Ken Skates AS, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru
Yn dilyn fy Natganiad Ysgrifenedig diwethaf ym mis Chwefror 2020, roeddwn i am roi’r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau am gynnydd y prosiect hwn.
Mae llawer o’r gwaith adeiladu bellach wedi cael ei gwblhau, a’r gwaith sydd ar ôl i’w gwblhau yn gymharol fach. Rhoddwyd newid mawr i’r ffordd mae traffig yn cael ei reoli ar waith ym mis Awst 2020, gan symud yr holl draffig i fyny i'r ffordd uwch newydd ym mhen gorllewinol y cynllun, gan alluogi gwaith i ddechrau ar ailadeiladu ffordd bresennol yr A465 islaw. Ar 7 Rhagfyr 2020 ailagorwyd y ffordd ymuno tua'r gorllewin ym Mryn-mawr, a oedd wedi bod ar gau ers mis Awst 2020, gan adfer mynediad uniongyrchol ar hyd yr A465 ar gyfer traffig sy'n mynd tua'r gorllewin.
Fel y mae gyda bron pob agwedd ar fywyd, mae COVID wedi effeithio ar y rhaglen. Er hynny, mae tîm y prosiect wedi gweithio’n arbennig o galed i reoli'r safle er mwyn sicrhau diogelwch a lles eu staff, a'r cyhoedd yn ehangach, ac mae unrhyw oedi wedi bod yn gyfyngedig. Bellach y dyddiad cwblhau disgwyliedig yw hydref 2021, er bod hyn yn parhau i ddibynnu ar unrhyw oedi a achosir gan COVID yn y dyfodol.
Mae'r cynnydd mewn costau ac oediadau i’r rhaglen sy'n gysylltiedig â chwblhau’r cynllun wedi cael eu dogfennu'n dda, gan gynnwys adroddiad interim gan yr Archwilydd Cyffredinol a sesiwn ym mis Medi 2020 o flaen y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus. Bu anghydfod cytundebol rhwng Llywodraeth Cymru a Costain ers 2018 ynghylch pwy ddylai dalu cost y cynnydd hwn. Gallaf gadarnhau bod Llywodraeth Cymru bellach wedi setlo ei dadl gyda Costain. Er y bydd manylion y setliad yn parhau i fod yn gyfrinachol, at ei gilydd mae’r broses o ddatrys yr anghydfod wedi cefnogi dehongliad Llywodraeth Cymru o delerau'r contract.
Mae'r setliad terfynol gyda Costain yn caniatáu i'r tîm sicrhau eu bod yn canolbwyntio'n gyfan gwbl ar orffen y gwaith adeiladu yn y ffordd fwyaf effeithlon posibl. Mae’r amserlen ar gyfer gwneud rhagor o daliadau i Costain yn gysylltiedig â Costain yn cyrraedd cerrig milltir a nodir yn y rhaglen.
Rwy'n parhau i fod yn ddiolchgar am amynedd defnyddwyr y ffordd a'r rhai sy'n byw ac yn gweithio yn yr ardal wrth inni gwblhau'r gwaith adeiladu terfynol. Gobeithio y bydd y datganiad hwn yn rhoi sicrwydd i bawb ein bod yn gweithio i orffen y cynllun hwn cyn gynted ag y bo modd.
Wrth i'r broses o ddatrys yr anghydfod fynd rhagddi, mae Costain wedi gwneud dau ddatganiad rheoleiddiol, un ar ddiwedd 2019 ac un arall ym mis Medi 2020, i ddiweddaru’r marchnadoedd ac addasu lefel y refeniw yr oeddent yn disgwyl ei dderbyn o'r contract hwn. Deallaf fod Costain yn bwriadu rhoi diweddariad masnachu arall i gadarnhau bod yr anghydfod wedi cael ei ddatrys
Yn fy natganiad ym mis Chwefror, nodais fod fy swyddogion, ynghyd ag aelodau etholedig lleol, yn gofyn am gysyniadau ar gyfer prosiectau etifeddol posibl ar gyfer cymunedau lleol ar hyd y llwybr. Mae swyddogion wedi cwblhau'r rhestr o gysyniadau ac maent yn gweithio gyda rhanddeiliaid lleol i ddatblygu a chyflawni Prosiectau Etifeddol ystyrlon a chyraeddadwy ar yr A465, naill ai ochr yn ochr â'r gwaith adeiladu sy'n weddill neu pan fydd y gwaith adeiladu wedi'i gwblhau.
Bydd yr Aelodau hefyd yn gwybod i’r contract i gyflawni dau gam olaf y prosiect i ddeuoli'r A465 rhwng Dowlais a Hirwaun (Adrannau 5 a 6) gael ei ddyfarnu i gonsortiwm Future Valleys ym mis Hydref. Disgwylir i'r gwaith adeiladu ddechrau yng ngwanwyn 2021 a chael ei gwblhau erbyn canol 2025.
Fel yr wyf wedi dweud o'r blaen, mae adrannau 5 a 6 yn cael eu cyflawni drwy’r Model Buddsoddi Cydfuddiannol, sef contract pwrpasol sy'n sylfaenol wahanol i'r hyn sy'n cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd ar gyfer Rhan 2. O dan y model hwn, ni fydd Llywodraeth Cymru yn talu am y gwasanaeth hwn nes ei fod yn weithredol. Y darparwr gwasanaeth sy’n ysgwyddo’r rhan fwyaf o’r risgiau sy’n gysylltiedig â’r cynllun hwn, gyda chosbau yn cael eu rhoi os na fodlonir gofynion gweithredol llym. Bydd hyn yn sicrhau nad yw Llywodraeth Cymru yn agored i'r cynnydd mewn costau ac oedi i’r rhaglen a welwyd yn ystod Rhan 2.
Bydd y gwaith o adeiladu rhannau 5 a 6 yn cwblhau'r broses o ddeuoli'r A465 ac yn darparu ffordd ddeuol di-dor o Ganolbarth Lloegr a'r M4, gan gynnwys Ardal Fenter Glynebwy. Ynghyd ag agor Rhan 2, bydd cyflawni'r cynlluniau hyn yn sicrhau bod yr amrediad llawn o fanteision yn cael eu gwireddu, ac yn sicrhau bod cymdeithas ac economi ardal Blaenau'r Cymoedd yn cael eu trawsnewid mewn modd gwirioneddol. Mae hyn yn arbennig o bwysig wrth i'r rhanbarth hwn, a brofodd effeithiau mor drwm, adfer o effeithiau COVID.