Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething AS, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Chwefror 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae amrywiolyn De Affrica yn un o dri straen newydd sy’n peri pryder, sydd wedi dod i’r amlwg yn y misoedd diwethaf. Amrywiolyn Kent, ac amrywiolyn Brasil yw’r ddau arall.

Rydym yn olrhain y rhain yn ofalus gan eu bod yn fwy heintus ac yn symud yn gynt na straen gwreiddiol y coronafeirws, yr ydym wedi bod yn ymdrin ag ef drwy’r rhan fwyaf o’r pandemig.

Mae pedair llywodraeth y DU wedi atal y cynllun coridorau teithio, sy’n golygu bod yn rhaid i bawb sy’n glanio yn y DU bellach fod dan gwarantin am 10 diwrnod. Mae gofynion ychwanegol o ran cwarantin a phrofi hefyd wedi’u cyflwyno i bobl sy’n dychwelyd i’r DU o wledydd penodol, lle mae’r amrywiolynnau tramor hyn sy’n peri pryder wedi cael eu canfod, neu lle credir eu bod yn risg.

Rydym wedi dadlau y dylai’r gofynion hyn fod yn gymwys i bobl sy’n dychwelyd o bob lleoliad rhyngwladol, ac am ddull gweithredu ar gyfer cwarantin a rheoli ffiniau, sy’n cynnwys Gweriniaeth Iwerddon.

I’n helpu i ganfod ac atal achosion o’r amrywiolynnau tramor sy’n peri pryder, rhaid i bawb sy’n dychwelyd i Gymru o wledydd penodol o bob cwr o’r byd lle y mae wedi’i gadarnhau neu lle amheuir bod yr amrywiolynnau hyn yn bresennol, gael eu gosod o dan gwarantin, ynghyd ag aelodau eu cartref. Mae’r gofyniad i gysylltiadau yn y cartref i fod o dan gwarantin yn fesur rhagofalol ychwanegol er mwyn atal y feirws rhag lledaenu.

Caiff pob teithiwr gynnig prawf ar gyfer yr amrywiolyn. Os bydd y canlyniad yn bositif, bydd cysylltiadau’r person yn ei gartref hefyd yn cael eu profi. Anfonir yr holl brofion positif i weld beth yw’r dilyniant genom.

Yn ogystal â’r system cwarantin a phrofi hon, mae gennym system wyliadwriaeth sefydledig yng Nghymru. Mae cyfran o’r holl brofion a wneir yng Nghymru yn cael ei archwilio i weld beth yw’r dilyniant genom. Cafodd mwy na 25,000 o ddilyniannau eu cynhyrchu erbyn diwedd y llynedd – un o’r cyfraddau uchaf yn y byd.

Mae tri achos ar ddeg o amrywiolyn De Affrica wedi cael eu nodi yng Nghymru hyd yma – tri yn fwy na’r wythnos diwethaf.

Mae gan ddeg o’r achosion hyn gysylltiadau clir â De Affrica neu â theithio rhyngwladol. Yn y tri achos arall, nid oes unrhyw dystiolaeth glir ar hyn o bryd sut y gallent fod wedi dal y feirws.

Mae dau o’r achosion hyn yn y Gogledd – yn Sir Fôn ac yng Nghonwy. Mae ganddynt yr un dilyniant genom, a chawsant eu profi ar yr un diwrnod. Yng Nghastell-nedd Port Talbot mae’r trydydd achos.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynnal archwiliad fforensig manwl i bob un o’r achosion hyn i ddarganfod pryd a sut y cafodd pob person ei heintio â’r straen o Dde Affrica, a ph’un a oes unrhyw dystiolaeth ei fod wedi lledaenu’r ehangach yn y gymuned.

Ym mhob achos, byddwn yn manteisio ar sgiliau ein timau olrhain cysylltiadau llwyddiannus i edrych yn ôl ar ble mae pob achos wedi bod, a phwy y maent wedi dod i gysylltiad agos â hwy. Byddwn yn defnyddio sgiliau epidemiolegyddon Iechyd Cyhoeddus Cymru a byddwn hefyd yn defnyddio dull profi wedi’i dargedu i nodi unrhyw ledaenu pellach.

Mae’r holl straeniau newydd hyn sy’n dod i’r amlwg – straen Kent i ddechrau, sydd wedi datblygu i fod y ffurf gryfaf o’r coronafeirws yng Nghymru, a nawr amrywiolynnau De Affrica a Brasil – yn golygu ei bod yn bwysicach nag erioed ein bod yn dilyn y rheolau er mwyn cadw pob un ohonom yn ddiogel, yn enwedig y pethau sylfaenol.

Mae hyn yn golygu cadw pellter rhag eraill; golchi ein dwylo’n rheolaidd; gwisgo gorchudd wyneb pan fyddwn mewn mannau cyhoeddus dan do; sicrhau bod mannau dan do yn cael eu hawyru’n dda ac aros gartref yn syth pan fyddwn yn datblygu symptomau a threfnu i gael prawf.

 

Byddaf yn parhau i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau.