Neidio i'r prif gynnwy

Darganfyddwch pryd a sut i dalu Treth Trafodiadau Tir (TTT) i Awdurdod Cyllid Cymru (ACC).

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Mawrth 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

O ganlyniad i’r gostyngiad yng nghyfradd llog Banc Lloegr (a gyhoeddwyd ar 1 Awst 2024), bydd ein cyfradd llog yn gostwng a bydd yn dod i rym o 7 Awst 2024.

Pryd i dalu

Unwaith y bydd ffurflen dreth wedi’i chyflwyno, mae angen i'r trethdalwr neu gyfreithiwr neu drawsgludydd ar eu rhan dalu unrhyw dreth sy'n ddyledus.

Mae TTT yn dreth a hunanasesir. Cyfrifoldeb y trethdalwr yw cwblhau a chyflwyno ffurflen dreth gywir a thalu unrhyw dreth sy'n ddyledus.

Rhaid i chi dalu o fewn 30 diwrnod i'r diwrnod ar ôl y dyddiad y daw'r trafodiad i rym. Y dyddiad cwblhau yw’r dyddiad y daw’r trafodiad i rym fel arfer.

Rhaid i'r taliad llawn ddod i law erbyn y dyddiad mae’n ddyledus, neu efallai y codir cosbau a llog arnoch.

Sut i dalu

Os ydych yn ffeilio TTT ar-lein

Unwaith y byddwch wedi cyflwyno ffurflen dreth, mae angen i chi drefnu bod y dreth sy’n ddyledus yn cael ei thalu.

Pan fyddwch yn talu, defnyddiwch y Cyfeirnod Unigryw Trafodiad (CUT) 12 digid o'ch cyfrif ar-lein fel y cyfeirnod talu.

Dylech:

  • wirio fod y taliad yr union swm a ddangosir fel y swm sy'n ddyledus ar y ffurflen dreth
  • gwneud taliad ar wahân ar gyfer pob ffurflen dreth

Ni ddylech dalgrynnu i fyny nac i lawr i'r £ agosaf.

Os ydych yn cyflwyno ffurflen dreth bapur

Bydd angen i chi gyfrifo'r dreth er mwyn llenwi'ch ffurflen bapur a gwneud taliad.

Ni fydd gennych gyfeirnod unigryw trafodiad (CUT) hyd nes y bydd eich ffurflen bapur wedi cael ei chyflwyno a'i phrosesu â llaw. Defnyddiwch un o'r canlynol fel eich cyfeirnod talu:

  • cod post y tir\cyfenw'r prynwr
  • cod post y tir\enw sefydliad y prynwr

Er enghraifft - CF379EH\Jones

Os cewch gosb

Defnyddiwch y CUT ar yr hysbysiad cosb wrth wneud taliadau.

Ffyrdd o dalu

Taliadau digidol

Gallwch dalu drwy:

  • drosglwyddo cyllid electronig
  • CHAPS
  • BACS (rhaid anfon y taliad 4 diwrnod gwaith cyn y dyddiad y mae’n ddyledus)

Rhaid i'ch cyfeirnod taliad banc fod yn:

  • CUT (dim bylchau, llythrennau, ‘CUT’, ‘UTRN’ nac unrhyw beth arall cyn y nodau)
  • cyfeirnod talu ar gyfer ffurflen dreth bapur, er enghraifft CF379EH\Bloggs

Efallai y bydd eich taliad yn cael ei oedi os nad yw'r cyfeirnod yn cyfateb.

Manylion cyfrif ACC i'w defnyddio
Enw'r cyfrifWelsh Revenue Authority Tax
Cod didoli60 70 80
Rhif y cyfrif10028838
BancNatWest
CyfeiriadGovernment Banking CST Parklands
De Havilland Way
Horwich
Bolton
BL6 4YU
Os yw eich cyfrif dramor
Rhif y cyfrif (IBAN)GB46NWBK60708010028838
Cod Adnabod Banc (BIC)NWBKGB2L

Cymorth a chefnogaeth

Os oes gennych unrhyw ymholiadau am dalu neu os oes angen help arnoch, cysylltwch â ni.