Amcangyfrifon o weithgarwch economaidd o fewn gwledydd y DU a naw rhanbarth Lloegr ar gyfer Gorffennaf i Fedi 2020.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Cynnyrch domestig gros rhanbarthol
Mae cynnyrch domestig gros (CDG) yn mesur gwerth y nwyddau a'r gwasanaethau a gynhyrchir yn y DU. Mae'n amcangyfrif maint a thwf yr economi.
Ystadegau arbrofol yw'r rhain a dylid eu trin yn ofalus. Gall y data fod yn gyfnewidiol, a dylid ystyried symudiadau chwarterol ochr yn ochr â'r duedd hirdymor.
Newid dros y tymor byrrach
- Cynyddodd CDG yng Nghymru 14.4% yn chwarter 3 (Gorfennaff i Medi) 2020 o gymharu â’r chwarter blaenorol (Ebrill i Fehefin 2020).
- Dyma’r cynnydd chwarterol mwyaf o bell ffordd, ers i’r gyfres ddechrau yn 2012, ond yr ail gynnydd lleiaf o gymharu â 12 gwlad y DU a rhanbarthau Lloegr. Daw’n dilyn y gostyngiad mwyaf o 15.2% rhwng chwarter cyntaf ag ail chwarter 2020.
- Ar gyfer y DU yn ei chyfanrwydd, cafwyd cynnydd o 16.9%.
- Y sector adeiladu welodd y cynnydd mwyaf o 30.9%. Gwelodd y sectorau gwasanaethau a chynhyrchu hefyd gynnydd o 13.3% a 14.8% yn y drefn honno.
- Amaethyddiaeth oedd yr unig is-sector i ostwng dros y chwarter yng Nghymru (i lawr 1.0%), tra bod Llety a Gwasanaethau Bwyd wedi cynyddu fwyaf (cynnydd o 302.5%).
Newid dros y tymor hwy
- Gwelodd Cymru ostyngiad o 6.0% o ran cynnyrch domestig gros o'i gymharu â'r un chwarter flwyddyn yn ôl, cyn i’r pandemig ddechrau. Gwelodd y DU gyfan ostyngiad o 7.5%.
- Dyma'r ail ostyngiad blynyddol mwyaf ers i'r gyfres ddechrau yn 2013, tu ôl ail chwarter 2020.
- Gwelodd y sector adeiladu ostyngiad o 11.7% dros y tymor hwy.
- Bu gostyngiad o 7.1% yn y sector gwasanaethau a 0.5% yn y sector cynhyrchu.
- Yr is-sector Celfyddydau, Adloniant a Hamdden a welodd y gostyngiad mwyaf (i lawr 26.9%), ond Trydan, Nwy, Stêm ac Awyr welodd y cynnydd mwyaf (cynnydd o 5.7%).
Nodyn
Fel rhan o ymrwymiad parhaus y Swyddfa Ystadegau Gwladol i wella'n barhaus y methodolegau sy'n sail i'r ystadegau, mae adolygiadau o addasiadau tymhorol wedi arwain at ddiwygio Trafnidiaeth a Storio yng Nghymru.
Cyswllt
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Rhif ffôn: 0300 025 5050
E-bost: ystadegau.economi@llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.