Heddiw, mae Gweinidog Materion Gwledig Cymru wedi cyhoeddi y bydd Cadeirydd newydd yn cael ei phenodi ar gyfer Hybu Cig Cymru (HCC) – y corff statudol sy'n gyfrifol am hyrwyddo a datblygu’r sector cig oen, cig eidion a phorc yng Nghymru.
Bydd Catherine Smith, sydd wedi bod yn aelod o Fwrdd HCC ers 2017, yn cymryd yr awenau oddi wrth Kevin Roberts, y Cadeirydd presennol, ar 1 Ebrill 2021.
Mae Catherine yn ymgynghorydd busnes bwyd a chanddi fwy nag 20 mlynedd o brofiad yn y sector cig coch ym maes caffael, prosesu a gweithgynhyrchu. Mae hi hefyd yn ferch a gwraig ffermwr, ac mae hi’n byw gyda'i gŵr a’u tri o blant ar fferm gymysg yn Sir Fynwy.
Hi fydd y fenyw gyntaf i ymgymryd â'r rôl ers sefydlu HCC yn 2003.
Cyhoeddwyd y penodiad heddiw gan Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig.
Dywedodd y Gweinidog:
Hoffwn i longyfarch Catherine Smith am ei phenodiad i rôl Cadeirydd Hybu Cig Cymru – a hoffwn i ddiolch hefyd i Kevin Roberts, y Cadeirydd sy'n ymadael, am ei holl waith yn y rôl.
Mae Catherine yn dod â thoreth o brofiad i'r rôl, ar ôl gweithio o fewn cadwyn gyflenwi cig coch am ddau ddegawd a gwasanaethu fel aelod o'r bwrdd ers 2017.
Rwy'n falch iawn o gael cyhoeddi Catherine fel y Cadeirydd newydd, yn enwedig o ystyried mai hi fydd y fenyw gyntaf i ymgymryd â’r rôl – ac rwy'n gobeithio bod ei phenodiad yn adlewyrchu tueddiadau ehangach mewn busnes ledled Cymru, yn enwedig o fewn y sector amaethyddol.
Mae hi'n ymgymryd â’r rôl ar adeg enwedig o anodd, gyda'r sector cig coch yn gorfod ymateb i'r heriau sy'n gysylltiedig â phandemig COVID-19, a'r cymhlethdod a achoswyd o ganlyniad i ddiwedd cyfnod pontio'r UE yn ddiweddar.
Graddiodd Catherine yn 2000 gyda gradd anrhydedd dosbarth cyntaf mewn Rheoli Bwyd a Defnyddwyr o Brifysgol Birmingham. Drwy ei gwasanaeth ymgynghori busnes mae hi’n darparu arweinyddiaeth strategol, datblygu staff, rheoli prosiectau a darparu canllawiau technegol a gweithredol ar gyfer gweithgynhyrchwyr a phroseswyr.
Mae ei rôl bresennol ar Fwrdd HCC yn cynnwys cadeirio Gweithgor Iechyd a Lles Praidd a Buches HCC a gwasanaethu ar y pwyllgorau Archwilio a Chyfathrebu.
Dywedodd Catherine:
Ar ôl cael fy magu mewn teulu ffermio, a gweithio yn y sector bwyd am ugain mlynedd, rwy'n falch iawn o gael fy mhenodi'n Gadeirydd Hybu Cig Cymru.
Fy mlaenoriaeth fydd cyflawni ar gyfer ein talwyr lefi; ffermwyr a phroseswyr. Bydd hyn yn golygu adeiladu ein brandiau cig coch gan ddefnyddio marchnata dyfeisgar ac effeithiol, helpu ein diwydiant i fod mor broffidiol â phosibl, ac anelu at arwain y byd o ran ansawdd a chynaliadwyedd.
Mae HCC wedi ymateb i heriau pontio'r UE a phandemig COVID-19 mewn modd hyblyg, penderfynol ac arloesol. Gan adeiladu ar y cryfderau hyn bydd y sefydliad yn parhau i gyflawni'r blaenoriaethau a amlinellir yng Ngweledigaeth 2025 ac yn cefnogi'r diwydiant i gynyddu ei broffidioldeb a'i gadernid, gan weithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru a'r holl randdeiliaid yn y gadwyn gyflenwi.
Dywedodd Kevin Roberts, Cadeirydd presennol HCC:
Yn sicr rydyn ni wedi profi heriau yn y blynyddoedd diwethaf, o ganlyniad i faterion y tu hwnt i'n rheolaeth.
Rwy'n falch o'r ffordd mae HCC wedi ymateb, gan gynyddu allforion Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru yn sylweddol er gwaethaf yr ansicrwydd ynghylch Brexit, ac wedi chwarae ei ran wrth sbarduno twf mawr mewn gwerthiannau manwerthu domestig i helpu ffermwyr a defnyddwyr yn ystod pandemig COVID. Mae hyn wedi cael ei gyflawni diolch i’r llawer o waith caled a wnaed gan Gwyn Howells a’i dîm o staff.
Hoffwn i ddymuno'n dda i Catherine wrth iddi ymgymryd â rôl y Cadeirydd yn ystod y cyfnod cyffrous nesaf ar gyfer ein sector. Mae rhywfaint o ansicrwydd o hyd, ond wrth inni edrych i'r dyfodol mae ein brandiau'n gryf iawn; rydym yn cynnig yr hyn sydd ei eisiau ar ein defnyddwyr – bwyd o ansawdd uchel, y gellir ei olrhain yn ôl i'r fferm, ac enw da byd-eang o ran safonau amgylcheddol a lles.