John Puzey
Gwobr Dyngarol enillydd 2021
Mae John Puzey yn ymgyrchydd tai blaenllaw a bu'n gyfarwyddwr Shelter Cymru sef prif elusen tai a digartrefedd annibynnol Cymru am fwy na 30 mlynedd nes iddo ymddeol ym mis Hydref 2020.
Bu'n goruchwylio twf a datblygiad yr elusen i ddarparu ystod eang o wasanaethau cyngor ar dai yn ogystal â chynyddu ei phroffil ymgyrchu a pholisi. Dechreuodd Shelter Cymru ddarparu cyngor mewn pum ardal awdurdod lleol ac mae wedi tyfu i ddarparu cyngor ar dai ledled Cymru, mewn lleoliadau wyneb yn wyneb a thrwy wasanaeth ffôn rhad ac am Ddim i Gymru gyfan, gan gefnogi tua 20,000 o bobl y flwyddyn.
O dan ei arweiniad, ymatebodd Shelter Cymru yn gyflym i argyfwng Covid-19, gan sicrhau bod yr holl wasanaethau'n aros yn eu lle a'u bod yn gallu parhau i gynghori a chefnogi pobl sydd angen tai.
Mae wedi gwasanaethu ar nifer o grwpiau cynghori Llywodraeth Cymru yn fwyaf diweddar Grŵp Gweithredu Digartrefedd Gweinidogion Tai. Roedd yn un o gadeiryddion sefydlu Rough Sleepers Cymru a Fforwm Tai Cymru.
Mae John wedi ysgrifennu neu gyfrannu at ystod eang o adroddiadau a chyhoeddiadau yn ymwneud â thai a digartrefedd ac mae'n siaradwr cyhoeddus a darlledwr mynych ar dai a materion cysylltiedig.
Yn ei amser hamdden, mae'n Gadeirydd Cymdeithas Ffilm Pontardawe.