Deial i Deithio Sir Ddinbych
Gwobr Ysbryd y gymuned enillydd 2021
Mae gwasanaeth Deial i Deithio yn y Rhyl, Sir Ddinbych, yn cynnig cludiant gwbl hygyrch o ddrws i ddrws i bobl yn Sir Ddinbych sydd methu defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus gyffredin.
Roedd pandemig COVID-19 yn golygu bod angen newid y ffordd roedd yr elusen yn gweithredu. Ym mis Mawrth 2020, ar ôl y cyhoeddiad am gyfnod clo, gwnaethant gyflwyno gwasanaeth newydd i gasglu presgripsiynau a siopa i unrhyw un oedd eu hangen - er enghraifft pobl oedd yn gwarchod eu hunain - yn hytrach nag i’r aelodau yn unig. Cyflwynwyd yr elusen i grŵp mawr o ddefnyddwyr newydd.
Maent hefyd wedi cyflwyno’n ddiweddar y gwasanaeth ‘Buddy’ lle y mae teithwyr yn medru gofyn i un o yrwyr Deial i Deithio fynd gyda nhw i siopa, ac mae hyn wedi eu helpu i adennill eu hyder.
Mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn sialens i’r tîm, ond maent yn agosach at ei gilydd nawr ac yn fwy penderfynol nag erioed i barhau i ddarparu gwasanaeth gwerthfawr i bobl sydd yn agored i niwed yn eu cymuned.