Delwyn Derrick
Gwobr Diwylliant a Chwaraeon enillydd 2021
Sefydlodd Delwyn Derrick Glwb Pêl-droed Rhyngwladol Bellvue i hybu cynhwysiant drwy uno pobl o amrywiol wledydd tramor a phobl eraill sy’n byw yn ardal Wrecsam, yr ystyrir eu bod o gefndiroedd anodd. Roedd hyn yn cynnwys pobl a oedd wedi profi amserau caled iawn, gan cynnwys ffoaduriaid a cheiswyr lloches. Drwy uno ei gariad at bêl-droed a’i ymdeimlad o gymuned a chynhwysiant llwyddodd i wneud llawer yn fwy na sefydlu tîm pêl-droed.
Drwy chwaraeon mae Delwyn wedi llwyddo i ddod â chydlyniant cymunedol ac integreiddio cymdeithasol, rhywbeth sydd yn allweddol er mwyn mynd i’r afael â thensiynau cymunedol a throseddau casineb. O dan arweinyddiaeth Delwyn, mae ef a’r clwb wedi ennill nifer o wobrau a thlysau - fel Cwpan Enillwyr Cymunedol Wrecsam 2018, Gwobrau Cymunedol Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gogledd Cymru 2018, Gwobr Chwaraeon y Daily Post 2018, Arwr Tawel Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn BBC Cymru 2019, a’r wobr am Stori Orau Gogledd-ddwyrain Cymru ar gyfer Pêl-droed ar Lawr Gwlad yng Ngwobrau Cymdeithas Bêl-droed Cymru a McDonald’s 2020. Mae’r gwobrau’n cydnabod nod Delwyn o wneud pêl-droed yn gamp sy’n fwy cynhwysol.