Lesley Griffiths AS, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig
Yn ystod mis Chwefror 2020, dioddefodd Cymru effeithiau digynsail yn sgil Stormydd Ciara a Dennis, a oedd yn cynnwys tirlithriad tomen lo yn Tylorstown. Mae bron blwyddyn wedi mynd heibio ers y digwyddiad a hoffwn roi’r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau’r Senedd am waith y Tasglu Diogelwch Tomenni Glo.
Mewn uwchgynhadledd yn dilyn y tirlithriad yn Tylorstown, cytunodd Prif Weinidog Cymru ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru fod diogelwch tomenni glo yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. Sefydlwyd tasglu ar y cyd i asesu statws tommeni glo yng Nghymru ac adolygu’r polisi presennol a’r fframwaith deddfwriaethol sy’n ymwneud â rheoli tomenni glo segur. Mae Llywodraeth Cymru yn arwain ar gydgysylltu a chyflawni’r rhaglen waith yn ogystal â’r trefniadau llywodraethu ar ei chyfer.
Comisiynwyd yr Awdurdod Glo i gynnal archwiliadau tir brys o domenni glo yng Nghymru, gan nodi unrhyw waith brys a statws risg pob tomen.
Cynhaliwyd rownd gyntaf yr archwiliadau o domenni ym mis Gorffennaf 2020. Disgwylir i ail rownd yr archwiliadau o domenni risg uchel ddod i ben y mis hwn. Mae’r Awdurdod Glo wedi cefnogi Awdurdodau Lleol drwy gynnal rhai o’r archwiliadau ar y tomenni risg uchel hyn. Mae’r archwiliadau’n nodi’r gofynion cynnal a chadw a’r amserlenni y bydd angen eu bodloni i gwblhau’r gwaith. Mewn ambell achos, mae’r archwiliadau wedi tynnu sylw at waith sydd angen ei wneud ar unwaith er mwyn sicrhau bod y domen yn cael ei chynnal a’i chadw i’r safon angenrheidiol i alluogi gwaith monitro arferol. Yn yr achosion hyn, rydym wedi annog Awdurdodau Lleol i gyflawni’r gwaith angenrheidiol ar unwaith.
Mewn partneriaeth â’r Awdurdod Glo, Awdurdodau Lleol, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru, mae’r tasglu wedi gwneud cynnydd sylweddol o ran cael darlun manwl o dirwedd y tomenni glo ledled Cymru, gyda 2144 o domenni glo wedi’u nodi, yn bennaf yng nghymoedd y De. Mae’r rhan fwyaf o domenni glo dan berchnogaeth breifat gydag eraill o dan reolaeth Awdurdodau Lleol, Cyfoeth Naturiol Cymru a’r Awdurdod Glo.
Mae Awdurdodau Lleol wedi cael y dasg o sicrhau bod unrhyw waith angenrheidiol a nodwyd yn sgil yr archwiliadau yn cael ei wneud, drwy weithio gyda’r Awdurdod Glo ac unrhyw berchnogion preifat i ddiogelu uniondeb strwythurol y tomenni yn eu hardaloedd.
Mae nifer o Awdurdodau Lleol wedi dechrau ar y gwaith gan gynnwys yn Tylorstown, lle mae Afon Rhondda Fach yn cael ei chlirio i’w gwneud yn bosibl i’r brif raglen waith ddechrau’r haf hwn.
Ni ddylid tanbrisio cymhlethdod ac amseroldeb y math hwn o waith. Mae nifer o ffactorau i’w hystyried mewn perthynas ag unrhyw waith adfer, yn enwedig yr amgylchedd.
Daeth adolygiad o’r ddeddfwriaeth bresennol gan y tasglu i’r casgliad nad yw’n ddigon cadarn nac yn addas i’r diben mewn perthynas â chyfundrefnau archwilio a chynnal a chadw. Nid yw’r ddeddfwriaeth bresennol yn mandadu archwiliadau rheolaidd o domenni nas defnyddir nac ychwaith yn mandadu archwiliad pan fydd tomen yn peidio â chael ei defnyddio mwyach. Ym mis Tachwedd, gwahoddwyd Comisiwn y Gyfraith yn ffurfiol i gynnal adolygiad annibynnol o’r ddeddfwriaeth berthnasol a darparu argymhellion ar gyfer Bil yn y dyfodol. Bydd yr adolygiad yn mynd rhagddo am 15 mis a dylai ymgynghoriad Comisiwn y Gyfraith ddechrau yn y gwanwyn eleni.
Mae’r tasglu’n datblygu polisïau ochr yn ochr â gwaith Comisiwn y Gyfraith. Yr amcan polisi tymor hwy yw datblygu ffordd gyson o weithio ledled Cymru ar gyfer asesiadau risg a chategorïau risg. Bydd trefniadau rheoli, gan gynnwys cronfa ddata ganolog, ar gyfer pob tomen hefyd yn cael eu datblygu.
Bydd cyfundrefn gadarn ar gyfer archwilio a chynnal a chadw yn sicrhau bod diogelu ein cymunedau yn parhau i fod yn flaenoriaeth, gyda phobl sy’n byw gerllaw tomenni glo yn teimlo’n ddiogel. Mae’r tasglu hefyd wedi bod yn gweithio gyda Grŵp Risg Cymru Gyfan i godi ymwybyddiaeth gyda Fforymau Lleol Cymru Gydnerth am gysylltiadau diogelwch tomenni glo â Chofrestri Risg Cymunedol a Chynlluniau Argyfwng.
Er mwyn cefnogi’r gyfundrefn fonitro yn y dyfodol i asesu sefydlogrwydd tomenni glo yn barhaus, rydym yn darparu cyllid i gefnogi treialu offer synhwyro y gellir ei roi ar domenni glo a monitro unrhyw symudiad. Bydd hyn yn ei gwneud yn bosibl i asesu gwahanol ddulliau gweithredu i sicrhau bod y ffordd fwyaf priodol o weithio yn cael ei defnyddio ar draws tomenni risg uchel.
Mae tomenni glo yn waddol hanes diwydiannol Cymru cyn cyfnod datganoli. Fodd bynnag, nid yw’r risgiau a’r rhwymedigaethau sy’n gysylltiedig â’r gwaddol hwn yn cael eu hadlewyrchu yn y fframwaith cyllidol presennol. Mae’r cyllid sydd ei angen ar gyfer gwaith adfer a chynnal a chadw brys wedi’i drafod gyda Llywodraeth y DU ar gyfer 2020/21 fel rhan o’r pecyn ariannu i gefnogi adferiad yn dilyn y stormydd y llynedd. Bydd y £9 miliwn a gafwyd yn cael ei ddefnyddio i gefnogi gwaith adfer Tylorstown a’r gwaith cynnal a chadw brys uniongyrchol sydd ei angen ar domenni risg uchel eraill. Mae’r rhaglen adfer hirdymor yn debygol o fynd rhagddi am hyd at 10 mlynedd a bydd angen pecyn ariannu cynhwysfawr.
Gallwn ni gael rhagor o law yng Nghymru o hyd y gaeaf hwn. Gall hyn gynyddu’r risg llifogydd yn ogystal â pheri risg i ddiogelwch tomenni mewn rhai amgylchiadau. Prif flaenoriaeth y tasglu yw helpu i sicrhau bod y gwaith gwirio a chynllunio angenrheidiol yn cael eu gwneud i ddiogelu ein cymunedau ond gofynnwn i bobl roi gwybod am unrhyw bryderon am domenni glo neu gael cyngor diogelwch gan linell gymorth 24/7 yr Awdurdod Glo ar 0800 021 9230 neu drwy tips@coal.gov.uk