Nathan Wyburn
Enwebiad ar gyfer gwobr Diwylliant a chwaraeon
Mae Nathan Wyburn yn artist arloesol o Gymru sy'n defnyddio ei gariad at gelf i gysylltu â phobl a chymunedau drwy greu darluniau gyda neges gref gan ddefnyddio amrywiaeth o ddeunyddiau sydd wedi dal dychymyg y cyhoedd. Yn wreiddiol o Lynebwy, daeth Nathan yn enwog yn sydyn ar Britain's Got Talent drwy beintio portread o Simon Cowell gan ddefnyddio Marmite. Ers hynny, mae Nathan wedi datblygu gyrfa fel artist cyfoes, gan helpu i ysbrydoli pobl ifanc drwy addysgu celf mewn ysgolion, yn ogystal â gwneud gwaith elusennol.
Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae ei bortread o nyrs mewn cyfarpar diogelu personol llawn a grëwyd allan o ddelweddau bach o weithwyr iechyd wedi dod yn un o ddelweddau eiconig pandemig COVID-19, nid yn unig yn y DU ond ledled y byd. Mae'r ddelwedd hefyd wedi cael ei defnyddio ledled y DU, ac mewn ysbytai maes gan gynnwys ysbyty Calon y Ddraig yn Stadiwm Principality. Defnyddiodd Nathan y ddelwedd hefyd i godi arian i elusennau'r GIG. Drwy ei gelf, mae Nathan wedi cyfleu negeseuon cryf wrth godi proffil Cymru yn rhyngwladol.