Trefnodd y Prif Weinidog Mark Drakeford gynhadleddd diogelwch pyllau glo heddiw i fynd i'r afael â diogelwch ac effeithiau amgylcheddol pyllau glo segur Cymru, ar ôl i siafft ffrwydro yn Sgiwen ac achosi llifogydd trychinebus fis diwethaf.
Daeth y gynhadledd â’r Ysgrifennydd Gwladol Simon Hart, cynrychiolwyr Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, Arweinydd Castell-nedd Port Talbot, Rob Jones, yn ogystal ag Arweinydd Rhondda Cynon Taf, Andrew Morgan, yr Awdurdod Glo a Chyfoeth Naturiol Cymru at ei gilydd.
Galwodd y Prif Weinidog ar i drigolion Sgiwen fod wrth galon yr holl waith ar unwaith, gan awgrymu cynllun cyllid deng mlynedd i wneud diogelwch pyllau glo yn realiti ledled y wlad, gan edrych ar ystyried newid yn yr hinsawdd mewn unrhyw waith sydd ei angen.
Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford:
Y glo o fryniau Cymru oedd sylfaen y chwyldro diwydiannol, gan roi cychwyn i ni ar y byd modern rydyn ni'n ei adnabod heddiw. Mae’n gwbl briodol bod ein cymunedau ni a roddodd gymaint yn byw'n ddiogel ac nad ydynt yn cael eu taro'n ariannol gan waddol negyddol y pyllau glo.
Roeddwn i eisiau galw’r gynhadledd heddiw i drafod y risgiau i ddiogelwch y cyhoedd ac i gytuno, ymhlith pethau eraill, ar atebolrwydd, y broses adfer, pwysigrwydd ymgysylltu â'r gymuned sy’n cael ei heffeithio a'r cysylltiadau ehangach â'r agenda diogelwch tomenni glo ehangach. Er bod rhai cymhlethdodau i'w datrys, roedd y gynhadledd yn un gadarnhaol a chynhyrchiol, ac roedden ni i gyd yn gytûn am bwysigrwydd rhoi trigolion Sgiwen wrth galon ein cynlluniau.
Cefais fy nghalonogi o glywed yr Awdurdod Glo a Llywodraeth y DU yn cytuno ar arwyddocâd hyn, yn ogystal ag arbenigedd ac ysbryd cydweithredol y gwasanaethau brys, awdurdodau lleol a Chyfoeth Naturiol Cymru.
Roedd Sgiwen yn hwb i’n deffro ni i gyd. Cafwyd llifogydd yn gyflym iawn mewn cartrefi ac mae effaith hyn wedi dychryn y gymuned.
Rydyn ni’n gwybod y bydd newid yn yr hinsawdd yn cynyddu glawiad, ac felly'n peri risg ychwanegol y bydd digwyddiadau fel hyn yn digwydd eto. Mae arnom angen cynllun deng mlynedd i gyllido gwaith i ddiogelu pob pwll glo ledled y wlad, ac mae angen ystyried newid yn yr hinsawdd mewn unrhyw waith wrth symud ymlaen.
Byddwn yn gweithio gyda phawb cysylltiedig i wneud diogelwch pyllau glo, mwyngloddiau metel a mwyngloddiau eraill, yn ogystal â thomenni glo, yn flaenoriaeth, ac i ddod o hyd i'r llwybr cywir ymlaen ar gyfer mater sy’n bodoli ymhell cyn datganoli.
Flwyddyn i heddiw y gwelwyd tirlithriad Tylorstown yn Rhondda Cynon Taf, a achoswyd gan law trwm a llifogydd ym mis Chwefror 2020. Ers hynny, mae tair cynhadledd tomenni glo wedi cael eu trefnu ac mae'r gwaith o fapio tomenni glo ledled Cymru wedi'i gynnal, ac mae archwiliadau a gwaith cynnal a chadw’n mynd rhagddynt.