn allweddol yn sicrhau bod plant a phobl ifanc yn gallu cymryd rhan mewn ystod eang o weithgareddau cymdeithasol a gweithgareddau chwaraeon.
“Rydym yn gwybod bod hyn yn cyfoethogi eu bywydau, ac rydym yn gwerthfawrogi ymdrechion yr Urdd yn gwneud cyfraniad mor gadarnhaol i ddatblygiad cymdeithasol a lles ein plant a’n pobl ifanc. Mae’r Urdd wedi helpu iddynt ganfod llais.
“Bydd yr arian hwn yn help i’r Urdd ddod ato’i hun ac ailadeiladu’i ddarpariaeth. Edrychaf ymlaen at gael dathlu canmlwyddiant yr Urdd y flwyddyn nesaf wrth i ni ddathlu’r llwyddiannau a fu ac edrych ymlaen i’r can mlynedd nesaf.”