Mae Llywodraeth Cymru a Chonsortiwm Sizewell C wedi llofnodi Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth. Gallai'r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth arwain at fuddsoddiad o hyd at £900 miliwn yng nghadwyn gyflenwi niwclear Cymru ac at gefnogi hyd at 4,700 o swyddi ledled Cymru, os rhoddir sêl bendith i'r orsaf bŵer.
Mae Consortiwm Sizewell C yn sefydliad o bron 200 o fusnesau ac undebau llafur sy’n rhan o gadwyn gyflenwi niwclear y DU ac sy'n canolbwyntio ar adeiladu'r orsaf ynni niwclear nesaf yn Sizewell C.
Pan fydd y gwaith ar orsaf niwclear Hinkley Point C yng Ngwlad yr Haf yn nesáu at ei derfyn, mae'r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth hwn yn amlinellu’r cyfle i fusnesau o Gymru fod yn rhan o'r gadwyn gyflenwi ar gyfer yr adeilad nesaf yn Sizewell C.
Mae gan Gymru hanes hir o weithio gyda'r sector niwclear o'r adeg pan agorodd Trawsfynydd ym 1965, ac mae yma nifer o fusnesau arbenigol sy'n darparu ar gyfer y sector.
Yn ogystal â chynnig cyfleoedd buddsoddi a chyflogaeth, bydd y Memorandwm
Cyd-ddealltwriaeth hwn yn helpu i gynnal y sylfaen sgiliau niwclear sydd gennym yng Nghymru, ac sydd wedi cael ei bywiocáu drwy’r gadwyn gyflenwi ar gyfer Hinkley Point C.
Dywedodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi:
"Mae gan Gymru hanes cryf o arbenigedd a gallu ym maes ynni niwclear. Erbyn hyn, mae nifer o fusnesau ledled y wlad wedi hen ennill eu plwyf yn y gadwyn gyflenwi niwclear fyd-eang ac os bydd Sizewell C yn cael sêl bendith, maen nhw bellach ar fin elwa unwaith eto.
"Er ein bod wedi cael newyddion siomedig yn ddiweddar am Wylfa Newydd, rydyn ni’n parhau’n ymrwymedig i'r prosiect hwnnw ac i'r gadwyn gyflenwi. Mae'r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth hwn yn dangos bod galw am yr arbenigedd sydd gan Gymru yn y diwydiant niwclear, a bod modd manteisio ar yr arbenigedd hwnnw ledled y DU a thu hwnt.
Dywedodd Cameron Gilmour, Llefarydd ar ran Consortiwm Sizewell C:
"Mae'r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth hwn yn arwydd o fwriad y diwydiant niwclear i sicrhau bydd Sizewell C yn darparu swyddi ac yn meithrin sgiliau a thwf economaidd hirdymor ledled Cymru. Mae'r Consortiwm – sydd â dros 200 o aelodau o bob rhan o'r DU – yn benderfynol o adeiladu ar dreftadaeth falch Cymru ym maes ynni niwclear, ac mae bellach yn barod i wneud hynny.
"Mae angen inni barhau â’r broses o gymeradwyo Sizewell C er mwyn sicrhau'r manteision i gyflenwyr niwclear yng Nghymru.
Datganiad ar y Cyd ar ran undebau Unite Wales, GMB a Prospect:
"Mae hyn yn newyddion pwysig ac amserol i weithwyr a busnesau ledled Cymru. O Drawsfynydd i’r Wylfa, mae gan y diwydiant niwclear hanes balch yng Nghymru. Mae sgiliau, swyddi da a chymunedau wedi cael eu cynnal ganddo. Erbyn hyn, mae angen prosiectau niwclear newydd yn fwy nag erioed.
"Mae Sizewell C yn barod i fynd. Bydd yn cefnogi miloedd o swyddi medrus yng Nghymru a hefyd y gwaith o ddatblygu diwydiant sydd ar flaen y gad ac sy’n angenrheidiol er mwyn sicrhau’r newid i ynni glân, gwyrdd, sero net. Mae'r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth hwn yn nodi sut gellir mynd ati i gyrraedd y nod hwnnw.
Dywedodd Georgia Gascoyne, Cyfarwyddwr a Chadeirydd Fforwm Niwclear Cymru:
"Rydyn ni wrth ein bodd bod Llywodraeth Cymru yn llofnodi Memorandwm Cyd-ddeallwriaeth gyda Chonsortiwm Sizewell C. Mae’n dangos faint o ymrwymiad sydd ’na i sicrhau bod busnesau Cymru yn elwa ar y prosiect hwn yn yr un modd ag y gwnaethon nhw gyda Hinkley Point C (HPC).
Dywedodd yr Athro Bill Lee FREng, Athro Sêr Cymru a Chyfarwyddwr y Sefydliad Dyfodol Niwclear ym Mhrifysgol Bangor:
"Mae tîm y Sefydliad Dyfodol Niwclear ym Mhrifysgol Bangor yn falch o gael cefnogi'r prosiect cenedlaethol pwysig hwn. Rydyn ni’n credu bod pob datblygiad niwclear newydd sy’n cael ei adeiladu o fudd i'r DU, ac y bydd hefyd yn cryfhau uchelgais Gogledd Cymru ym maes ynni niwclear. Bydd manteision Sizewell C yn bellgyrhaeddol ac yn hirhoedlog.