Lesley Griffiths AS, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig
Er mwyn mynd i'r afael â chamgymeriad bach, ond pwysig, yn y fersiwn gwreiddiol a gyflwynwyd ar 27 Ionawr, gyda gofid, mae'n rhaid i mi ddweud y byddaf yn gosod fersiwn newydd o Reoliadau Lles Anifeiliaid (Trwyddedu Gweithgareddau sy'n Cynnwys Anifeiliaid) (Cymru) 2021 drafft cyn bo hir.
Bwriad cyffredinol y polisi y tu ôl i'r Rheoliadau hyn, a fydd yn disodli adran 1(1) o Ddeddf Anifeiliaid Anwes 1951, yw adlewyrchu arfer gorau wrth werthu cŵn a chathod bach. Mae caniatáu i drydydd partïon masnachol werthu cŵn a chathod bach yn golygu, yn y rhan fwyaf o achosion, na fydd prynwyr yn gweld y ci na’r gath fach yn rhyngweithio â'r ast/fam neu’r brodyr a’r chwiorydd.
Mae swyddogion yn gweithio'n gyflym i ddatrys y mater ac mae dyddiad dadl newydd wedi'i bennu ar gyfer 23 Mawrth 2021. Ni ragwelir y bydd yr oedi hwn yn effeithio ar y dyddiad y daw'r rheoliadau hyn i rym, sef 10 Medi 2021.