Julie James AS, Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol
Ym mis Tachwedd 2020, lansiodd Llywodraeth Cymru y cynllun taliad o £500 i gefnogi pobl y gofynnwyd iddynt hunanynysu gan y gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu. Yn dilyn ein hadolygiad diweddaraf, rwyf am roi gwybod ichi sut rydym yn ehangu ac yn ymestyn y cynllun er mwyn i fwy o bobl fod yn gymwys am y cymorth ariannol hanfodol hwn.
Ers ei lansio, rwyf eisoes wedi ymestyn y meini prawf cymhwysedd i gynnwys rhieni a gofalwyr plant y gofynnwyd iddynt hunanynysu a’r rheini y gofynnwyd iddynt hunanynysu drwy Ap COVID-19 y GIG. Mae ein hadolygiad diweddaraf wedi nodi nifer o grwpiau nad yw’r cynllun ar hyn o bryd yn eu cynnwys ac y mae angen ein cymorth arnynt. O heddiw ymlaen, rydym am ddiweddaru’r cynllun i gynnwys y rheini y gofynnwyd iddynt hunanynysu na allant weithio o gartref, ac sydd:
- yn derbyn Tâl Salwch Statudol neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth Dull Newydd neu lai; a/neu
- yn derbyn incwm personol NET o £500 neu lai.
Mae’r newidiadau hyn yn golygu y bydd 170,000 yn rhagor o bobl nawr yn gymwys i gael y taliad o £500 os gofynnir iddynt hunanynysu.
Rwyf hefyd yn cyhoeddi y byddwn yn ymestyn y cynllun tan fis Mehefin 2021, gyda’r opsiwn i’w ymestyn ymhellach tan fis Hydref 2021 yn dilyn adolygiad pellach. Er mwyn sicrhau bod pobl yn ymwybodol o’r cymorth sydd ar gael, rydym yn lansio ymgyrch gyfathrebu i’w gwneud yn glir pwy sy’n gymwys ac i godi ymwybyddiaeth ymhlith y grwpiau targed.
Byddaf yn parhau i adolygu’r cynllun yn rheolaidd er mwyn gofalu bod y rheini sydd ei angen fwyaf yn cael cymorth i hunanynysu a lleihau lefelau trosglwyddo’r feirws.