Absenoldeb oherwydd salwch y GIG: Gorffennaf i Fedi 2020
Data ar gyfraddau absenoldeb salwch y staff a gyflogir yn uniongyrchol gan y GIG ar gyfer Gorffennaf i Fedi 2020.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Mae'r datganiad ystadegol hwn yn cyflwyno gwybodaeth am absenoldeb oherwydd salwch staff yn y GIG yng Nghymru. Dangosir gwybodaeth newydd ar gyfer y chwarter a ddaeth i ben ar 30 Medi 2020, sy'n cynnwys haf cyntaf y pandemig coronafeirws. Mae data ar gyfer mis Ebrill i fis Mehefin 2020 wedi'i ddiwygio.
Mewn ymateb i’r pandemig coronafeirws (COVID-19) presennol, mae gwybodaeth reoli ychwanegol a mwy amserol yn cael ei chasglu ar absenoldeb oherwydd salwch. Nid yw'n cael ei chasglu ar yr un sail â'r hyn a gyhoeddwyd yn y datganiad chwarterol hwn, ac felly bydd y ffigurau'n wahanol.
Mae’r wybodaeth reoli yn awgrymu bod cyfartaledd dyddiol o tua 2,650 (2.7%) o staff yn hunanynysu dros y chwarter yn dod i ben 30 Medi 2020, gyda’r ffigurau yn lleihau pob mis i gyfartaledd o dan 2,000 yn ystod mis Medi. Mae’n debygol mai gwarchod yn dod i ben am y tro yng nghanol mis Awst yw achos y gostyngiad hwn gan fod y rhai sy’n gwarchod yn cael eu cynnwys yn y cyfrif hunanynysu. Bydd rhai o’r staff hyn wedi bod yn gweithio gartref. Cyhoeddir gwybodaeth ar coronafeirws a gweithgarwch a chapasiti'r GIG mewn diweddariad wythnosol.
Mae staff eithriadol o agored i niwed yn glinigol ar y rhestr gwarchod, ac felly nad ydynt yn y gwaith oherwydd hyn, yn cael eu cynnwys yn y cyfrif hunanynysu. Yn yr ystadegau swyddogol hyn, nid yw staff y GIG sy'n hunanynysu neu’n gwarchod yn cael eu cyfrif fel rhai sy'n sâl, ac felly nid ydynt wedi'u cynnwys yn yr ystadegau absenoldeb oherwydd salwch chwarterol hyn. Dylid parhau i ystyried yr ystadegau swyddogol yn ffynhonnell awdurdodol data ar absenoldeb oherwydd salwch yn y GIG yng Nghymru.
Daw'r data o Gofnod Staff Electronig y GIG a ddarperir gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru.
Cyhoeddir y data sydd wedi’i gynnwys yn y datganiad hwn ar StatsCymru.
1. Prif bwyntiau
- Roedd y gyfradd absenoldeb oherwydd salwch yn 5.1%, i lawr 0.3 pwynt canran o gymharu â’r chwarter yn dod i ben Medi 2019.
- Yn dilyn gostyngiad graddol yn ystod 2015 i 2017, mae’r cyfartaledd wedi bod yn cynyddu ac roedd yn 5.9% dros y flwyddyn ddiwethaf, yn bennaf oherwydd y cynnydd yn y chwarter Ebrill i Fehefin 2020 yn ystod y pandemig COVID-19.
- Bwrdd iechyd lleol Bae Abertawe oedd â’r gyfradd absenoldeb oherwydd salwch uchaf, 6.2%.
- Awdurdod Iechyd Arbennig Addysg a Gwella Iechyd Cymru oedd â’r gyfradd absenoldeb oherwydd salwch isaf, 1.2%.
- Y grŵp staff â’r gyfradd absenoldeb oherwydd salwch uchaf oedd Cynorthwywyr a Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd, 7.3%.
- Y grŵp staff â’r gyfradd absenoldeb oherwydd salwch isaf oedd staff Meddygol a Deintyddol, 1.4%.
2. Tueddiadau yn y gyfradd absenoldeb oherwydd salwch
Mae absenoldeb oherwydd salwch yn dangos amrywiad tymhorol eang drwy gydol y flwyddyn gyda'r gyfradd yn is yn yr haf ac yn uwch yn y gaeaf. Er mwyn darparu gwybodaeth gliriach am newidiadau hirdymor i gyfradd absenoldeb oherwydd salwch dangosir cyfartaledd symudol 12 mis yn Siart 1. Mae’r siart yn dangos bod y cyfartaledd symudol 12 mis wedi lleihau ychydig yn y misoedd diwethaf (yn dilyn uchafbwynt o 6.0% yn y 12 mis yn diweddu Mehefin 2020) gyda’r cyfartaledd am y 12 mis yn diweddu Medi 2020 yn 5.9%.
Mae’r siart hefyd yn dangos mai cyfradd absenoldeb oherwydd salwch mis Ebrill 2020 yw’r gyfradd fisol uchaf a gofnodwyd (7.5%). O ystyried yr amseriad mae hyn yn fwy na thebyg oherwydd COVID-19. Nid yw staff y GIG sy'n hunanynysu, sy’n cynnwys staff sy’n gwarchod, yn cael eu cyfrif fel rhai sy'n sâl ac felly nid ydynt wedi'u cynnwys yn yr ystadegau hyn. Gellir dod o hyd i gyfraddau absenoldeb oherwydd salwch misol yn ôl sefydliad a grŵp staff ar StatsCymru.
3. Absenoldeb oherwydd salwch yn ôl sefydliad y GIG
Bwrdd iechyd lleol Bae Abertawe oedd a’r gyfradd oherwydd salwch uchaf (6.2%) o holl sefydliadau’r GIG y chwarter yma, gyda’r gyfradd isaf yn Addysg a Gwella Iechyd Cymru (1.2%).
Bae Abertawe oedd a’r gyfradd oherwydd salwch uchaf (6.2%) o’r holl fyrddau iechyd lleol (BILlau) ar gyfer y chwarter yn diweddu 30 Medi 2020, gyda’r gyfradd isaf ym Mhowys (4.4%).
Roedd y gyfradd oherwydd salwch yn is ym mhob ond dau o’r un ar ddeg sefydliad yn y chwarter Gorffennaf - Medi 2020 o gymharu â’r flwyddyn flaenorol. Yr eithriadau oedd BILl Bae Abertawe lle'r oedd y gyfradd yn uwch; ac arhosodd y gyfradd yr un peth ym Mhowys.
Mae data ar gyfer pob sefydliad ar gael ar StatsCymru.
4. Absenoldeb oherwydd salwch yn ôl grŵp staff
O’r chwe grŵp staff, Cynorthwywyr a Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd oedd â’r gyfradd absenoldeb oherwydd salwch uchaf y chwarter yma (7.3%).
Staff Meddygol a Deintyddol oedd â’r gyfradd absenoldeb oherwydd salwch isaf y chwarter yma (1.4%) fel sydd wedi bod yn wir ers dechrau casglu data yn 2009.
Roedd y gyfradd oherwydd salwch yn is ym mhob grŵp staff yn y chwarter Gorffennaf i Medi 2020 o gymharu â’r flwyddyn flaenorol.
Mae data ar gyfer pob grŵp staff ar gael ar StatsCymru.
5. Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg
Daw'r data o Gofnod Staff Electronig y GIG a ddarperir gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn yr adroddiad ansawdd.
Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol
Diben Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant ar gyfer Cymru. Diben y nodau yw creu Cymru sy’n fwy cyfartal, lewyrchus, cydnerth, iachach a chyfrifol yn fyd-eang, gyda chymunedau cydlynus, a diwylliant bywiog lle mae’r iaith Gymraeg yn ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, mae’n rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion ('dangosyddion cenedlaethol') y mae’n rhaid eu defnyddio at ddiben mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron y Cynulliad Cenedlaethol. Gosodwyd y 46 o ddangosyddion cenedlaethol ym mis Mawrth 2016.
Mae gwybodaeth ar y dangosyddion, ynghyd â disgrifiad o bob un o’r nodau llesiant a gwybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.
Gwybodaeth bellach ar Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.
Gallai’r ystadegau yn y datganiad hwn hefyd gyfrannu at y dangosyddion cenedlaethol a gellir eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau cyhoeddus ar gyfer llunio asesiadau llesiant lleol a chynlluniau llesiant lleol.
Diweddariad nesaf
12 Mai 2021
6. Manylion cyswllt
Ystadegydd: Bethan Sherwood
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 0300 025 6735
E-bost: ystadegau.iechyd@llyw.cymru
Cyfryngau: 0300 025 8099
SFR 40/2021