Data misol ar gleifion allanol offthalmoleg a oedd yn aros o fewn eu dyddiad targed neu o fewn 25% y tu hwnt i'w dyddiad targed ar ddiwedd mis Tachwedd 2021.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Mesurau gofal llygaid ar gyfer cleifion allanol y GIG
Mae’n dangos y nifer sy’n aros o fewn eu dyddiad targed neu o fewn 25% y tu hwnt i’r dyddiad targed ar ddiwedd pob mis. Pe bai eu dyddiad targed yn cael ei fethu, byddai risg iddynt gael niwed na ellir ei ddad-wneud neu ganlyniad andwyol sylweddol (Ffactor Risg Iechyd R1).
Ar ddiwedd Tachwedd 2021
- 127,415 o lwybrau cleifion, a oedd wedi eu hasesu’n Ffactor Risg Iechyd R1, sy’n aros am apwyntiad claf allanol; o’r rheini, roedd dyddiad targed wedi ei bennu ar gyfer 127,203 ohonynt.
- Roedd 49.0% o lwybrau cleifion, a aseswyd yn R1, yn aros o fewn eu dyddiad targed neu o fewn 25% y tu hwnt i’w dyddiad targed.
Yn ystod mis Tachwedd 2021
- Cafodd 20,895 o apwyntiadau eu mynychu gan gleifion a oedd wedi eu hasesu’n Ffactor Risg Iechyd R1; o’r rheini, roedd dyddiad targed wedi ei bennu ar gyfer 17,524 ohonynt.
- Roedd 63.1% o apwyntiadau a fynychwyd, a aseswyd fel R1, wedi aros am gyfnod o fewn y dyddiad targed neu am gyfnod o fewn 25% y tu hwnt i’r dyddiad targed.
Cyswllt
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Rhif ffôn: 0300 025 5050
E-bost: hss.performance@llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.