Esbonio pwy sy'n weithiwr gofal cymdeithasol rheng flaen yng ngrŵp blaenoriaeth 2 ar gyfer brechu COVID-19.
Cynnwys
Trosolwg
Rydym am sicrhau ein bod yn lleihau marwolaeth o COVID-19 cymaint â phosibl. Mae'r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) wedi ystyried sut i wneud hyn drwy frechu'r grwpiau mwyaf bregus yn gyntaf. Maent wedi creu rhestr o grwpiau blaenoriaeth brechu. Mae'r canllawiau yma'n edrych ar ddiffiniad gweithiwr gofal cymdeithasol yng ngrŵp blaenoriaeth 2.
Diffiniad o weithiwr gofal cymdeithasol rheng flaen
Pwy ydym ni'n ystyried fel gweithwyr gofal cymdeithasol rheng flaen at ddibenion nodi pobl ddylai fod yng ngrŵp blaenoriaeth 2 ar gyfer brechu yn erbyn COVID-19?
Diffiniad y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI)
Mae’r Cydbwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu yn nodi’r canlynol o ran blaenoriaethu gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen
Mae'r pwyllgor yn ystyried bod gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen sy'n darparu gofal i bobl agored i niwed yn flaenoriaeth uchel ar gyfer y brechlyn.
Ystyrir bod gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen sydd mewn perygl mawr o gael eu heintio, mewn perygl mawr fel unigolion o ddatblygu salwch difrifol, neu mewn perygl o drosglwyddo haint i nifer o bobl agored i niwed neu staff eraill mewn amgylchedd gofal iechyd, yn flaenoriaeth uwch ar gyfer cael y brechlyn na'r rhai sydd mewn llai o berygl. Dylid ystyried y flaenoriaeth hon wrth roi’r brechlynnau.
Disgrifiad y Llyfr Gwyrdd o staff gofal cymdeithasol
Mae pennod 14a y Llyfr Gwyrdd yn disgrifio staff gofal cymdeithasol rheng flaen fel pobl sy’n:
- Gweithio mewn cartrefi gofal preswyl a nyrsio arhosiad hir neu gyfleusterau gofal arhosiad hir eraill lle bydd haint yn lledaenu’n gyflym ac yn achosi lefelau uchel o salwch a marwolaeth
- Staff gofal cymdeithasol sy'n ymwneud yn uniongyrchol â gofal eu cleifion neu gleientiaid
- Eraill sy'n ymwneud yn uniongyrchol â darparu gofal cymdeithasol mewn modd sy’n golygu eu bod nhw a’u cleifion/cleientiaid agored i niwed mewn mwy o berygl o ddod i gysylltiad â’r haint
Canllawiau Bwrdd Brechlynnau COVID-19 Llywodraeth Cymru
Diben y canllawiau hyn yw rhoi eglurder a chysondeb a sicrhau ein bod yn brechu'r gweithwyr gofal cymdeithasol hynny mewn modd a fydd yn cael yr effaith fwyaf ar farwolaethau cyn gynted â phosibl. Bydd angen elfen o farn broffesiynol, ond dylai hyn fod o fewn y paramedrau a nodir yn y canllawiau hyn.
Dylai cymhwysedd gweithwyr gofal cymdeithasol rheng flaen fod yn seiliedig ar y ffactorau canlynol:
Pa mor agored i niwed yw'r person sy'n cael gofal neu gymorth:
- Y rhai sy'n 65 oed a hŷn (grŵp 5)
- Y rhai a ystyrir sy’n eithriadol o agored i niwed yn glinigol (grŵp 4)
- Y rhai â chyflyrau iechyd sy’n bodoli eisoes (grŵp 6)
- Plant o dan 16 oed sydd ag anghenion meddygol cymhleth/niwro-anableddau difrifol
Natur y gofal neu'r cymorth a ddarperir:
- Gofal personol fel y'i diffinnir yn Neddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol 2016 ac a eglurwyd ymhellach gan Arolygiaeth Gofal Cymru yn eu nodyn cyfarwyddyd (Atodiad Un). Mae gwasanaethau gofal cartref a chartrefi gofal wedi'u cofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru i ddarparu gofal personol ac felly byddem yn disgwyl i gyflogeion y gwasanaethau hyn sy'n darparu gofal personol gael eu cynnwys. Dylid cynnwys Cynorthwywyr Personol os yw eu dyletswyddau'n cynnwys gofal personol.
- Byddai disgwyl i ofal ar gyfer plant o dan 16 oed sydd â niwro-anableddau difrifol fynd y tu hwnt i dasgau cymorth dyddiol a gofal plant arferol y byddai darparwyr gofal yn eu darparu ar gyfer plentyn. Dylai’r gofal gael ei roi yn aml a gallai gynnwys tasgau megis, er enghraifft, gofalu am diwb traceostomi, sugno’r llwybr anadlu, adleoli i reoli mannau pwyso, ac ymyriadau gofal fel ffisiotherapi anadlol.
- Cyswllt rheolaidd ac am gyfnod hir â phobl yn y categorïau risg a ddiffinnir uchod er mwyn darparu cymorth lle nad yw'n bosibl cadw pellter cymdeithasol a/neu wisgo gorchudd wyneb. Gallai hyn gynnwys, bobl sy'n gweithio yn y sector tai â chymorth er enghraifft, ar yr amod bod hyn yn bodloni'r meini prawf a amlinellir uchod mewn perthynas â’r math o gyswllt a natur fregus y person sy'n derbyn gofal a chymorth. Gall enghreifftiau o hyn gynnwys:
- ymyrryd mewn ymddygiad heriol
- ymyrryd mewn ymddygiad hunan-niweidiol neu beryglus
- cymorth o ddydd i ddydd i berson ag anabledd dysgu difrifol nad yw’n gallu cadw pellter cymdeithasol
- cyswllt hir ac agos oherwydd eu bod yn dysgu sgiliau bywyd mewn lleoliad cyfyngedig
Nid yw cymhwysedd yn seiliedig ar:
- Y lleoliad lle rhoddir gofal neu gymorth. Gallai hyn fod yn gartref i'r unigolyn ei hun, cartref gofal, lleoliad byw â chymorth, tai â chymorth, canolfan ddydd.
- Cyflogaeth. Gallai gynnwys staff awdurdod lleol, staff y sector annibynnol, gweithwyr hunangyflogedig, staff asiantaeth.
Y byrddau iechyd, gan weithio gyda'u priod Gyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol, sy'n bennaf gyfrifol am nodi’r gweithwyr gofal cymdeithasol cymwys, yn seiliedig ar y prif nod o sicrhau cyfraddau brechu uchel ymhlith gweithwyr gofal cymdeithasol rheng flaen, gan gydnabod bod y cyflenwad o frechlynnau yn gyfyngedig a bod yn rhaid ei ddefnyddio ar gyfer y rhai sy'n wynebu'r risg fwyaf o salwch difrifol a marwolaeth. Dylent sicrhau bod cymhwysedd yn gyson ar draws y system.
Bydd yr awdurdod lleol a gwasanaethau brechu'r GIG yn gweithio mewn partneriaeth i gyrraedd pob gweithiwr gofal cymdeithasol rheng flaen cymwys ym mha bynnag sector y maent yn gweithio ynddo.
Nid yw brechu yn dileu'r gofyniad i sefydlu mesurau lliniaru gan gynnwys cadw pellter cymdeithasol, hylendid dwylo, glanhau arwynebau a lefelau da o awyru. Mae mesurau atal a rheoli heintiau llym sy'n briodol i'r lleoliad a'r gofal sy'n cael ei ddarparu yn parhau i fod yn hanfodol.