Ar Ddiwrnod Rhyngwladol Menywod a Merched mewn Gwyddoniaeth, tynnodd y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip Jane Hutt sylw at rai o'r menywod anhygoel sy'n arwain y frwydr yn erbyn Covid yng Nghymru a phwysigrwydd astudio STEM.
Ar Ddiwrnod Rhyngwladol Menywod a Merched mewn Gwyddoniaeth, tynnodd y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip Jane Hutt sylw at rai o'r menywod anhygoel sy'n arwain y frwydr yn erbyn Covid yng Nghymru a phwysigrwydd astudio STEM.
Dywedodd Jane Hutt:
Mae pandemig COVID-19 wedi tynnu sylw at rôl hanfodol gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg (STEM) yn y byd heddiw. Nid yw gweithwyr STEM proffesiynol erioed wedi bod fwy yn llygad y cyhoedd.
Mae'n hanfodol bwysig ein bod, ar Ddiwrnod Rhyngwladol Menywod a Merched mewn Gwyddoniaeth, yn cynyddu amlygrwydd, pwysigrwydd ac apêl gwyddoniaeth i bawb.
Drwy rannu straeon am fodelau rôl benywaidd mewn STEM yn ystod y pandemig, gallwn ysbrydoli a chymell rhagor o ferched a menywod i astudio pynciau STEM gobeithio, gan sicrhau eu bod ar lwybr tuag at yrfa werth chweil.
Dwy fenyw yn benodol yr oeddwn eisiau tynnu sylw atynt yw Dr Catherine Moore a Dr Emma Hayhurst.
Arweiniodd Dr Catherine Moore, Gwyddonydd Clinigol Ymgynghorol, yr ymdrech i gael profion COVID-19 yng Nghymru o fewn mis iddo gael ei gydnabod fel y coronafeirws newydd. Arweiniodd hyn at labordy microbioleg Iechyd Cyhoeddus Cymru yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd, yn dod yn ail yn y DU i allu profi am y feirws.
Mae Dr Hayhurst yn brif wyddonydd ar brosiect ym Mhrifysgol De Cymru, yn datblygu prawf cyflym ar gyfer COVID-19. Mae’r prawf yn gyflym ac yn gludadwy, nid oes angen ei brosesu mewn labordy a gall y canlyniadau fod ar gael mewn llai na 30 munud.
Daeth Jane Hutt i’r casgliad:
Mae nifer o enghreifftiau o fodelau rôl benywaidd mewn STEM yng Nghymru sydd wedi dod i amlygrwydd yn ystod pandemig COVID-19 ac fe hoffwn i dalu teyrnged i’w holl waith anhygoel.
Pa well diwrnod na Diwrnod Rhyngwladol Menywod a Merched mewn Gwyddoniaeth i ddangos pa mor bwysig yw astudio pwnc STEM ond, yn bwysicach, i arddangos i'r byd mai dyma rai o'r menywod anhygoel sy'n arwain y frwydr yn erbyn Covid-19 yng Nghymru.